Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

5. Asesiadau o Effaith


Summary (optional)
start content

5a.  Y Broses Asesu Effaith


Cynhaliwyd Asesiad o Effaith integredig ynghyd ag Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, sy’n cynnwys y Gymraeg a’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.  Mae’r asesiadau hyn o gymorth i ddod i ddeall y canlynol:

  • Cael gwell dealltwriaeth o’r unigolion hynny y gallai’r polisi neu’r arfer gael effaith arnynt
  • Diwallu gwahanol anghenion yn well a dod yn fwy hygyrch a chynhwysol
  • Galluogi cynllunio ar gyfer llwyddiant - nodi peryglon posib a chanlyniadau anfwriadol cyn i unrhyw ddifrod gael ei wneud.
  • Galluogi gwell cynllunio a fydd yn golygu bod penderfyniadau’n rhai rhagweithiol yn hytrach na’n rhai ymatebol, gan osgoi gorfod dad-wneud penderfyniadau a allai arwain at oblygiadau o ran costau ac enw da.
  • Dangos bod penderfyniadau yn cael eu hystyried yn drylwyr a’u bod wedi cymryd barn y rheiny yr effeithir arnynt i ystyriaeth.
  • Ein galluogi i reoli disgwyliadau drwy esbonio’r cyfyngiadau yr ydym yn gweithio o’u mewn (e.e. cyllideb).
  • Helpu osgoi a gwella canlyniadau i unigolion.
  • Cael gwared ar arferion amhriodol neu niweidiol yn ogystal â gwahaniaethu sefydliadol.
  • Sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal a bod penderfyniadau yn cael eu gwneud i ddiogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg

Asesiad o Effaith Integredig


Roedd yr asesiad uchod yn cynnwys y canlynol:

  • Cefndir y cynllun
  • Ystyriaethau’r ddyletswydd gydraddoldeb, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r effaith ar y Gymraeg
  • Sut y mae’n cyd-fynd â nodau lles Conwy
  • Arfarnu cynaliadwyedd

Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg


Roedd yr asesiad uchod yn cynnwys y camau a restrir isod:

  • Cam 1 - Nodi Prif Nodau ac Amcanion y Polisi neu’r Arfer
  • Cam 2 - Data, Ymgysylltu ac Asesu’r Effaith
  • Cam 3 – Caffael a Phartneriaethau
  • Cam 4 – Delio gydag Effaith Niweidiol neu Anghyfreithlon a Chryfhau’r Polisi neu’r Arfer
  • Cam 5 – Penderfyniad i Fwrw Ymlaen
  • Cam 6 – Camau Gweithredu a Threfniadau ar gyfer Monitro Canlyniadau ac Adolygu Data
  • Cam 7 - Cyhoeddi’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

 

5b.  Canfyddiadau Allweddol


Yn gryno, roedd mwyafrif yr effeithiau yn gadarnhaol.  Mae prosiectau/gwasanaethau a gomisiynwyd gyda chyllid y Grant Cymorth Tai yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarnhaol gyda phobol sy’n defnyddio’r gwasanaethau.  Mae’r gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyrwyddo annibyniaeth, yn ogystal ag yn ystyried unrhyw nodweddion a ddiogelir, dyletswyddau economaidd-gymdeithasol ac yn ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg.

Fe nodwyd rhywfaint o fylchau wrth gasglu data, , a fydd yn cael ei gywiro erbyn mis Ebrill 2022, pan fydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei cheisio gan y Darparwyr a hefyd gan y rheiny sy’n atgyfeirio pobl at wasanaethau.

Tudalen Nesaf:  6. Gweithredu, Monitro, ac Adolygu'r Strategaeth

end content