Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgysylltu â Chyflogwyr


Summary (optional)
start content

Ymgysylltu â Chyflogwyr


Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhan hollbwysig o’n rhaglen, ac mae ei wneud yn effeithiol yn sicrhau ein bod ni’n gallu uwchsgilio ein cyfranogwyr i fodloni anghenion yr economi leol, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i’n cymuned fusnes yn ogystal â chefnogi unigolion yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Gweithiodd ein Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr yn agos â chyflogwyr ar draws pob sector y diwydiant ochr yn ochr â’n tîm o fentoriaid a arweiniodd at 20 cyfweliad ar gyfer ein cyfranogwyr, 7 o dreialon gwaith a 5 canlyniad o ran swyddi yn ogystal â threfnu swyddi gwirfoddoli ar gyfer 5 cyfranogwr.

Gwnaethom ni sicrhau gwaith i 8 cyfranogwr o fewn Cyngor Sir Conwy ac roedd y swyddi’n amrywio o yrrwr Cerbydau Nwyddau Trwm, arlwywr ysgol, Gweithiwr Cefnogi Cymunedol a gofalwr ar gyfer y tîm Gwasanaethau Anabledd yn ogystal â Swyddog Taliadau Uniongyrchol i’r adran gyllid.

Roedd mentrau sectorau penodol yn cynnwys gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i drefnu Ffair Swyddi ar gyfer y Diwydiant Lletygarwch. Bu 16 o fusnesau’n arddangos ac roedd ganddyn nhw 300 a mwy o swyddi gwag gyda’i gilydd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant aruthrol ac roedd 76 o bobl sy’n chwilio am waith yn bresennol gan arwain at 92 o geisiadau am swyddi, 34 cyfweliad ar gyfer swyddi wedi’u trefnu, 5 o dreialon shifft wedi’u trefnu a 2 yn dechrau swydd.

end content