Cyfrifir ardrethi annomestig, neu drethi busnes fel y’u gelwir hefyd, ar sail dau o newidion:
- gwerth ardrethol yr eiddo, a bennir gan Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau
- y lluosydd perthnasol a bennir yn flynyddol ac sydd fel arfer yn cynyddu’n unol â chwyddiant oni bai fod Llywodraeth Cymru’n penderfynu fel arall.
Ers 1 Ebrill 2026, gall tri o luosyddion fod yn berthnasol i eiddo yng Nghymru. Y rhain yw’r lluosyddion ar gyfer 2026-27:
- lluosydd manwerthu o 0.350 ar gyfer siopau manwerthu bach a chanolig â gwerth ardrethol llai na £51,000;
- lluosydd safonol o 0.502 ar gyfer y rhan helaeth o eiddo o fathau eraill;
- lluosydd uwch o 0.515 ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol mwy na £100,000.
Wedi cyfrifo’r cyfanswm sy’n daladwy drwy gyfuno’r gwerth ardrethol a’r lluosydd perthnasol, gellid lleihau hwnnw o ganlyniad i ryw fath arall o ryddhad.
Lluosydd manwerthu
Mae’r lluosydd manwerthu’n gymwys i eiddo â gwerth ardrethol llai na £51,000, sy’n gyson ag un o’r disgrifiadau canlynol mewn rhestr ardrethu leol:
- ciosg a safle
- fferyllfa a safle
- swyddfa bost a safle
- siop a safle
- siop, swyddfa bost a safle
Lluosydd safonol
Mae’r lluosydd safonol yn gymwys i’r holl eiddo nad yw’n destun i’r lluosydd manwerthu neu’n lluosydd uwch, megis:
- eiddo â gwerth ardrethol llai na £51,000 nad yw’n destun lluosydd manwerthu
- eiddo â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000
- eiddo â gwerth ardrethol mwy na £100,000 nad yw’n destun lluosydd uwch (gweler y disgrifiadau o eiddo fel hyn dan y Lluosydd uwch)
Lluosydd uwch
Mae’r lluosydd uwch yn gymwys i eiddo sy’n ymddangos mewn rhestr ardrethu leol neu ganolog â gwerth ardrethol mwy na £100,000. Ceir eithriadau ar gyfer rhai mathau penodol o eiddo a feddiannir gan gyrff sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill a gynhelir yn bennaf drwy arian cyhoeddus.
Mae eiddo sy’n gyson â’r disgrifiad canlynol mewn rhestr ardrethu leol yn destun y lluosydd safonol yn hytrach na’r lluosydd uwch, hyd yn oed os oes ganddo werth ardrethol mwy na £100,000:
- gorsaf ambiwlans a safle
- sefydliad amddiffyn cynorthwyol a safle
- mynwent a safle
- coleg a safle
- amlosgfa a safle
- gorsaf dân a safle
- canolfan iechyd a safle
- ysbyty a safle
- llys barn a safle
- canolfan hamdden a safle
- llyfrgell a safle
- amgueddfa a safle
- gorsaf heddlu a safle
- carchar a safle
- ysgol a safle
- canolfan chwaraeon a safle
- meddygfa a safle
- pwll nofio a safle
- prifysgol a safle
Lluosyddion cyn 01 Ebrill 2026
Hyd 31 Mawrth 2026, defnyddid yr un lluosydd ar gyfer yr holl eiddo yng Nghymru.
Lluosyddion ar gyfer yr holl eiddo hyd 31 Mawrth 2026
| Blwyddyn ariannol | Lluosydd ardrethol |
| 2025/2026 |
0.568 |
| 2024/2025 |
0.562 |
| 2023/2024 |
0.535 |
| 2022/2023 |
0.535 |
| 2021/2022 |
0.535 |
| 2020/2021 |
0.535 |
| 2019/2020 |
0.526 |
| 2018/2019 |
0.514 |
| 2017/2018 |
0.499 |
| 2016/2017 |
0.486 |
Ceir ychwaneg o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru: Ardrethi Annomestig – Lluosyddion | Busnes Cymru