Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhaglen Pobl Ifanc


Summary (optional)
start content

Rhaglen Pobl Ifanc


Cynhaliodd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a Phrosiect Cynnydd raglen o ddigwyddiadau’n targedu Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol a datblygu cadernid ar gyfer Pobl Ifanc Conwy ar ôl sicrhau cyllid gan Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Drwy weithio mewn partneriaeth, gwnaethom ni gynnal llawer o ddigwyddiadau llawn hwyl a sbri yn cynnwys:

  • Diwrnod Antur yn Adventure Parc Snowdonia a oedd yn cynnwys cyffro’r Ninja Assault, Extreme Slides, Indoor Adventure Climb, Zip Line a Free-falls
  • Gweithgaredd coginio gyda’n gilydd ar-lein o’r enw “Live Well” a oedd yn dysgu cyfranogwyr sut i goginio prydau bwyd iach o bob cwr o’r byd, gwella eu sgiliau rheoli arian a chael cymorth â maetheg
  • Ioga ar gyfer Gorbryder a oedd yn canolbwyntio ar iechyd ac yn cynnwys technegau ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar syml er mwyn helpu i reoli straen


Roedd pob digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar agor i unrhyw berson ifanc 16-24 oed sy’n byw yn sir Conwy.

end content