Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Archived Draft Housing Support Programme Consultation 6. Gweithredu, Monitro, ac Adolygu'r Strategaeth

6. Gweithredu, Monitro, ac Adolygu'r Strategaeth


Summary (optional)
start content

6a.  Gweithio gyda Phartneriad


Fel rhan o’r broses ymgynghori, gofynnwyd i bobl  sut yr hoffent  gymryd rhan mewn rhoi’r strategaeth ar waith.

Bydd Partneriaeth Strategol Tai Conwy’n cadw rheolaeth gyffredinol am y Strategaeth ac yn cael diweddariadau rheolaidd gan Dîm y Grant Cymorth Tai am sut mae’r blaenoriaethau’n cael eu gweithredu.

Bydd Tîm y Grant Cymorth Tai, ynghyd â phartneriaid eraill yng Nghonwy, yn ceisio hyrwyddo’r Grant Cymorth Tai ac effeithiau’r gwasanaethau ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos, adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaethau, mynychu digwyddiadau, a bydd ein dogfen ranbarthol, Hanesion Ein Pobl, yn cael ei diweddaru gan y Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol.

Mae gan Conwy berthnasoedd da gyda’n partneriaid ym meysydd Iechyd, Gofal a Chyfiawnder Troseddol ar hyn o bryd, a byd yn parhau i gydweithio â nhw i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd.

6b.  Ffynonellau Cyllido


Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau, bydd y cyllid canlynol yn cael ei ddefnyddio yng Nghonwy:

  •  Grant Cymorth Tai
  • Cyllid yr awdurdod lleol
  • Grant Tai Cymdeithasol
  • Cyllid Digartrefedd Statudol i gyd-fynd â’r gwasanaethau ataliol

 

6c.  Trefniadau monitro, adolygu a gwerthuso


Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, fe gynhelir adolygiad o ba wybodaeth sydd ei  hangen i adolygu ein blaenoriaethau a monitro unrhyw newidiadau yn yr anghenion a nodwyd drwy  Ddata Llwybr Sengl, Data Canlyniadau a Data Digartrefedd Conwy, yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth anecdotaidd.

Yn unol ag Amodau  GCT, bydd y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu yn cael eu monitro, eu hadolygu a’u gwerthuso fel a ganlyn:

Bydd adroddiadau cynnydd chwarterol, chwe-misol a blynyddol yn cael eu paratoi a’u rhannu gyda’r grwpiau/partneriaid canlynol:

    • Y Bartneriaeth Strategol Tai
    • Grŵp Cynllunio GCT Conwy
    • Y Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol
    • Llywodraeth Cymru

Bydd y strategaeth a’r blaenoriaethau yn cael eu hadolygu yn 2023 i sicrhau bod y ddogfen yn gyfredol ac yn addas i’r diben.

Bydd yr adolygiad yn ystyried y cynnydd a wnaed, ffactorau mewnol ac allanol sy’n dylanwadu ar weithrediad y strategaeth ac anghenion newidiol defnyddwyr y gwasanaethau.

Tudalen Nesaf:  Atodiad A - Cynllun Gweithredu

end content