Mae dau Aelod o’r Senedd (AS) ar gyfer Conwy – un i bob un o etholaethau Aberconwy a Gorllewin Clwyd.
Mae 4 Aelod Rhanbarthol hefyd yn cael eu hethol i gynrychioli ardal gyfan Gogledd Cymru.
Mae Aelodau o’r Senedd yn rhannu eu hamser rhwng gwaith yn y Senedd yng Nghaerdydd a gwaith lleol yn yr ardal maent yn ei chynrychioli.
Cynhelir yr etholiadau hyn bob 5 mlynedd, a chynhelir yr etholiad nesaf ar 6 Mai 2021.
Dyddiadau Pwysig:
- Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: dydd Llun, 19 Ebrill 2021
- Dyddiad cau gwneud cais am bleidlais bost: 5pm ddydd Mawrth, 20 Ebrill 2021
- Dyddiad cau gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy: 5pm ddydd Mawrth, 27 Ebrill 2021
Pwy sy'n cael pleidleisio:
I bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru mae'n rhaid i chi fod:
- wedi cofrestru i bleidleisio
- yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o’r Gymanwlad, dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, neu’n ddinesydd tramor cymwys
- yn preswylio yng Nghymru, a
- heb unrhyw rwystr cyfreithiol i bleidleisio
Hysbysiadau etholiad
Rhybudd Etholiad - Aberconwy - 06.05.21
Rhybudd Etholiad - Gorllewin Clwyd - 06.05.21
Rhybudd Etholiad - Rhanbarth Etholiadol Gogledd Cymru - 06.05.21
Hysbysiad am Enwau a Swyddfeydd Asiantiaid yr Etholiad - Aberconwy
Hysbysiad am Enwau a Swyddfeydd Asiantiaid yr Etholiad - Gorllewin Clwyd
Datganiad o Unigolion a Enwebwyd a Hysbysiad o Bleidlais - Aberconwy - 06.05.21
Datganiad o Unigolion a Enwebwyd a Hysbysiad o Bleidlais - Gorllewin Clwyd - 06.05.21
Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio - Aberconwy - 06.05.21
Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio - Gorllewin Clwyd - 06.05.21
Etholiadau Senedd Cymru
Senedd Cymru - Rhanbarth Gogledd Cymru