Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

4. Ymgysylltu â Budd-ddeiliad


Summary (optional)
start content

4a.  Budd-ddeiliaid yr ymgysylltwyd â nhw


Wrth gynhyrchu’r Strategaeth hon, rydym wedi ymgynghori â Defnyddwyr y Gwasanaethau, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu ar hyn o bryd gan y GCT, y Strategaeth Tai a’r Gwasanaethau Digartrefedd.

Bu’n rhaid cynnal yr ymgynghoriad dros e-bost a drwy arolygon yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau Covid.  Byddwn yn ceisio ychwanegu dulliau ychwanegol o ymgynghori ar gyfer y Strategaeth wedi’i diweddaru yn 2024.

 

4b.  Adborth y budd-ddeiliaid


Ym mis Hydref 2021, cytunodd Swyddogion Arweiniol y Grant Cymorth Tai i ddod at ei gilydd i ymgynghori â’r Darparwyr a Defnyddwyr y Gwasanaethau ar gynhyrchu eu Hasesiadau o Anghenion GCT unigol, ac mae hynny yn ei dro wedi llywio’r blaenoriaethau a nodir yn y Strategaeth hon.

Darparwyr


Cafwyd cyfanswm o 113 o ymatebion ar gyfer gogledd Cymru, ac roedd 28 o’r rheiny’n nodi eu bod yn ymateb ar gyfer Conwy.  Gofynnwyd cwestiynau am dueddiadau a oedd yn dod i'r amlwg, cymhlethdod yr achosion ers y pandemig ac ailgartrefu cyflym.

Tueddiadau sy’n Dod i’r Amlwg / Cymhlethdod Atgyfeiriadau


Nododd y Darparwyr bod rhai pobl wedi datblygu gorbryder cymdeithasol ac yn teimlo’u bod wedi’u hynysu ar ôl y cyfnodau clo yn sgil y pandemig.  Roedd pobl hefyd yn mynd i drafferthion ariannol oherwydd cynnydd yn eu biliau ac/neu newidiadau yn eu hincwm.  Roedd tor-perthynas yn rheswm arall pam fod pobl angen gwasanaethau ac/neu’n canfod eu hunain yn ddigartref.  Codwyd mynediad at wasanaethau iechyd meddwl  fel un o’r bylchau yn y gwasanaethau.

Ailgartrefu Cyflym


Roedd rhan o’n hymgynghoriad gyda’r Darparwyr hefyd yn gofyn y cwestiynau canlynol am Ailgartrefu Cyflym.

  • Pa rwystrau ydych chi’n meddwl y bydd eich awdurdod yn eu hwynebu wrth geisio ailgartrefu’n gyflym yn llwyddiannus?
  • Sut ydych chi’n gweld eich gwasanaeth neu’ch sefydliad yn cynnig gwerth i ddull ailgartrefu cyflym?
  • Yn eich barn chi, pa mor gyraeddadwy yw’r dull Ailgartrefu Cyflym yn eich awdurdod chi?
  • Beth ydych chi’n gobeithio ei weld yng Nghynllun Ailgartrefu Cyflym eich awdurdod?

Rhwystr sylweddol y mae Conwy’n ei wynebu yw’r diffyg llety i ailgartrefu pobl.

Roedd sefydliadau’n gefnogol ar y cyfan i Ailgartrefu Cyflym, cyn belled â bod digon o stoc ar gael i fodloni anghenion pobl.  Roedd sefydliadau hefyd yn barod i gynnig stoc ac i helpu’r bobl hynny sy’n cael eu hailgartrefu.  Yr adborth cyffredinol oedd bod y cynllun yn gyraeddadwy o feddwl nad yw’r ardal mor fawr â rhai dinasoedd.  Fodd bynnag, teimlai rhai nad oedd hyn yn gyraeddadwy o fewn y 5 mlynedd.  Hoffai sefydliadau weld llety fforddiadwy addas yng nghynllun Conwy, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc, gyda chymorth os oes angen.  Dylai’r Cynllun hefyd fod yn glir o ran strategaeth a darpariaeth

Unrhyw adborth arall


Gofynnwyd i’r Darparwyr a oedd yna ymwybyddiaeth dda o Raglen y GCT yng Nghonwy. Dywedodd 8 ymatebwr nad oeddent yn ymwybodol ohono ac roedd 5 yn ansicr.  Bydd Tîm y GCT yn ceisio hyrwyddo’r rhaglen dros y 2 flynedd nesaf i sicrhau bod asiantaethau’n gallu cael gafael ar wasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn gweithio â nhw.  Nododd rhai Darparwyr eu bod yn meddwl y gellid gwella’r mynediad at wasanaethau, felly bydd hyn hefyd yn cael sylw gan y Swyddog Llwybr Sengl a Thîm y GCT.

