Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Cronfa Adfywio Cymunedol y DU – Gweithgarwch Prosiectau wedi'i Gwblhau

Cronfa Adfywio Cymunedol y DU – Gweithgarwch Prosiectau wedi'i Gwblhau


Summary (optional)
Nod Cronfa Adfywio Cymunedol y DU oedd cefnogi pobl a chymunedau oedd â’r angen mwyaf ar hyd a lled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Roedd yn buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau, lleoedd a busnesau lleol ac yn cefnogi pobl i gael gwaith.
start content

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod y cyflwyniadau canlynol wedi llwyddo â’u ceisiadau am gefnogaeth gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.  Mae’r gweithgarwch bellach wedi’i gwblhau ac mae’r prosiectau wedi dod i ben.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: UK Community Renewal Fund Prospectus (gov.uk)



Prosiectau

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod y cyflwyniadau canlynol wedi llwyddo â’u ceisiadau am gefnogaeth gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae’r gweithgarwch bellach wedi’i gwblhau ac mae’r prosiectau wedi dod i ben.
 
Roedd 10 prosiect wedi’u cymeradwyo yn Sir Conwy gwerth cyfanswm o £2,235,522, wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU:

Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory – Engineering Education Scheme Wales Ltd

Rhaglen beilot o weithgareddau rhyngweithiol i ddisgyblion oed cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6, a disgyblion oed uwchradd ym mlynyddoedd 10 ac 11, i ennyn eu diddordeb yn yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yn sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth.

Hwb Arloesi ar gyfer Twristiaeth Conwy – Grŵp Llandrillo Menai

Cyfres o fentrau i greu a gweithredu arloesedd ar gyfer y diwydiant twristiaeth bywiog a’r economi ymwelwyr yng Nghonwy.

Conwy Ddigidol a Chreadigol – Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc)

Academi sgiliau a phrosiect i roi hwb i fusnesau.

Prosiect Cysylltiadau Cymunedol Towyn a Bae Cinmel – Cyngor Tref Towyn a Bae Cinmel

Sefydlu Partneriaeth Gymunedol ar gyfer Towyn a Bae Cinmel.

Rhaglen Sgiliau a Chyflogadwyedd ar gyfer Adfer a Thwf – CBS Conwy

Cyfres o brosiectau peilot i helpu a chefnogi pobl i oresgyn sawl rhwystr rhag cael gwaith.

Datblygu Strategaeth Ddiwylliant Conwy – CBS Conwy

Creu Menter Partneriaeth Ddiwylliannol i gydlynu a chyflawni’r Strategaeth Ddiwylliant a phum Tîm Tref i oruchwylio cynlluniau gweithredu lleol ar gyfer ein prif drefi.

Cefnogaeth Gymunedol a Datblygu Conwy Wledig – CBS Conwy

Ehangu’r gwaith a wnaed gan y Tîm Datblygu Gwledig yn ardaloedd gwledig Conwy.

Ymchwil ar effaith Covid-19 ar ganol ein trefi – CBS Conwy

Comisiynu astudiaeth i edrych ar effaith Covid-19 ar ganol ein trefi.

Platfformau cefnogaeth ddigidol ar gyfer busnesau a chymunedau yng Nghonwy – CBS Conwy

Datblygu cyfres o adnoddau ar-lein i gefnogi sectorau busnes a chymunedau lleol i adfer yn economaidd a datblygu.

Gwella Promenâd Bae Llandudno – CBS Conwy

Cam cyntaf gwaith adnewyddu ac ailddylunio’r llochesi treftadaeth a’r colonadau ar Draeth y Gogledd yn Llandudno.

 


UK GOV_WALES_logo

end content