Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Gronfa Adfywio Cymunedol


Summary (optional)
start content

Y Gronfa Adfywio


Bu Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n arwain cais llwyddiannus i Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Gyfunol am gyfanswm o £270,000 ar gyfer pump o brosiectau Sgiliau a Chyflogadwyedd.

O ganlyniad uniongyrchol i’r llwyddiant hwn, roeddem ni’n gallu dechrau cynnig rhagor o’n rhaglenni cyflogadwyedd ar ben y prosiectau presennol, ac roedd y prosiectau ar gael i bawb sy’n byw yng Nghonwy:

Hyder yn dy Hun


Prosiect cymorth cyn cyflogi holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer pobl sydd angen cymorth ychwanegol cyn iddyn nhw gofrestru ar raglenni cyflogadwyedd yn y gymuned. Mae Hyder yn dy Hun yn canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol, datblygu cadernid a magu hyder/hunan-barch.  Bydd yn gwella iechyd corfforol a meddyliol drwy ddarparu gweithgareddau meithrin tîm yn yr awyr agored ynghyd â gweithgareddau eraill a chymorth mentora personol. Bydd y cwrs hefyd yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â sgiliau meddal, ymarferol, ariannol a digidol, a chynigir lleoliadau gwirfoddoli a chyfleoedd i ennill cymwysterau newydd.

Cwnsela Therapiwtig


Cwnsela a/neu hyfforddiant tymor byr sy’n canolbwyntio ar waith i gefnogi pobl oresgyn rhwystrau iechyd meddwl i gyflogaeth.  Caiff ei gynnal gan RCS ac mae’n llenwi bwlch yn y ddarpariaeth bresennol ar adeg y mae’r angen amdano’n gynyddol drwy gynnig rhaglen gwnsela wedi’i thargedu’n benodol at bobl sy’n ddi-waith, neu y mae eu gwaith mewn perygl yn sgil cyflwr iechyd meddwl.

Coleg Adfer Iechyd Meddwl


Datblygu’r syniad o Goleg Adfer i werthuso’r effaith ar iechyd meddwl/lles unigolion, cyflogadwyedd, cydlyniant cymunedol a phresgripsiynu cymdeithasol.  Bydd y Coleg yn gorff trosfwaol; bydd dysgwyr yn cael eu cofrestru ac yn cael cymorth i nodi eu hamcanion, cynllunio eu datblygiad personol a chael cyfleoedd dysgu.  Bydd y Siarter Coleg yn cynnwys ymrwymiad i ddull tosturiol sy’n canolbwyntio ar adfer.

Cyrsiau Llwybr


Ystod o gyrsiau hyfforddi llwybr a datblygu sy’n ymgorffori cymwysterau achrededig sectorau penodol, sgiliau cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith mewn sectorau twf a blaenoriaeth yng Nghonwy yn cynnwys gofal iechyd a chymdeithasol, adeiladu (gan gynnwys merched mewn adeiladu), ailgylchu, ailddefnyddio, diogelwch a thwristiaeth, lletygarwch a hamdden.

Canolbwyntiau Adfer Llyfrgell Gymunedol


Astudiaeth ddichonoldeb â nifer o becynnau gwaith er mwyn nodi a threialu model gweithredu yn seiliedig ar ymchwil lleol ac arferion da ledled y DU.   Bydd hyn yn cynnwys nodi darparwyr gwasanaeth posibl, gan edrych ar enghreifftiau o arferion da a chynhyrchu cylch gorchwyl ar gyfer sefydlu grŵp Cynhwysiant Digidol amlasiantaeth i gydlynu cyfranogiad digidol yn y gymuned.     Bydd hefyd yn ymdrin â rhwystrau digidol a dulliau i fynd i’r afael â chynhwysiad digidol yn lleol a fydd yn arwain at gynnal prosiect peilot yn Llyfrgell Llanrwst i dreialu’r Canolbwyntiau Cymunedol arfaethedig a’r modelau Coleg Adfer.

Dechreuodd prosiect y Gronfa Adfywio Cymunedol ddiwedd Ionawr 2022 a bydd yn parhau tan ddiwedd Rhagfyr 2022.

end content