Gofynnwyd i Ddarparwyr  a oedd ganddynt unrhyw broblemau recriwtio.  Cafwyd ymateb cymysg i hyn, gyda rhai Darparwyr yn dweud nad oedden nhw wedi bod angen recriwtio. Ond dywedodd eraill bod problemau wedi codi wrth recriwtio staff oherwydd cymhlethdodau rhai o’r bobl sydd bellach angen cymorth, contractau tymor byr gan gomisiynwyr, ansicrwydd yn y farchnad gyflogaeth ac i rai, nid yw’r cyflog y gallant ei gynnig yn ddigon mewn perthynas â gofynion y swydd.

Defnyddwyr y Gwasanaethau


Mae’r canlynol yn rhoi trosolwg cryno i ni o’r prif adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaethau a ymatebodd ar gyfer Conwy.  Cafwyd cyfanswm o 103 o ymatebion ar gyfer Conwy allan o gyfanswm o 531 o ymatebion ar gyfer gogledd Cymru.

Bydd angen ychwanegu dolen i Asesiad o Anghenion y Grant Cymorth Tai Conwy pan fydd y Strategaeth hon wedi’i chwblhau.

Sut roedd pobl yn gwybod lle i gael gafael ar gymorth neu gyda phwy i gysylltu i gael cymorth

Dywedodd 64 o bobl eu bod yn gwybod lle i fynd am gymorth, ac ymatebodd 34 o bobl nad oedden nhw’n gwybod lle i droi. Nid oedd dros draean o’r ymatebwyr yn gwybod sut y bydden nhw’n cael gafael ar gymorth heb i rywun eu helpu i wneud hynny.

Sut y byddent yn hoffi cael cymorth o hyn allan

Roedd yna fwyafrif amlwg o unigolion y byddai’n well ganddynt barhau i gael cymorth wyneb yn wyneb. Nid oedd llawer o bobl yn teimlo yr hoffent gael cymorth drwy alwadau ar-lein, ac mae hon yn agwedd bwysig i’w hystyried wrth drafod staff yn dychwelyd i’r swyddfa a chynnal ymweliadau cartref.

SupportMethodBarChart

Ansawdd eu llety

Dim ond 6 ymatebwr a nododd bod eu llety’n wael neu’n wael iawn, tra dywedodd 96 o’r ymatebwyr bod eu llety yn foddhaol neu’n well. Er bod hwn yn ymateb cadarnhaol, bydd Tîm y Grant Cymorth Tai yn adolygu llety â chymorth dros y 12 mis nesaf er mwyn llywio Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Conwy.

Fforddiadwyedd llety rhent

TDywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr ei bod yn bosib iddynt fforddio prisiau rhent presennol. Fodd bynnag, dywedodd yr un nifer o bobl y byddent ac na fyddent yn gallu fforddio eu tenantiaeth eu hunain.

Dyma ddywedodd defnyddwyr y gwasanaethau:

    •  Ni fyddwn yn gallu fforddio rhent preifat
    • Byddai’n well gen i beidio â throi at y sector preifat
    • Byddai angen i mi gael budd-daliadau i’w dalu
    • Mae’n debyg na fyddwn, ond does dim ots gen i
    • Rydw i’n gobeithio cwblhau fy Nghwrs Arlwyo a chael gwaith, ond mae angen mwy o dai fforddiadwy neu adeiladau parod, stiwdios ac ati i bobl sengl. Byddai hyn yn lleddfu’r straen ac yn cynnig rhenti rhatach er mwyn i ni allu cyllidebu a bod mewn sefyllfa well o leiaf
    • diffyg gobaith
    • Rydw i’n cael budd-dal tai llawn oherwydd fy anabledd, ond ni fyddwn yn gallu ei fforddio fel arall
    • Mae’n gwneud i mi boeni cryn dipyn. Rydw i’n bwriadu bod yn y coleg am ychydig flynyddoedd eto, sy’n mynd i’w gwneud yn anodd i mi rentu
    • Mae’n gwneud i mi deimlo’n anobeithiol nad oes yna dai yn yr ardal rydw i eisiau byw ynddi, ac ni fyddwn yn gallu fforddio byw yma hyd yn oed pe bai yna dai
    • Yn syml, ni allaf eu fforddio

Wrth ystyried sut y cafwyd yr adborth fodd bynnag, gwelwyd na chafwyd adborth o rai ffynonellau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • unigolion nad ydynt wedi elwa ar wasanaethau
  • unigolion sydd wedi gadael y gwasanaethau i fod yn ddigartref
  • unigolion y gellid bod wedi gwrthod gwasanaethau cymorth iddynt yn dilyn rhyngweithiad â darparwyr

Bydd Tîm y Grant Cymorth Tai yn edrych ar hyn wrth symud ymlaen.

Tudalen Nesaf:  5. Asesiadau o Effaith

 
end content