Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Rhaglen Datblygu Gwledig

Rhaglen Datblygu Gwledig


Summary (optional)
start content

Wedi'i ariannu trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru fel rhan o Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae Conwy Cynhaliol Grŵp Gweithredu Lleol Conwy yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gyflwyno'r Rhaglen LEADER 2014 - 2020 yng Nghonwy.

Mae'n rhaglen fuddsoddi 7 mlynedd, sy'n anelu at wella gwydnwch a hyrwyddo newid trawsnewidiol mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a chymunedau gwledig. Gan ddod â thua biliwn o bunnoedd i gefn gwlad Cymru, bydd yn cefnogi ystod eang o weithgareddau sy'n:

Gwella ysbryd cystadleuol yn y sector amaethyddiaeth a choedwigaeth

Diogelu ac yn gwella’r amgylchedd gwledig

Meithrin ysbryd cystadleuol a chynaliadwyedd busnesau gwledig a chymunedau gwledig sy’n ffynnu

Bydd gweithgarwch y prosiect yn cael ei gyflwyno o dan bob un o'r 5 Thema LEADER:

  • Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau diwylliannol naturiol
  • Hwyluso datblygiad cyn – fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
  • Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
  • Ynni adnewyddadwy ar lefel cymunedol
  • Manteisio ar dechnoleg ddigidol
end content