Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Beth yw Cynhadledd Amddiffyn Plant?


Summary (optional)
start content

Mae Cynhadledd Amddiffyn Plant yn gyfarfod rhyngoch chi a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gwybod am eich plentyn a’ch teulu, neu'n meddu ar wybodaeth amdanynt.

Mae’r gynhadledd yn gyfle i rannu gwybodaeth a phryderon. Fe fyddwn ni’n ystyried lefel y risg i’ch plentyn, ac yn gwneud cynlluniau a fydd yn arwain at wella pethau.

Mae’n bosib y gwneir argymhelliad bod y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant yn mynd a’r mater gerbron Llys er mwyn sicrhau fod eich plentyn yn ddiogel. Mae’n bwysig deall nad yw’r Gynhadledd Amddiffyn Plant gychwynnol yn llys barn, ac nid oes ganddi unrhyw rym cyfreithiol.

Pwy fydd yn bresennol yn y gynhadledd?

Fel arfer estynnir gwahoddiad i’ch plentyn (os yw’n ddigon hen), aelod arall o’r teulu, eich meddyg teulu, nyrs ysgol, athro, rhywun o’r Heddlu a Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn neu’ch plant.

Os oes rhywun nad ydych yn dymuno iddi/iddo gael gwahoddiad i’r gynhadledd, rhowch wybod i Weithiwr Cymdeithasol eich plentyn/plant neu Gadeirydd y Gynhadledd ymlaen llaw.

Alla i ddod â rhywun i fy nghefnogi?

Gallwch ddod â ffrind, perthynas, eiriolwr neu gyfreithiwr gyda chi i’r gynhadledd.  Byddant yn medru rhoi cefnogaeth ichi, ond ni fyddant yn cael lleisio’u barn na bod yn rhan o unrhyw benderfyniadau ynglŷn â risgiau a chynlluniau.

Os bydd arnoch angen cyfieithydd ar y pryd i’ch helpu i ddeall beth sy’n cael ei ddweud, fe wnawn yn siŵr fod un yn bresennol. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn siarad â chi am hyn cyn y gynhadledd.

Weithiau, efallai y bydd aelodau eraill o’r teulu, fel teidiau a neiniau, yn dymuno lleisio’u barn yn y gynhadledd. Bydd y cadeirydd yn medru trefnu bod hynny’n digwydd.

Eich plentyn chi sydd o dan sylw, ac felly fel arfer mae’n briodol iddo/iddi fod yn bresennol am ran o’r gynhadledd os yw’n ddigon hen ac yn dymuno gwneud.

Os bydd cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol, gallai’r drafodaeth ei helpu i benderfynu a ddylai’r Heddlu gymryd unrhyw gamau neu beidio. Mae’n bwysig cadw mewn cof mai pwrpas y gynhadledd yw trafod lles eich plentyn. Nid oes bwriad i gyhuddo neb na cheisio cael neb yn euog o rywbeth. Gofynnir i swyddog yr Heddlu rannu gwybodaeth am unrhyw droseddau y cafwyd rhywun ar yr aelwyd (neu rywun sy’n dod i gysylltiad â’ch plant) yn euog ohonynt yn y gorffennol.

Pa mor hir fydd y gynhadledd yn para?

Dylai’r gynhadledd bara rhwng awr a hanner a dwy awr. Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol os cewch chi unrhyw drafferthion o ran dod i’r gynhadledd – er enghraifft, methu â chael gofal plant, neu anghenion meddygol.

Beth fydd yn digwydd yn y gynhadledd?

Bydd Cydlynydd Amddiffyn Plant annibynnol yn cadeirio’r gynhadledd.

Mae’r Cydlynydd Amddiffyn Plant yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; mae’n annibynnol i'r gweithwyr proffesiynol hynny a fu’n rhan o’r asesiad, a’r bobl sy’n bresennol yn y gynhadledd.

Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y gynhadledd yn canolbwyntio ar eich plentyn chi, a bod buddiannau’r plentyn yn cael blaenoriaeth. Hefyd, dylai’r Cadeirydd sicrhau y gall pawb sy’n bresennol gyfrannu’n llawn at y drafodaeth.

Fe gewch chi gyfle i gwrdd â’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. Fe fydd yn esbonio trefn y gynhadledd ichi. Os byddwch chi’n teimlo na fedrwch chi fynd i’r gynhadledd am ba bynnag reswm, bydd modd ichi rannu eich barn â'r Cadeirydd ynghyd ag unrhyw wybodaeth y dymunwch iddi gael ei hystyried yn y gynhadledd. Fel arall, gallwch ysgrifennu at y Cadeirydd i fynegi eich barn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn esbonio sut i wneud hyn.

