Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Diweddariadau Blaenorol

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Diweddariadau Blaenorol


Summary (optional)
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ôl-Brexit Llywodraeth y DU yn disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE, a disgwylir iddi lansio yn y gwanwyn 2022.
start content

Gellir canfod y wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Diweddariad mis Rhagfyr 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 5 Rhagfyr 2022 fod cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi ei gymeradwyo. I ddarllen cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn llawn ewch i:

Mae manylion ynglŷn â sut y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei darparu yn dal i gael eu penderfynu. Felly dim ond wedi i’r manylion sydd eu hangen a’r trefniadau cyllido gael eu derbyn a’u hystyried y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn unol ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru, yn gallu mynd ymlaen â’r broses gais.

Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn dechrau dod yn weithredol ar hyd a lled Gogledd Cymru yn gynnar yn 2023.

Rydym yn parhau’n ymrwymedig i roi cyfle i sefydliadau gyflwyno cais am ran o’r arian ac fe fyddwn yn gweithio i helpu cymunedau lleol a busnesau i gael mynediad i gefnogaeth o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael.

Yn y cyfamser, mae’r holl wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y DU ynglŷn â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan gynnwys yr hyn y gellir defnyddio’r arian ar ei gyfer a’r allbynnau a’r canlyniadau y bydd angen i brosiectau eu cyflawni ar gael yma:

 

Diweddariad mis Tachwedd 2022

Yn dilyn cyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru i Lywodraeth y DU ym mis Awst 2022, mae CBS Conwy, ynghyd â’r pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru, yn aros am adborth gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y rhanbarth i ddatblygu’r broses ymgeisio ac yn gobeithio dechrau gwahodd ceisiadau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Yn y cyfamser, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@conwy.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

end content