Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Croeso i'r Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy


Summary (optional)
start content

Croeso


Croeso i’r Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy cyntaf, gan Libby Duo, Rheolwr Strategol.

"Roedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn her i fusnesau a chymunedau ac er gwaethaf Covid-19 a’r nifer fawr o gyfyngiadau, rwy’n hynod o falch bod fy nghydweithwyr wedi bod yn ddigon medrus i newid eu harferion gwaith yn gyflym.  Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom ni erioed gilio, na cholli golwg hyd yn oed ar ein cylch gwaith o helpu trigolion Conwy i gael gwaith, ac mae ein canlyniadau gorau erioed yn dyst i'w hymdrechion a'u llwyddiant.

"Cafodd cyfyngiadau Covid effaith andwyol ar hyder a lles meddyliol llawer o bobl hefyd ac rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo gyda’n cais i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar ddiwedd 2021 i ariannu pum prosiect dan Sgiliau a Chyflogadwyedd. Mae Hyder yn dy Hun, sef un o’r prosiectau hyn, yn brosiect cymorth cyn cyflogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac mae’n cynnig cefnogaeth i bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw cyn cofrestru ar ein rhaglenni cyflogadwyedd yn y gymuned.   Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol, datblygu cadernid a magu hyder/hunan-barch ac ar ôl rhai misoedd yn unig gwelir canlyniadau rhyfeddol.  Mae’r amserlen ar gyfer y cais cyfan wedi’i hymestyn o chwe mis felly bydd y prosiect hwn ynghyd â’r lleill yr ydym yn eu rhedeg yn parhau tan ddiwedd 2022.

"Un o’n cryfderau ni yw gweithio’n agos gyda sefydliadau trydydd parti a phreifat. Mae'r partneriaethau traws-sector hyn yn hanfodol o ran gwella ein cymunedau wrth i ni anelu at wireddu’r nod cyffredin o gefnogi, cynghori a helpu trigolion Conwy i gael gwaith.  Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom ni gadarnhau’r perthnasoedd hyn ymhellach ac rydym ni wedi sefydlu systemau trawsgyfeirio yn ogystal â chydweithio â busnesau a sefydliadau i gynnal rhaglenni hyfforddi.

"Mae tair Rhaglen Gyflogadwyedd Llywodraeth Cymru wedi’u hymestyn o 12 mis, felly mae’r flwyddyn sydd i ddod yn argoeli i fod yr un mor llwyddiannus a buddiol."


Blwyddyn i’w Chofio


Roedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn llwyddiant ysgubol i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy wrth iddo ragori ar ei ganlyniadau o ran Swyddi ar draws tair rhaglen Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru.

Ymgysylltu â Chyflogwyr


Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhan hollbwysig o’n rhaglen, ac mae ei wneud yn effeithiol yn sicrhau ein bod ni’n gallu uwchsgilio ein cyfranogwyr i fodloni anghenion yr economi leol, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i’n cymuned fusnes yn ogystal â chefnogi unigolion yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Hyfforddiant


Mae ein ffocws wedi bod ar gynnig cymysgedd o hyfforddiant, gan flaenoriaethu sgiliau sector penodol a sgiliau a arweinir gan gyflogwyr.

Y Gronfa Adfywio Cymunedol

Bu Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n arwain cais llwyddiannus i Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Gyfunol am gyfanswm o £270,000 ar gyfer pump o brosiectau Sgiliau a Chyflogadwyedd.

Gweithdai Myfyrwyr


Gan weithio gyda M-Sparc, gwnaeth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ariannu gweithdai arbennig yn Ysgol y Creuddyn i hyrwyddo sgiliau a gyrfa STEM.

Cynnydd


Mae’r Canolbwynt hefyd yn gweithio gyda Phrosiect Cynnydd sy’n cefnogi pobl ifanc 16-25 oed sy’n byw yng Nghonwy ac sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i addysg, gwaith neu hyfforddiant.

Rhaglen Pobl Ifanc


Cynhaliodd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a Phrosiect Cynnydd raglen o ddigwyddiadau’n targedu Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol a datblygu cadernid ar gyfer Pobl Ifanc Conwy ar ôl sicrhau cyllid gan Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

end content