Mae’r rhyddhad ardrethi hwn wedi’i anelu at fusnesau yng Nghymru yn y sectorau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch, er enghraifft, siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. Bydd hereditamentau cymwys yn cael gostyngiad o 100% ar eu hardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i asesiad fod o fewn y sector Manwerthu, Hamdden neu Letygarwch gyda gwerth ardrethol o lai na £500,000 a dylid sicrhau nad yw wedi’i restru ar dudalen 5, pwynt 20 o Ganllaw Llywodraeth Cymru, sydd i’w weld drwy glicio ar y ddolen isod.
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch: Canllawiau 2021-22 (PDF)
Cefnogaeth Covid-19 i Fusnesau
Gallwch dderbyn diweddariadau grant rheolaidd trwy e-bost. Cyhoeddir Cylchlythyr Conwy yn rheolaidd yn rhoi diweddariadau ynghylch grantiau a chymorth busnes.
Cliciwch yma i gofrestru: https://conwybusinesscentre.com/cy/