Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Cronfa Fuddsoddi Strwythurol Ewrop – 2014 - 2020

Cronfa Fuddsoddi Strwythurol Ewrop – 2014 - 2020


Summary (optional)
start content

Yn ystod 2014 - 2020 bydd Cymru’n elwa o bron i £2bn o gyllid o Gronfeydd Buddsoddi Strwythurol Ewrop (ESIF), a fydd yn cefnogi twf economaidd a swyddi drwy:

  • Ymchwil ac arloesi
  • Gallu Mentrau Bach a Chanolig eu maint i Gystadlu
  • Ynni cynaliadwy ac effeithlonrwydd ynni
  • Cysylltedd a Datblygu Trefol
  • Trechu Tlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy
  • Sgiliau ar gyfer Twf
  • Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Pobl Ifanc

Yng Nghymru, rheolir y cronfeydd hyn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Mae Conwy’n rhan o raglen ranbarthol Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sy'n cwmpasu 15 ardal awdurdod lleol yng Ngogledd a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyllid o ddwy Gronfa Fuddsoddiad Strwythurol Ewropeaidd:

  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
  • Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Bydd Cymru hefyd yn elwa o ystod o raglenni ariannu Ewropeaidd eraill sy'n cwmpasu Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF). Yng Nghonwy, ceir mynediad i hyn trwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Mae’r Fframwaith Flaenoriaethu Economaidd yn ddogfen allweddol i gyd-fynd â’r rhaglenni hyn a datblygu unrhyw brosiectau. 

ERDF Port RGB  ESF Port RGB

end content