Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

2. Asesiad o Anghenion


Summary (optional)
start content

2a.  Y Broses Asesu Anghenion


Mae’r broses asesu anghenion wedi cynnwys partneriaid o VAWDASV, Iechyd Meddwl, Unigolion Diamddiffyn, y Tîm Anableddau Integredig, Darparwyr Grant Cymorth Tai Presennol a’r unigolion hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau.  Mae ein Tîm Strategaeth Tai a’n Tîm Atal Digartrefedd hefyd wedi cyfrannu at yr asesiad yn ogystal â’r Tîm Grant Cymorth Tai a’r Llwybr Sengl.

Defnyddiwyd y dogfennau canlynol a ffynonellau gwybodaeth/ymgynghori wrth baratoi’r asesiad o anghenion, ac maent yn cadarnhau ymhle mae’r bylchau yn ein gwasanaethau:

  • Asesiad o anghenion y boblogaeth
  • Asesiad lles yr awdurdod lleol
  • Ystadegau digartrefedd a data tai arall, fel rhestrau aros
  • Mynegai amddifadedd lluosog Cymru
  • Adborth gan ddefnyddwyr a darparwyr y gwasanaethau
  • Asesiadau o anghenion VAWDASV rhanbarthol
  • Data canlyniadau
  • Data anghenion gan ddarparwyr
  • Data’r Llwybr
  • Data anghenion nas diwallwyd dros y 12 mis diwethaf gan ddarparwyr, adolygiadau digartrefedd

Anfonwyd holiaduron i Ddarparwyr eu cwblhau ac ymgynghorwyd â nhw ar yr asesiad o anghenion drafft fel rhan o’r broses.

Bydd y  ddolen i Asesiad o Anghenion Grant Cymorth Tai Conwy yn cael ei hychwanegu pan fydd y Strategaeth wedi’i chwblhau.

 

2b.  Canfyddiadau Allweddol


Mae atgyfeiriadau i’r Llwybr ac adborth gan Ddarparwyr wedi amlygu cynnydd mewn achosion cymhleth, yn enwedig ar gyfer yr unigolion hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl ynghyd â phroblemau eraill, a chynnydd mewn atgyfeiriadau i bobl sy’n dioddef problemau cam-drin domestig.  Gwelwyd cynnydd hefyd yn y bobl ifanc sy’n canfod eu hunain yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Oherwydd anghenion newidiol ein cleientiaid, mae angen mwy o wasanaethau arnom i ddiwallu anghenion  pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl a’r rheiny sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau.  Mae hyn yn amlwg o’n data canlyniadau ac yn yr adborth gan ein Darparwyr. Mae yna ddiffyg llety i unigolion sengl sy’n ddigartref neu’n symud ymlaen o lety â chymorth.  Mae tai fforddiadwy hefyd y dod yn broblem ehangach yn sgil y newidiadau yn y farchnad eiddo. Fe eir  i’r afael â  hyn drwy  Gynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym y Cyngor, drwy ei raglen Grant Cymorth Tai a drwy gynlluniau tai eraill fel Tai Teg a HAWS.

Nodwyd bod llety a gwasanaethau i droseddwyr hefyd yn fwlch yn y gwasanaethau drwy  Swyddog Atal Digartrefedd Conwy, sy’n gweithio gydag unigolion sy’n gadael carchar a throseddwyr. Mae atgyfeiriadau drwy ein Llwybr hefyd wedi cynyddu ar gyfer y garfan hon o bobl

 

2c.  Casgliad


O ganlyniad i’r asesiad o anghenion a’r ymgynghoriad gyda defnyddwyr y gwasanaethau a budd-ddeiliaid perthnasol, mae’r  blaenoriaethau a restrir isod yn Adran 3 wedi cael eu cytuno.

Yn ogystal, bydd comisiynu’n rhanbarthol yn digwydd, a phan fo hynny’n briodol, bydd gwasanaethau atal yn cael eu cynyddu a bydd Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Conwy yn cael ei lunio.

Bydd Tîm y Grant Cymorth Tai hefyd yn edrych ar ddefnyddio dull wedi’i lywio gan seicoleg o adolygu a monitro, a fydd hefyd yn ystyried  sut rydym ni’n cael gafael ar adborth gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.  Byddwn yn datblygu’r adborth a gafwyd fel rhan o’r asesiad o anghenion gan yr unigolion hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau a gan Ddarparwyr yn ystod y 2 flynedd nesaf.  Bydd disgwyl i’r darparwyr weithio tuag at ddull wedi’i lywio gan seicoleg o ddarparu cymorth.

Yn rhanbarthol, bydd gwasanaethau’r Grant Cymorth Tai yn cael eu hyrwyddo’n ehangach. Bydd y  Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol, yn rhoi blaenoriaethau rhanbarthol ar waith, gan gynnwys archwilio’r angen am wasanaeth LHDTC+ penodol a Thîm Celcio Rhanbarthol, a hynny’n ogystal â pharhau i gyfrannu at y gwasanaeth IDVA Rhanbarthol.

Tudalen Nesaf:  3. Blaenoriaethau Strategol

end content