Rydyn ni’n gwybod fod y gynhadledd yn medru bod yn anodd neu’n annymunol i aelodau o’r teulu. Serch hynny, mae’n werth ichi ddod fel y gallwch rannu eich gwybodaeth chi am eich plentyn a’r sefyllfa. Bydd hynny’n helpu pawn sydd yn y gynhadledd i wneud y penderfyniadau gorau er lles eich plentyn.

Yn y gynhadledd fe gewch gyfle i ddisgrifio yn eich geiriau eich hun y sefyllfa sydd wedi arwain at gynnal y gynhadledd. Gofynnir ichi siarad am eich plentyn a’ch teulu, ac unrhyw drafferthion y mae’ch plentyn neu aelodau eraill o’r teulu’n eu cael. Hefyd, gofynnir ichi am unrhyw syniadau sydd gennych chi i wella pethau.

Ni fydd neb yn rhoi pwysau arnoch i ddweud rhywbeth nad ydych chi eisiau’i ddweud. Os nad ydych chi a rhiant arall y plentyn yn byw gyda’ch gilydd, bydd cyfle ichi fod yn bresennol yn y gynhadledd fesul un am gyfnodau, os dymunwch.  Bydd gan bawb gyfle i wneud sylwadau os ydynt yn teimlo fod rhywun wedi dweud rhywbeth sy’n anghywir neu’n annheg. Fodd bynnag, ni fydd neb yn cael dadlau yn erbyn y pwyntiau a godir na chroesholi neb arall.

Os ydych chi’n anfodlon ar rywbeth a ddywedir yn y gynhadledd, neu os ydych chi’n ansicr beth i’w ddweud ynglŷn ag unrhyw bwynt penodol, gallwch ofyn i’r Cadeirydd esbonio pethau’n well, neu gael egwyl am ychydig funudau i roi cyfle ichi feddwl. Gallwch hefyd siarad yn breifat â’ch cyfreithiwr neu’r person sydd wedi dod i’ch cefnogi, os dymunwch.

Penderfyniadau

Bydd y gynhadledd yn dilyn rhaglen a gytunwyd ymlaen llaw (rhestr o bethau i siarad amdanynt). Pwrpas rhan o’r gynhadledd fydd cael dealltwriaeth o’ch teulu a chanfod beth yn union a ddigwyddodd i beri bod angen cynnal y gynhadledd. Gwneir hynny drwy wrando ar beth sydd gan bawb i’w ddweud am y sefyllfa sydd wedi arwain at y gynhadledd. Wedi hynny, bydd yn rhaid i’r gynhadledd ystyried y materion canlynol:

  • Beth mae’r ffeithiau’n eu dangos ynglŷn ag unrhyw risg i les a/neu ddiogelwch eich plentyn, a pha mor fawr yw’r risg hwnnw;
  • P’un a oes angen gwneud rhywbeth i amddiffyn eich plentyn, a pha mor gyflym y gellir ei wneud;
  • P’un a oes angen Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth neu Gynllun Gofal a Chymorth ar eich plentyn.

Fe gewch esboniad o’r gofynion yn hyn o beth yn y gynhadledd.

Bydd y gynhadledd yn trafod beth allai fod yn rhaid ei wneud er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cael ei amddiffyn a bod ich safbwyntiau chi’n cael eu hystyried.

Efallai y gofynnir ichi a ydych yn fodlon cytuno i rai pethau. Ni fydd neb yn rhoi unrhyw bwysau arnoch i gytuno, ac fe gewch chi gyfle i ymadael â’r ystafell i feddwl am yr hyn a gynigir cyn rhoi ateb.

Cwynion

Os ydych chi’n anfodlon ar unrhyw agwedd ar y gynhadledd gychwynnol ac yn dymuno gwneud cwyn, bydd y Cadeirydd yn rhoi gwybodaeth ichi am sut i wneud hynny.

Datganiadau cyfrinachedd

Ni ddefnyddir unrhyw wybodaeth a gaiff ei chasglu, ei datgan neu'i chofnodi yn ystod y gynhadledd ond ar gyfer diogelu plant. Ni chaiff ei rhannu ond â phobl eraill sydd â rheswm dilys dros wybod. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â rhannu gwybodaeth, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol, neu'r Cadeirydd yn y gynhadledd.

Datganiad gwrth-wahaniaethol

Disgwylir fod pawb sy’n bresennol yn y gynhadledd yn ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos parch at bobl eraill. Os llunnir unrhyw Gynlluniau Amddiffyn Gofal a Chymorth, mae’n rhaid eu bod yn ystyriol o anghenion y plentyn, gan gynnwys ei hil, diwylliant, cefndir ieithyddol a chrefyddol, cyfeiriadedd rhywiol a gallu cyffredinol.

Os hoffech chi gael gwybod mwy, neu gael eglurhad o rywbeth, holwch eich gweithiwr cymdeithasol.

end content