Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

1. Cyflwyniad


Summary (optional)
start content

1a.  Pwrpas a Chwmpas y Strategaeth


Mae Strategaeth Rhaglen Grant Cymorth Tai Conwy yn amlinellu’r cyfeiriad strategol ar gyfer  gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai y Cyngor ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi  blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y pedair blynedd nesaf.  Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u seilio ar ganfyddiadau asesiad o anghenion y Cyngor a hefyd ar adborth gan  fudd-ddeiliaid a phartneriaid.

Mae’r Strategaeth hefyd yn bodloni’r gofynion statudol presennol ar gyfer strategaeth ddigartrefedd dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae  Strategaeth Ddigartrefedd Conwy ar gyfer 2018-2022 wedi cael ei hadolygu ac wedi’i hymgorffori yn y ddogfen hon.

Gyda mwy o bobl mewn tai dros dro ac yn cael cymorth i droi eu cefn ar ddigartrefedd, mae yna angen i  ddatblygu ar y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig, a chanolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion sy’n achosi digartrefedd a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio symud i lety cynaliadwy, a hynny mewn cyfnod lle mae’r farchnad dai’n newid a’r galw am dai fforddiadwy’n cynyddu.

Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn ymwneud â mwy na dim ond darparu llety; mae hefyd yn ymwneud â sicrhau cynaliadwyedd y llety hwnnw drwy gynnig ymyrraeth a gwasanaethau cymorth a chael gwared â’r rhwystrau i gyflogaeth.  Nod y Strategaeth hon yw cael gwared â’r rhwystrau hynny a thargedu gwasanaethau cymorth sy’n ystyriol o drawma i gefnogi’r unigolion hynny sydd mewn angen.

Bydd y  Strategaeth hon hefyd yn datblygu negeseuon allweddol ar gyfer partneriaid allweddol ac yn  sicrhau eu bod yn chwarae rhan yn y gwaith o atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.  Mae’n fater i ‘bawb’, nid yw’n broblem tai yn unig.

1b.  Cyd-destun Deddfwriaethol a Pholisi

Y Cyd-destun Cenedlaethol


Ar hyn o bryd, mae yna ystod o fentrau gwleidyddol sydd naill ai wedi cael eu cyflwyno neu sydd wrthi’n cael eu datblygu, a fydd yn dylanwadu ar ddarparu, cyfeirio a chyflenwi gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer pobl ddiamddiffyn ledled gogledd Cymru yn y dyfodol, yn enwedig y gwaith sydd ar fin digwydd i gael gwared ag angen blaenoriaethol.

Deddf Tai (Cymru) 2014

Nod y Ddeddf hon yw gwella cyflenwad, ansawdd a safonau tai yng Nghymru.  Mae’n  cynnwys rhoi mwy o ddyletswydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd.  Mae’r Grant Cymorth Tai yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediad Rhan 2 y Ddeddf hon, sydd  yn canolbwyntio ar atal digartrefedd. Mae hefyd yn lleihau neu’n atal yr angen am ymyriadau gan wasanaethau cyhoeddus eraill, sy’n aml yn ddrytach.

Mae Rhan 2 Deddf Tai Cymru yn rhoi dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal adolygiad o ddigartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd.

Nod blaenoriaeth atal wedi’i thargedu y  Strategaeth hon yw cefnogi Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014, er mwyn sicrhau bod unigolion sy’n cysylltu â’r awdurdod lleol ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn gallu cael cymorth ar y cyfle cyntaf i geisio cadw eu llety.  Gwneir hyn gyda chyngor a chymorth yn ôl yr angen.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Nod y Ddeddf hon yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy roi egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wneir. Un elfen allweddol o’r egwyddor datblygu cynaliadwy yw canolbwyntio ar atal, sy’n gyson â nodau canolog y Grant Cymorth Tai.

Mae’r Ddeddf hon yn mynnu bod awdurdodau yn meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, yn cydweithio’n well â phobl, cymunedau a’i gilydd ac yn atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid hinsawdd.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i gyrff cyhoeddus wneud yr hyn y maent yn ei wneud mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae’n gwneud iddynt feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cydgysylltiedig.  Rhaid i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod, wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried yr effaith y gallent eu cael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Bydd y Ddeddf hon yn ei gwneud yn fwy syml ac yn haws i bobl rentu cartref, gan ddisodli darnau amrywiol a chymhleth o ddeddfwriaeth gyfredol gydag un fframwaith cyfreithiol clir.

