Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gorchmynion Amddiffyn Plant Brys


Summary (optional)
Gwneir Gorchymyn Amddiffyn Brys pan fydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl enbyd, a’i bod yn bosib y bydd yn rhaid mynd ag ef neu hi oddi cartref ar fyrder.
start content

Pwy all wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Brys?

Gall y Gwasanaethau Plant neu rywun fel yr heddlu, Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant neu gymydog fynd at ynad a gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn Brys.

Gwneir Gorchmynion Amddiffyn Brys ar gyfer:

  • Ymgeiswyr unigol, lle byddai’r plentyn yn cael niwed arwyddocaol heb fynd ag ef neu hi o’r cartref.
  • Awdurdodau lleol sy’n gwneud ymholiadau ar gyfer gorchmynion eraill, ond bod yr ymholiadau hynny’n cael eu rhwystro neu’u gwrthod yn afresymol.
  • Unigolion awdurdodedig, lle mae rheswm da dros amau fod niwed arwyddocaol yn digwydd, neu’n debygol o ddigwydd.

Am ba hyd mae Gorchymyn Amddiffyn Brys yn para?

Mae’r Gorchymyn Amddiffyn Brys yn para am wyth diwrnod, ac mae unrhyw un yn medru gwneud cais i’r llys am Orchymyn. Nid yw’r Gorchymyn bob amser yn atal y rhieni rhag cael cyswllt â’r plentyn neu’r plant.

Rhagor o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am Orchmynion Amddiffyn Brys, ewch i wefan Legislation.gov.uk neu cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd ac Asesu ar 01492 575111.
end content