Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Eiddo hunanddarpar

Trethi busnes: eiddo hunanddarpar


Summary (optional)
start content

Sut caiff eiddo gwyliau hunanddarpar ei drin mewn perthynas â Threth y Cyngor ac Ardrethi Busnes, a beth sydd arnoch chi angen ei wneud i sicrhau bod eich eiddo’n cael ei asesu’n gywir.

Ardrethi Busnes neu Dreth y Cyngor – beth sy’n berthnasol?

Yng Nghymru, mae pa un ai ydych chi’n Ardrethi Busnes (Trethi Annomestig) neu Treth y Cyngor (a phremiwm ail gartref o bosibl) yn dibynnu ar sut caiff yr eiddo ei ddefnyddio.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gwneud y penderfyniad yma, nid y Cyngor.

Pan fydd Ardrethi Busnes yn berthnasol i eiddo

I drin yr eiddo fel busnes (a thalu Ardrethi Busnes arno) mae’n rhaid i chi redeg eich eiddo fel llety gwyliau masnachol.

O fis Ebrill 2026 mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol:

  • Mae’n rhaid i’r eiddo fod ar gael i’w osod yn fasnachol am o leiaf 252 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis
  • Mae’n rhaid ei osod am o leiaf 182 diwrnod
  • Mae’n rhaid i chi fod â bwriad i barhau i’w osod yn fasnachol

Os nad ydych chi’n bodloni'r gofynion

Os nad yw’ch eiddo yn cyrraedd y trothwyon yma:

  • Bydd yn cael ei drin fel eiddo domestig
  • Byddwch yn gorfod talu Treth y Cyngor yn lle Ardrethi Busnes
  • Dan rai amgylchiadau, efallai y bydd premiwm Treth y Cyngor yn berthnasol

Gall hyn gynyddu’r swm sy’n ddyledus yn sylweddol.

Symud o Dreth y Cyngor i Ardrethi Busnes

Os yw’ch eiddo wedi bod yn destun Treth y Cyngor ond bellach yn bodloni gofynion Ardrethi Busnes:

  • Gwnewch gais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio:
  • Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asesu’ch eiddo
  • Os yw’n gymwys, byddan nhw’n:
    • symud yr eiddo i’r Rhestr Eiddo Annomestig
    • aseinio gwerth trethiannol
  • Bydd y Cyngor wedyn yn cyhoeddi bil Ardrethi Busnes

Mae’n rhaid i chi wneud cais – nid yw hyn yn digwydd yn awtomatig.

Gwiriadau parhaus

Efallai y bydd gofyn i chi gadarnhau eich gweithgareddau gosod bob blwyddyn. Os nad ydych chi’n bodloni’r gofynion, efallai bydd eich eiddo’n cael ei symud yn ôl i Dreth y Cyngor.

Targedau allweddol mae’n rhaid i chi eu cyrraedd

I barhau i dalu Ardrethi Busnes, mae’n rhaid i chi ddangos:

  • bod eich eiddo ar gael am 252 diwrnod y flwyddyn
  • eich bod wedi gosod yr eiddo am o leiaf 182 diwrnod

Mae’r ffigyrau hyn yn seiliedig ar:

  • eich gwir archebion
  • eich argaeledd ar gyfer gosod masnachol

Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod (Cymru)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, ac yn parhau i fireinio’r rheolau yma.

Newidiadau mis Ebrill 2026

Hyblygrwydd newydd:

  • Rheol cyfartaledd:
    • Gallwch gyrraedd y gofyniad o 182 diwrnod yn defnyddio cyfartaledd dros 2 neu 3 blynedd, yn hytrach nag un flwyddyn yn unig
  • Defnydd elusennol:
    • Gall hyd at 14 diwrnod y flwyddyn sydd wedi’i roi i elusen gofrestredig gyfrif tuag at eich cyfanswm

Mae’r newidiadau hyn yn helpu busnesau pan fydd cyfraddau llenwi yn anwadal.

Gwybodaeth bwysig

  • Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion cywir:
    • archebion
    • argaeledd
  • Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r Cyngor am unrhyw newid sylweddol
  • Nid yw’r Cyngor yn gallu newid penderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol

Os ydych chi’n bodloni’r gofynion:

  • Byddwch yn talu Ardrethi Busnes
  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach

Os nad ydych chi:

  • Byddwch yn talu Treth y Cyngor
  • Efallai y byddwch yn gorfod talu premiwm (hyd at 300% mewn rhai ardaloedd)

Dolenni perthnasol

end content