Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweithdai Myfyrwyr


Summary (optional)
start content

Gweithdai Myfyrwyr


Mae STEM Gogledd yn cefnogi ysgolion i ddatblygu STEM, (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) i ysbrydoli, hyrwyddo a chefnogi addysg STEM.

Gan weithio gyda M-Sparc, gwnaeth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ariannu gweithdai arbennig yn Ysgol y Creuddyn i hyrwyddo sgiliau a gyrfa STEM.

Gofynnwyd i ddisgyblion Blwyddyn 10 ymgymryd â gwaith ymchwil, cynllunio a gweithredu digwyddiad STEM ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7.  Y nod oedd ysbrydoli, addysgu a rhoi gwybodaeth i ddisgyblion Blwyddyn 7 am STEM gan ddefnyddio sgiliau allweddol fel gwaith grŵp, cyfathrebu a datrys problemau ar yr un pryd. Y nod hirdymor yw creu gwaddol ar gyfer yr ysgol a chefnogi’r elfen gyrfaoedd a phrofiad yn gysylltiedig â gwaith y Cwricwlwm i Gymru Newydd drwy gynnwys rhyngweithio â chyflogwyr

Dros nifer o wythnosau, bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai i baratoi ar gyfer sesiynau’n ymwneud â’r Gofod a Rocedi a gofynnwyd i fyfyrwyr greu roced; Peirianneg â’r Her Gollwng Ŵy; Bwyd a Maetheg yn seiliedig ar fwydydd heb glwten a sesiwn i gloi ar y Syrcas a’r defnydd o wyddoniaeth.

Cymerodd 120 o fyfyrwyr blwyddyn 7 ran yn y rhaglen. Cyn y rhaglen gofynnwyd iddyn nhw i gyd nodi eu diddordeb mewn dilyn gyrfa STEM a gofynnwyd iddyn nhw ailadrodd hyn eto ar ddiwedd y rhaglen.  Bu cynnydd ar gyfartaledd o 90% yn niddordeb myfyrwyr mewn gyrfaoedd yn ymwneud â’r gofod a chynnydd o 115% mewn gyrfaoedd STEM yn gyffredinol.

“Mae wedi gwneud i mi gymryd mwy o ddiddordeb mewn pynciau a gyrfaoedd STEM”

“Roedd yn hwyl! Mae’n gwneud i mi eisiau mynd adref a dysgu rhagor amdano”

“Doeddwn i ddim yn gwybod bod gyrfaoedd fel hyn ar gael yma yng Nghymru cyn y rhaglen”

 

Mae llwyddiant y rhaglen yn golygu ei bod yn awr yn rhan bwysig yng nghwricwlwm Blwyddyn 10 a Blwyddyn 7 wrth symud ymlaen.

end content