Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

3. Blaenoriaethau Strategol


Summary (optional)
start content

Blaenoriaethau Lleol


Dyma flaenoriaethau Conwy am y pedair blynedd nesaf.  Fodd bynnag, byddant yn cael eu hadolygu ymhen dwy flynedd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Blaenoriaeth 1:  Symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym wrth ddarparu gwasanaethau atal digartrefedd


Yn unol â chyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru, mae Cynllun Ailgartrefu Cyflym wedi cael ei ddatblygu.

Dyma weledigaeth cynllun Ailgartrefu Cyflym Conwy:

‘Mae gwasanaethau allweddol yn defnyddio dull cydlynol ar gyfer gweithgareddau atal digartrefedd i sicrhau bod digartrefedd yn beth prin yng Nghonwy. Os nad oes modd atal digartrefedd, gall pobl symud i lety sefydlog yn gyflym gan ddefnyddio cyn lleied o lety dros dro ag sy’n bosib.’


Mae yna bedwar amcan allweddol i gyflawni hyn:

  • Trawsnewid ansawdd a defnydd o lety dros dro.

  • Cynyddu nifer y tai fforddiadwy.

  • Sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai sydd ei angen.

  • Cryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod atal digartrefedd yn cael ei flaenoriaethu gan bob gwasanaeth.

 

Blaenoriaeth 2:  Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Ymysg Pobl Ifanc


Am amrywiaeth o resymau, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n canfod eu hunain yn ddigartref.

Mae yna 3 amcan allweddol i roi diwedd ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc:

  • Cryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth er mwyn canfod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i atal digartrefedd.

  • Cynyddu’r cyflenwad o ddewisiadau tai fforddiadwy i bobl ifanc os nad yw’n bosib atal digartrefedd, a sicrhau bod y cymorth perthnasol ar gael.

  • Ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaethau i ganfod gwelliannau i’r gwasanaeth a’u rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn diwallu anghenion pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol.

 

Blaenoriaeth 3:  Sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael i’r unigolion hynny sydd wedi troseddu adennill eu lle yn y gymuned


Mae’r adnoddau sydd ar gael yn gyfyngedig, ac nid ydynt yn ddigonol i ddiwallu anghenion yr unigolion hynny sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar ac sydd angen cymorth i’w galluogi i adennill eu lle yn y gymuned.

Mae yna 3 amcan allweddol i gynyddu’r gwasanaethau sydd ar gael:

  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleodd am gyllid a chryfhau trefniadau gwaith partneriaeth er mwyn
    • cynyddu’r gallu i ddarparu cymorth i wella’r math o ddewisiadau cymorth sydd ar gael i droseddwyr,
    • cynyddu’r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy.

  • Adolygu’r trefniadau gweithio i sicrhau bod gan yr unigolion hynny sy’n gadael y ddalfa ddewisiadau llety a chymorth wrth gael eu rhyddhau.

  • Ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaethau i ganfod gwelliannau i’r gwasanaeth a’u rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn diwallu anghenion troseddwyr nawr ac yn y dyfodol.

 

Blaenoriaeth 4:  Ehangu darpariaeth y gwasanaethau cymorth i ateb y galw cynyddol gan yr unigolion hynny ag anghenion cymhleth


Yn ystod y 18 mis diwethaf, gwelwyd cynnydd yn yr atgyfeiriadau ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth.  Mae’r data yn parhau i gefnogi’r angen am wasanaethau ar gyfer y garfan hon o bobl, ynghyd â llety ar eu cyfer pan fo’n briodol.

Mae yna 2 amcan allweddol i ehangu darpariaeth y gwasanaethau cymorth:

  •  Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd am gyllid a chryfhau trefniadau gwaith partneriaeth er mwyn gwella’r dewisiadau cymorth sydd ar gael ar gyfer yr unigolion hynny ag anghenion cymhleth, gan gynnwys datblygu dull amlasiantaeth priodol ac effeithlon o ddarparu’r gwasanaethau.

  • Ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaethau i ganfod gwelliannau i’r gwasanaeth a’u rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn diwallu anghenion pobl ag anghenion cymhleth nawr ac yn y dyfodol.

 

Blaenoriaeth 5:  Darparu gwasanaethau ychwanegol i bobl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig


Gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y bobl sy’n cael eu hatgyfeirio am gymorth ar ôl ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.

Mae yna 4 amcan allweddol i ddarparu gwasanaethau ychwanegol:

  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd am gyllid er mwyn cynyddu’r gallu i ddarparu cymorth, a gwella’r math o ddewisiadau cymorth sydd ar gael i bobl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.

  • Cynyddu’r cyflenwad o ddewisiadau tai fforddiadwy i bobl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.

  • Cynyddu’r ddarpariaeth o gyfarpar gwella diogelwch er mwyn cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain os ydynt yn dewis hynny a’i bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

  • Ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaethau i ganfod gwelliannau i’r gwasanaeth a’u rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn diwallu anghenion pobl nawr ac yn y dyfodol

 

Tudalen Nesaf:  4. Ymgysylltu â Budd-ddeiliad

 

end content