Mae llawer o aelwydydd yng Nghymru’n dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig (LPG) i wresogi eu cartrefi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae prisiau tanwydd cynyddol oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau’r aelwydydd hynny.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £3.8 miliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi aelwydydd yng Nghymru sy’n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG.
Help gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifedig (LPG) (2026)
Mae taliad untro o £200 ar gyfer olew gwresogi neu LPG bellach ar gael i aelwydydd incwm isel yn Sir Conwy sy’n dibynnu ar y mathau hynny o danwydd. Bwriad y cymorth hwn yw helpu trigolion i ymdopi â’r costau cynyddol.
Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor gan eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Os ydych eisoes yn cael Gostyngiad Treth y Cyngor ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa fath o danwydd gwresogi rydych chi'n ei ddefnyddio trwy ddarparu anfoneb a gawsoch yn y 12 mis diwethaf a rhoi eich manylion banc i ni.
Os nad ydych chi'n cael Gostyngiad Treth y Cyngor ar hyn o bryd, mae manylion pwy sy'n gymwys a sut i wneud cais i'w gweld yma:
Hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Faint sydd gen i i wneud cais?
Mae'n rhaid i chi fod yn cael Gostyngiad Treth y Cyngor, neu fod wedi gwneud cais llwyddiannus am Ostyngiad Treth y Cyngor, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Dylech wedyn wneud cais am y cymorth olew gwresogi ac LPG cyn gynted â phosib'. Y dyddiad olaf y gallwch wneud cais yw 30 Medi 2026.
Rwy'n barod i wneud cais
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi oh anfoneb neu dderbynneb am olew gwresogi a gawsoch yn y 12 mis diwethaf a chopi o ddatganiad banc sy'n dangos eich manylion banc yn glir.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Sut alla' i gael mwy o gymorth?
Os cewch chi unrhyw drafferth wrth ymgeisio neu os byddwch angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Yr Uned Fudd-daliadau ar 01492 576491
Cyfeiriad e-bost: cymorthoddiarygrid@conwy.gov.uk
A oes cymorth arall ar gael?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu'ch biliau neu wresogi eich cartref, cliciwch yma Costau Byw (conwy.gov.uk) i weld pa gymorth sydd ar gael.