Bydd pobl sy’n cael eu hunain mewn amgylchiadau anodd hefyd yn elwa o'r Ddeddf. Bydd yn helpu atal sefyllfaoedd o ddigartrefedd sy’n digwydd ar hyn o bryd, lle mae tenant ar y cyd yn gadael y denantiaeth, gan ddod â’r denantiaeth i ben i bawb arall. Bydd hefyd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran sut y gall rhywun fod yn olynydd i denantiaeth, gan greu hawl olyniaeth newydd i ofalwyr.

Drwy ddatblygu tîm atal ymroddedig, bwriadwn helpu’r unigolion hynny sy’n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd a allai arwain at golli eu llety.

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

Bydd y Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pa bobl oddi tramor a fydd yn gymwys neu’n anghymwys am ddyraniad tai dan Ran 6 Deddf Tai 1996 (“y Ddeddf”), ac am gymorth tai dan Ran 7 y Ddeddf.

Cod Canllawiau Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd, 2016

Mae’r Cod hwn yn cynnwys Canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Rhaid i Awdurdodau Lleol roi sylw i’r Cod hwn wrth arfer eu swyddogaethau mewn cysylltiad â dyraniadau a digartrefedd. Daw’r Cod mewn dau ran. Mae Rhan 1 yn ymwneud â dyrannu llety yn unol â Rhan 6 Deddf Tai 1996 ac, er ei fod wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a chyfraith achosion perthnasol, mae’n dilyn yr un fformat yn fras â chyhoeddiad 2012 y Cod.

Mae Rhan 2 y Cod yn ymwneud â Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n diwygio ac yn cydgrynhoi pob deddfwriaeth ddigartrefedd flaenorol. Mae’n egluro’r ddeddfwriaeth newydd ac yn ei gosod yng nghyd-destun polisi Llywodraeth Leol cyfredol.

Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r llwybr ar gyfer diwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion a gedwir yn y ddalfa ac a fydd yn adsefydlu yng Nghymru.

Atal Digartrefedd a Hyrwyddo Annibyniaeth: Llwybr Cadarnhaol tuag at Fyd Oedolion

Mae’r Llwybr Cadarnhaol tuag at Fyd Oedolion yn cefnogi  pobl ifanc ar eu taith tuag at annibyniaeth a llwyddiant economaidd, drwy gynnig opsiynau a chyngor ar dai ac atal digartrefedd.

Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015

Mae Rhan 1 yn nodi materion ychwanegol y mae’n rhaid i awdurdodau eu hystyried. Mae Rhan 2 yn nodi’r adegau pan nad yw llety Gwely a Brecwast na llety a rennir yn addas i’w defnyddio fel llety dros dro. Mae Rhan 3 yn nodi addasrwydd llety’r sector rhentu preifat er mwyn dod â dyletswydd adran 75 ar gyfer ymgeiswyr digartref i ben.

Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd: Cynllun Gweithredu lefel uchel 2021 i 2026

Nod y cynllun gweithredu yw rhoi cyfeiriad i’r gwaith sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a’i bartneriaid i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Deddf Iechyd Meddwl 2014

Daeth y Ddeddf Iechyd Meddwl i rym ar 1 Gorffennaf 2014. Mae’n nodi fframwaith y bwriedir iddo hybu ymarfer sy’n canolbwyntio ar adferiad, lleihau triniaethau gorfodol ac amddiffyn a chefnogi hawliau pobl sy’n byw gyda salwch meddwl.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Nod y Ddeddf hon yw gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.

