Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Blwyddyn i'w Chofio


Summary (optional)
start content

Blwyddyn i'w Chofio


Roedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn llwyddiant ysgubol i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy wrth iddo ragori ar ei ganlyniadau o ran Swyddi ar draws tair rhaglen Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a thynnwyd sylw ato fel y gorau ledled Cymru ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith

Er gwaethaf cyfyngiadau’r pandemig, roedd y rhaglenni hyn yn achubiaeth i lawer. Gweithiodd y tîm o fentoriaid a chynghorwyr y Canolbwynt yn ddiflino i ddarparu cefnogaeth ddwys a phersonol i ddatblygu hyder a sgiliau cyfranogwyr a’u helpu nhw i ganfod a chadw gwaith. Roedd y Canolbwynt yn gallu cynnig cyflogaeth, swyddi a chyngor o ran budd-daliadau, trefnu cyrsiau hyfforddi yn ogystal â sicrhau cyllid i lawer o bobl er mwyn goresgyn rhwystrau yr oedden nhw’n eu hwynebu i gael hyfforddiant a gwaith.

Cymunedau am Waith


Mae Cymunedau am Waith, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, yn rhaglen ar sail cod post sy’n gweithio i bobl ddi-waith hirdymor, y bobl economaidd anweithgar 25 oed a hŷn, a phobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEET). Gwnaethom ni ragori ar nifer y bobl 25 oed a hŷn wnaeth ddechrau mewn swyddi o 215% a 238% ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. 

Cymenedau am Waith+


Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn gweithredu mewn ffordd debyg i Gymunedau am Waith, ond mae’r rhaglen ar gyfer pobl sydd naill ai mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi ac mae ar gael ar draws sir Conwy. Gwnaethom ni ragori ar nifer y bobl wnaeth ddechrau mewn swyddi o 101%. 

PaCE


Mae PaCE yn rhoi cymorth i bobl sy’n gweld bod costau gofal plant yn eu hatal nhw rhag hyfforddi neu weithio, a thrwy geisio cymorth gennym ni, gwnaethom ni ragori ar ein nod o helpu pobl ddychwelyd i’r gwaith o 179%. Llwyddodd 93% o gyfranogwyr, sy’n ganran anhygoel, ar y rhaglen PaCE gael gwaith, a bu’r 7% arall yn dilyn hyfforddiant i ddatblygu eu set o sgiliau cyn chwilio am waith.

Llwyddodd 121 o gyfranogwyr gael gwaith llawn amser
36% mewn Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
15% mewn adeiladu
11% in manwerthu
8% mewn gofal cymdeithasol

Llwyddodd 33 o gyfranogwyr gael gwaith dros dro
Yn bennaf mewn lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, adeiladu a glanhau

Roedd 82 o gyfranogwyr yn wynebu rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag cael gwaith
gan gynnwys materion iechyd, digartrefedd, anawsterau dysgu, diffyg cyfleoedd i ddefnyddio cyfrifiaduron, gofal plant, dyled, materion cludiant, anableddau ac euogfarnau troseddol

 

“Rwy’n falch iawn o dîm Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a’r gefnogaeth amhrisiadwy maen nhw’n wedi’i rhoi i breswylwyr Conwy trwy gydol y flwyddyn. Ei rôl yw helpu preswylwyr Conwy i ganfod cyflogaeth ystyrlon trwy Raglenni Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ac maen nhw wedi parhau i ddarparu cefnogaeth wedi’i theilwra i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl trwy gydol y pandemig, sydd yn eu tro wedi cyfrannu at leihau tlodi ac eithrio cymdeithasol.

“Gweledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw bod yn sir flaengar sy’n creu cyfleoedd, ac roedd y Canolbwynt yn gyflym wrth ymateb i’r prinder llafur a sgiliau lleol sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd a mynd i’r afael â nhw gyda datrysiadau wedi’u teilwra a chyrsiau hyfforddi.  Roedd y cyrsiau’n grymuso’r cyfranogwyr â’r sgiliau gofynnol angenrheidiol, ac yn bwysig, roeddent yn cynnwys profiad gwaith sy’n hanfodol wrth eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn ogystal â darparu cyfle i archwilio dewisiadau gyrfa posibl mewn gwahanol sectorau.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i dîm Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ar ran y Cyngor am eu llwyddiant y llynedd ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu llwyddiant parhaus dros y deuddeg mis nesaf.”


Dr Lowri Vaughan Brown
Prif Swyddog Addysg
Pennaeth Gwasanaethau Addysg
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Storïau o Lwyddiant


“Roeddwn i’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch ar gyfer gwesty ond roeddwn ar gontract dim oriau ac eisiau mwy o sicrwydd. Mae fy nyled yn fawr i Gymunedau am Waith a Mwy am yr holl gymorth a gefais ganddynt, yn enwedig fy nghynorthwyo i fynychu'r cwrs yn Abertawe a oedd yn werthfawr iawn er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i mi yn ogystal â nifer o awgrymiadau a thechnegau ymarferol yr wyf yn awr yn eu defnyddio.”

Darren, Barista, caffi Ridiculously Rich, Llandudno

“Rwy’n rhannol ddall, yn rhannol fyddar ac yn wynebu heriau eraill, ond ni all unrhyw beth fy atal i rhag gwneud yr hyn yr wyf eisiau ei wneud, ni fyddaf yn gadael iddo.   Rwy’n lwcus bod fy nheulu, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, y bwrdd iechyd ac eraill wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi, sydd wedi rhoi hyder i mi edrych i’r dyfodol ac archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae platfformau a rhaglenni ar gael sy’n gallu eich helpu chi i wireddu eich breuddwydion - mae’n rhaid i chi fynd amdani.” 

Mae Jess, unigolyn ysbrydoledig sy’n 26 mlwydd oed ynghyd â’i chi cymorth, Jingle, yn weithiwr cefnogi ar uned strôc Ysbyty Glan Clwyd ac yn gwirfoddoli yn PetPlace


"Hoffaf ddiolch i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy am beidio â rhoi’r ffidl yn y to pan gawsom ni rwystrau ar y ffordd yn sgil fy nghofnod troseddol ac am gredu ynof fi a gwneud i mi deimlo’n werthfawr.   Bellach, mae gan fy mywyd ymdeimlad go iawn o bwrpas a dw i’n edrych ymlaen at fynd i'r gwaith bob dydd.”

Jason, Gwasanaethau Amgylcheddol World Care

 

end content