Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant


Summary (optional)
start content

Hyfforddiant


Mae ein ffocws wedi bod ar gynnig cymysgedd o hyfforddiant, gan flaenoriaethu sgiliau sector penodol a sgiliau a arweinir gan gyflogwyr. Mae hyn wedi sicrhau bod gan ymgeiswyr posibl ar gyfer cael gwaith y sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau sy’n berthnasol nid yn unig ar gyfer cyfleoedd gwaith presennol ond cyfleoedd gwaith sydd ar ddod yng Nghonwy hefyd.

Gwnaethom ni ddatblygu a darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi creadigol ac arloesol, a meithrin perthnasoedd rhyngasiantaethol, amlddisgyblaethol a sector cyfan effeithiol i weithio ar fentrau.  Gwnaethom ni hefyd gydweithio â sefydliadau i gynnal hyfforddiant a llwybrau recriwtio sy’n benodol i’r sector yn cynnwys:

  • Cylch Mentoriaid Adeiladu gyda Wynne Construction
  • Llwybr 8 Wythnos gyda Crest
  • Cwrs Cerbydau Nwyddau Trwm gydag Adran Sbwriel a Road to Logistics Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyflwyniad i gwrs hyfforddiant Gofal Cymdeithasol gydag Adran Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cwrs hyfforddiant a phrofiad gwaith 9 wythnos gyda Hickory’s yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Pythefnos o hyfforddiant a phrofiad gwaith adeiladu gyda Procure Plus

 

46 o Gyrsiau Hyfforddi, yn cynnwys:

  • Adeiladu
  • Ailgylchu
  • Arlwyo
  • CSCS
  • Cerbydau Nwyddau Trwm
  • Cyfrifiadura/TGCh
  • Cymhorthydd Dysgu
  • Diogelwch
  • Ffermio
  • Gofal Cymdeithasol
  • Gofal Plant
  • Harddwch
  • Iechyd a Diogelwch
  • Lletygarwch
  • Logisteg
  • Manwerthu
  • Mecaneg
  • Plymio
  • Saernïaeth
  • Trin Gwallt
  • Trydanol

 

Mae Jason Davies, o Hen Golwyn, bellach yn gweithio fel porthor cegin yn Hickory’s Smokehouse yn Llandrillo-yn-Rhos.

Fe wnaeth Jason, sy’n 34 oed, gymryd rhan yn y cwrs naw wythnos, lle bu’n magu hyder ac yn rhan o sesiynau ar waith tîm a chyfathrebu, sut i lunio CV a chael profiad go iawn.   Dywedodd Prif Gogydd Hickory’s, Luke King: “Mae Jason wedi bod yn gaffaeliad mawr ac mae wedi gweithio’n galed drwy’r broses i gyd. Rydym ni’n falch iawn o’i gael yn rhan o’r tîm.”

 

Cafodd Tom Whitworth swydd gyda RELM Construction ar ôl gwneud argraff dda ar leoliad yn rhan o gwrs pythefnos ymarferol ac yn y dosbarth a gafodd ei gynnal ar y cyd â Procure Plus.

Mae RELM Construction yn arbenigo yn y sector cynnal a chadw bwriadol ac ymatebol, yn ogystal â chynlluniau adnewyddu masnachol, ac roeddent yn canmol Tom am ei “agwedd gadarnhaol” a’i “awch i ddysgu”.  Dywedodd Tom “mae hi’n wych bod fy lleoliad wedi troi’n swydd llawn amser gyda RELM Construction, ac rwy’n mwynhau’r profiad o ddydd i ddydd, yn dysgu sgiliau newydd drwy’r amser ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.”

 

Cynllun Kickstart


Rhoddodd y Cynllun Kickstart gyllid i greu swyddi newydd ar gyfer pobl y mae perygl iddynt fod yn ddiwaith yn hirdymor. Rhoddodd brofiad gwaith gwerthfawr ynghyd â hyfforddiant a allai arwain at waith llawn amser.  Gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ni gydweithio i lenwi ei 27 o swyddi Kickstart a oedd yn amrywio o Gymorth Swyddfa Docynnau i Gynorthwyydd Tîm y Ganolfan Deulu a Gweithiwr Cwch dan hyfforddiant i Aseswr Ariannol/Budd-daliadau dan hyfforddiant.

end content