Mae Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad â’u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant.  Mae’n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithredu â’r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddibenion eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.   Mae Rhan 9 y Ddeddf hefyd yn cynnwys trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i gyflawni eu swyddogaethau. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â threfniadau partneriaeth ffurfiol, adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth (gan gynnwys cronfeydd cyfun) a byrddau partneriaeth.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ymgymryd ag asesiad poblogaeth ar y cyd o anghenion gofal a chymorth oedolion, plant a gofalwyr.  Mae rhagor o wybodaeth am yr asesiad poblogaeth i’w gweld yn Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru - Cydweithredfa Gogledd Cymru.  Bydd unrhyw wasanaethau a gomisiynir fel rhan o flaenoriaethau y Cyngor yn ceisio gwella bywydau’r bobl hynny sy’n derbyn y gwasanaethau.  Rydym yn gweithio ar y cyd yn rhanbarthol i gomisiynu pan fo hynny’n briodol.  Bydd hyn yn cael ei fonitro drwy ein gweithdrefnau adolygu.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

.Nod y Ddeddf hon yw gwella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i bob math o drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae’n gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i wella trefniadau i atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern, a hybu ymwybyddiaeth ohonynt.

Caiff unrhyw wasanaethau a gomisiynir eu trafod gyda’r Tîm VAWDASV Rhanbarthol sydd, yn ei dro yn cefnogi’r Cynllun Gweithredu sy’n adlewyrchu Deddf VAWDASV (Cymru) 2015.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Cynhaliwyd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb i nodi unrhyw ddarpar anghydraddoldebau allai godi o ddatblygu a chyflawni’r cynllun hwn.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a rheoliadau Safonau’r Gymraeg

Bu i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddisodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac fel rhan o ddeddfwriaeth newydd, mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol gyfartal â’r Saesneg yng Nghymru, ac ni cheir ei thrin yn llai ffafriol. Yn ei dro, disodlwyd Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor gan Safonau’r Gymraeg 2015.

Fel rhan o Safonau’r Gymraeg, rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gynhyrchu Strategaeth y Gymraeg sy’n nodi sut y byddant yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal.

Bydd rhaid i unrhyw wasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor gyrraedd y safonau hynny.  Bydd y rhain yn cael eu monitro drwy  weithdrefnau adolygu Conwy.  Rydym hefyd yn gofyn i bobl rydym yn cydweithio â nhw ym mha iaith y byddai’n well ganddynt i ni gyfathrebu â nhw.

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi’r hawliau sylfaenol sydd gennym ni oll am ein bod yn fodau dynol. Mae’r Ddeddf yn helpu amddiffyn pobl drwy roi dyletswydd gyfreithiol ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i drin pobl gyda thegwch, cydraddoldeb, urddas, parch ac ymreolaeth.

Bydd rhaid i unrhyw wasanaethau y byddwn yn eu comisiynu osod y Ddeddf Hawliau Dynol wrth wraidd eu gwasanaethau.  Bydd hyn yn cael ei fonitro drwy  brosesau adolygu Conwy, a fyddai hefyd yn ystyried barn yr unigolion sy’n derbyn y gwasanaethau.

Canllawiau Grant Cymorth Tai

Cyhoeddwyd Canllawiau’r Grant Cymorth Tai ym mis Ebrill 2020. Mae’r Grant Cymorth Tai (GCT) yn gyfuniad o dri grant presennol, sef y Rhaglen Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd a Grant Gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Mae’r grant yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol er mwyn darparu, gweinyddu a chomisiynu gwasanaethau i gyflawni gweledigaeth a diben craidd y grant.

Mae’r GCT yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sy’n cefnogi gweithgarwch i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, eu helpu i gael cartref sefydlog neu helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ganfod a chadw llety.

Mae’r GCT yn helpu pobl ddiamddiffyn i ddelio gyda’r problemau y maent yn eu hwynebu, sydd ambell waith yn niferus.  Mae’r problemau hyn yn cynnwys dyled, cyflogaeth, rheoli tenantiaeth, camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol a materion iechyd meddwl.

 

Y Cyd-destun Lleol a Rhanbarthol


Mae’r adran ganlynol yn rhoi manylion sut y mae gwahanol bolisïau a grwpiau wedi dylanwadu ar  Strategaeth GCT Conwy yn rhanbarthol ac yn lleol.

