Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Gogledd Cymru

Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Gogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Mae Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Gogledd Cymru’n gweithio ar draws sectorau i helpu gyda gwneud y mwyaf o’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd yn y rhanbarth a gweithredu rhaglenni Strwythurol Ewropeaidd a Chronfeydd Buddsoddi.

Gweithio yn unol â Swyddfa Rheoli Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu’r Fargen Dwf a’r Weledigaeth Dwf ehangach, bydd y Tîm Ymgysylltu yn gwneud y mwyaf o effaith Cyllid Ewropeaidd i gyflawni nod ranedig y rhanbarth i yrru cynaliadwyedd a thwf economaidd cynhwysol ledled Gogledd Cymru.

 

Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys 6 awdurdod lleol gyda dolenni i'w gwefan.

  1. Cyngor Sir Ynys Môn
  2. Cyngor Gwynedd
  3. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  4. Cyngor Sir Ddinbych
  5. Cyngor Sir y Fflint
  6. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Y Timau Ymgysylltu Rhanbarthol

Mae pedwar Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) wedi eu sefydlu ledled Cymru i helpu i sicrhau bod cynigion am gyllid Ewropeaidd yn bodloni cyfleoedd a buddsoddiadau’r dyfodol ar lefelau rhanbarthol – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.

map-of-wales

rhaglen-cronfeydd-strwythurol-yr-ue-2014-i-2020-prosiectau-a-gymeradwywyd.ods (live.com)


Mae’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn gweithio ar draws pob sector i sicrhau cyfranogiad effeithiol a llwyddiant ar gyfer buddsoddiadau a ariennir gan yr UE – gan ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau presennol/a gynlluniwyd yng nghyd-destun gweithgareddau a chyfleodd thematig sydd wedi eu sefydlu ac sy’n datblygu. Rydym yn cyflawni hyn drwy’r camau gweithredu canlynol:

Amcanion y Tîm Ymgysylltu RhanbartholCamau Gweithredu’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol
Cynnal trosolwg strategol o flaenoriaethau/gweithgareddau rhanbarthol
  • Caffael gwybodaeth am flaenoriaethau/trafodaethau rhanbarthol gan weithgorau rhanbarthol
  • Rhwydweithio ac Ymgysylltu
Prawfesur polisïau o safbwynt rhanbarthol a blaenoriaethu gweithrediadau
  • Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau consensws o ran gweithgarwch arfaethedig (blaenoriaethu)
Sicrhau bod blaenoriaethau a buddiannau rhanbarthol yn rhan o raglenni’r UE
  • Sicrhau ystyriaeth a chyfranogiad rhanbarthol mewn prosiectau strategol cenedlaethol (gweithgareddau ychwanegol, yr effaith ar gyflenwad/galw am sgiliau, sicrhau ymgysylltiad traws-sector, cysondeb ag uchelgeisiau strategol, sicrhau integreiddio a dim dyblygu)
  • Adrodd ac ymgysylltu yn rheolaidd â WEFO
  • Hwyluso’r adolygiad rheolaidd o’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd (EPF)
Nodi integreiddiad / dyblygiad/bylchau posibl o ran gweithgarwch
  • Mapio gweithgarwch parhaus (a gymeradwywyd, sy’n datblygu ac sy’n dod i’r amlwg) ar draws pob ffrwd ariannu yn y rhanbarth
  • Hyrwyddo rhwydweithio ymhlith prosiectau/cysylltiadau trwy ymgysylltu a digwyddiadau
Codi proffil ac ymwybyddiaeth am gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar lefel rhanbarthol
  • Hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau prosiectau trwy:
  • Gylchlythyrau rheolaidd
  • Datganiadau i’r Wasg
  • Digwyddiadau a Gweithdai lledaenu
Cefnogi agweddau rhanbarthol ar Fonitro a Gwerthuso, a themâu trawsbynciol
  • Monitro ac asesu effaith a chwmpas gweithgarwch a ariennir gan Ewrop yn y rhanbarth trwy gyswllt rheolaidd â WEFO, cyllidwyr eraill, a chyda Buddiolwyr Arweiniol er mwyn casglu gwybodaeth yn gywir i lywio adroddiadau rheolaidd
Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd rhanbarthol
  • Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn cefnogi/wedi eu hintegreiddio ar draws Byrddau Dinas-Ranbarthau (Rhanbarthau Bae Abertawe a Dinas Caerdydd), Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.


Manylion Cyswllt

Os ydych chi’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio ar draws mwy nag un rhanbarth, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol trwy ddefnyddio’r manylion isod:

Gogledd Cymru

Gwefan: Uchelgais Gogledd Cymru  
E-bost: Barbara.Burchell@conwy.gov.uk
E-bost: RegionalEngagementTeam@conwy.gov.uk

Canolbarth Cymru

Gwefan: Cronfeydd ESI 2014 - 2020 - Cyngor Sir Ceredigion
E-bost: claire.miles@ceredigion.gov.uk

De-orllewin Cymru

Gwefan: Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-orllewin Cymru (RET) (llyw.cymru)
E-bost: JELewis@carmarthenshire.gov.uk / BBWalters@carmarthenshire.gov.uk

De-Dwyrain Cymru

Gwefan: Tim Ymgysylltu Rhanbarthol De-dwyrain Cymru (sewales-ret.co.uk)
E-bost: SEWalesRET@bridgend.gov.uk
E-bost: Lisa.Jones@bridgend.gov.uk / Amy.Ryall@bridgend.gov.uk

EUStruscturalInvestmentFundsflag


Mae’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol wedi’i gefnogi gan y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru

end content