Cynllun Corfforaethol Conwy

Pwrpas y cynllun hwn yw cyflwyno Blaenoriaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am y pum mlynedd nesaf, o 2017 i 2022. Y blaenoriaethau yw’r meysydd y mae’r Cyngor  eisiau rhoi sylw arbennig iddynt er mwyn helpu cyflawni canlyniadau’r dinesydd y mae pobl eisiau eu gweld ar gyfer y sir. Mae gan y Cyngor gynlluniau eraill sy’n rhoi mwy o fanylion am y tasgau penodol  sydd wedi’u rhestru o dan bob Canlyniad. Ni all y Cynllun Corfforaethol restru popeth a wnawn, ond nid yw hynny’n golygu nad yw’r gwasanaethau sydd heb eu rhestru yn bwysig. Cefnogir y meysydd ffocws gan gynlluniau gwasanaeth sy’n nodi’r gwaith ‘busnes fel arfer’ ehangach y bydd yr Awdurdod yn parhau i’w gyflawni ynghyd â’i flaenoriaethau.

Canlyniad 3 – Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywydau.

Rydym am i’n trigolion fyw mewn llety sy’n cyfrannu at iechyd a lles cadarnhaol.

Y Dyfodol: drwy ganolbwyntio ar ddull strategol, rydym yn gobeithio cael y cymysgedd cywir o lety yn yr ardaloedd iawn er mwyn i bobl allu byw mewn cymunedau y maent yn falch o’u galw’n gartref.

Strategaeth Tai Lleol Conwy

Mae’r Strategaeth Tai Lleol yn gynllun pum mlynedd sy’n nodi’r hyn y mae angen ei wneud i ymateb i’r angen lleol am dai, a chyflawni gweledigaeth tai Conwy.

Y weledigaeth yw y bydd pobl yng Nghonwy yn cael mynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywydau.

Caiff y strategaeth ei datblygu a’i rhoi ar waith mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allweddol, a chaiff ei monitro gan Bartneriaeth Strategol Tai Conwy.

Mae Tîm y Grant Cymorth Tai yn cydweithio â’r Tîm Strategaeth Tai i edrych ar ofynion llety ar gyfer gwasanaethau, ac mae’r blaenoriaethau wedi’u hamlinellu yn y Prosbectws ar gyfer tai â chymorth.

Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol (GCCTRh)

Mae’r Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio fel grŵp trosfwaol i ddod â budd-ddeiliaid allweddol ynghyd i ddarparu fforwm ar gyfer cydweithio’n rhanbarthol mewn cysylltiad â’r Grant Cymorth Tai (GCT).

Y GCCTRh sy’n gyfrifol am gynhyrchu datganiad blynyddol. Dyma gynllun gwaith y GCCTRh sy’n amlinellu’r blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn honno. Mae gan y GCCTRh is-grŵp allweddol, sef Grŵp Arweinwyr Rhanbarthol y GCT, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r blaenoriaethau a amlinellir yn y datganiad blynyddol, gyda chefnogaeth y Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol.

Grŵp Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru

Mae Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal adolygiad o ddigartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd. Ym mis Mehefin 2017, ymrwymodd y Grŵp Digartrefedd Rhanbarthol, ynghyd â Sefydliad Tai Siartredig Cymru, i ddatblygu strategaeth ddigartrefedd ranbarthol. Cyhoeddwyd hon ym mis Rhagfyr 2018 gyda gwaith tan 2022. Mae nifer o’r materion allweddol a amlinellwyd yn strategaeth 2018-22 yn dal i fod yn flaenoriaethau uchel, sef digartrefedd ymysg pobl ifanc, anghenion cymhleth, unigolion sy’n gadael carchar a phobl sy’n cysgu allan. Rydym wedi gweithio’n arbennig o galed yn ystod y pandemig i sicrhau bod llety ar gael i bawb, ac er nad yw niferoedd y bobl sy’n cysgu allan mor uchel, mae sicrhau y gallwn eu helpu i adael llety brys a symud ymlaen i lety â chymorth yn dal i fod yn flaenoriaeth.

Mae atal ac ymyrryd wrth wraidd y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol ac yn gydran sylfaenol allweddol o fewn ein strategaeth leol.

Mae  gwell mynediad at lety a modelau cyflawni amgen wedi’u hamlygu yn y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol.

Mae’r Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol wedi canolbwyntio ei adnoddau eleni ar amlygu’r effaith y mae pandemig Covid-19 wedi’i chael ar ein gwasanaethau Tai a Digartrefedd.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Sefydlwyd pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng ngogledd Cymru gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gryfhau dulliau o weithio ar y cyd ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus yng ngogledd Cymru.   Bu i bob BGC baratoi asesiad o’r effaith ar les ochr yn ochr ag asesiad poblogaeth y BPRh. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau’r BGC.

Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru

Pwrpas y Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio yng ngogledd Cymru yw darparu arweiniad, trefn lywodraethu a chyfeiriad strategol er mwyn bodloni blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol sy’n ymwneud â bregusrwydd a chamfanteisio. Mae’n sicrhau cyflawniad effeithiol blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar gyfer amddiffyn rhag bregusrwydd a chamfanteisio, a’u hatal.

Mae’r Bwrdd hefyd yn ceisio canfod cyfleoedd i gydweddu gweithgareddau gyda threfniadau partneriaeth eraill ar draws gogledd Cymru, er mwyn darparu dull ar y cyd o ddefnyddio  adnoddau’n effeithlon a chyflawni blaenoriaethau’n effeithiol.  Drwy Grŵp Arweinwyr y Grant Cymorth Tai, mae rhaglen y GCT yn darparu cyllid rhanbarthol fel cyfraniad at y gwasanaeth Eiriolwyr Annibynnol Trais Domestig (IDVA).

Mae’r Grŵp Cydgomisiynu yn adrodd i’r Bwrdd hwn.  Rydym yn cydweithio’n lleol ac yn rhanbarthol i gomisiynu gwasanaethau, rhannu arferion da a chynnig y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith sy’n mynd rhagddo yng ngogledd Cymru.  Mae aelodau’r Grŵp Cydgomisiynu’n cynnwys y Tîm VAWDASV Rhanbarthol, Darparwyr Gwasanaethau VAWDASV, Cynrychiolwyr y GCT, Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau

Mae’r Bwrdd yn gweithredu fel fforwm, gan ddod â’r holl asiantaethau sy’n ymwneud â chynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ynghyd ar lefel ranbarthol.   Mae’n darparu fframwaith rhanbarthol ar gyfer gwneud penderfyniadau er mwyn asesu anghenion ar draws yr holl gymunedau, cyfuno arbenigedd ac adnoddau, monitro effaith y strategaeth genedlaethol a gwella a chryfhau gwaith cynllunio, comisiynu a rheoli perfformiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn cyfrannu at helpu pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau yng ngogledd Cymru drwy ddarparu cynlluniau tai â chymorth a gwasanaethau cymorth yn ôl yr angen.  Yn rhanbarthol, drwy grŵp Arweinwyr y Grant Cymorth Tai, mae’r grant yn darparu cyllid ar gyfer Prosiect Allgymorth Pendant y Bwrdd Cynllunio Ardal.

 

1c.  Gweledigaeth ac Egwyddorion

Gweledigaeth


Dyma weledigaeth Conwy ar gyfer atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai:

“Byddwn yn cydweithio mewn dull rhagweithiol i ymyrryd yn gynnar ac atal digartrefedd.  Os na ellir atal digartrefedd, byddwn yn sicrhau bod cymorth ac/neu lety ar gael i helpu pobl adennill eu lle yn y gymuned o’u dewis, cynnal eu llety a pharhau i fod yn annibynnol.”

Egwyddorion Allweddol


Dyma’r egwyddorion allweddol a fydd  yn cyflawni ein gweledigaeth:

  • Byddwn yn sicrhau yn gyntaf bod yr unigolion hynny sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref yn gallu cael gafael ar gyngor a chymorth arbenigol, a bod dewisiadau ar gael iddynt aros yn eu llety
  • Byddwn yn sicrhau, os bydd rhywun yn methu ag aros yn eu llety, bod ein holl lety â chymorth a’n llety dros dro o safon uchel
  • Bydd ein gwasanaethau cymorth tai yn cael eu comisiynu i helpu pobl symud tuag at fyw’n annibynnol ac aros yn y cymunedau o’u dewis.  Bydd hyn yn cael ei gyflawni ar y cyd pan fo hynny’n bosib
  • Os nad oes modd atal digartrefedd, byddwn yn ceisio ei wneud yn beth prin sy’n para am gyfnod byr ac nad yw’n cael ei ailadrodd

Tudalen Nesaf:  2. Asesiad o Anghenion

end content