Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bwlio


Summary (optional)
start content

Fel arfer, diffinnir bwlio fel ymddygiad:

  • sy’n cael ei ailadrodd
  • sydd â’r bwriad o roi niwed i rywun, yn gorfforol neu'n emosiynol
  • sydd yn aml yn cynnwys anghydbwysedd pŵer, lle mae'r person sy'n cael ei fwlio yn canfod bod yn rhaid iddo amddiffyn ei hun
  • sydd yn aml yn targedu grwpiau penodol, er enghraifft oherwydd hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol
  • sy’n digwydd yn yr ysgol neu y tu allan i'r ysgol

Mae sawl math a gall gynnwys:

  • ymosodiad corfforol
  • pryfocio
  • gwneud bygythiadau
  • galw enwau
  • seiberfwlio trwy ffôn symudol neu ar-lein
  • difrod i eiddo
  • gadael disgyblion allan o weithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
  • lledaenu sibrydion

Nid bwlio yw:

  • ffraeo â ffrindiau
  • cwffio un tro
  • dadl neu anghytundeb
  • dadleuon tymor byr
  • pryfocio achlysurol
  • cecru

Rhaid i bob ysgol yng Nghymru, yn ôl y gyfraith, gael polisi gwrth-fwlio sy'n cynnwys gwybodaeth fel:

  • y mathau gwahanol o fwlio
  • gyda phwy i gysylltu os yw'ch plentyn yn cael ei fwlio
  • gwasanaethau sy'n cynnig cefnogaeth i ddysgwyr sy'n cael eu bwlio

Gallwch weld polisi gwrth-fwlio pob ysgol ar eu gwefan neu gallwch ofyn iddynt am gopi papur. Dod o hyd i fanylion cyswllt eich ysgol.

Os yw eich plentyn yn cael eu bwlio

Bydd angen i chi gyfeirio at bolisi'r ysgol am fanylion penodol eu gweithdrefn adrodd, ond isod rydym wedi nodi'r camau cyffredinol, y dylech eu cwblhau'n ysgrifenedig.

Fe ddylech chi gymryd pob cam yn eu trefn; gan roi digon o amser a chyfle i’r ysgol roi camau gweithredu ar waith i wneud iawn a rhoi digon o amser i’r camau gweithredu gael effaith. Efallai na fydd hi’n bosibl datrys y mater yn syth bin, ond fe ddylech chi deimlo’n hyderus bod camau gweithredu amserol yn cael eu cymryd. Os nad ydych chi’n teimlo bod hyn yn digwydd, yna fe allwch chi symud at gam nesaf y broses.

  • Cam 1: rhoi gwybod i athro dosbarth / tiwtor dosbarth / pennaeth blwyddyn
  • Cam 2: rhoi gwybod i’r Pennaeth
  • Cam 3: rhoi gwybod i’r corff llywodraethu
  • Cam 4: rhoi gwybod i’r awdurdod lleol

Ar bob cam fe ddylech chi gadw dyddiadur gan gofnodi pob cyswllt rydych chi wedi’i wneud a’i dderbyn, gan nodi:

  • gyda phwy wnaethoch siarad
  • sut y bu i chi gysylltu â nhw (e.e. dros y ffôn, e-bost, wyneb yn wyneb)
  • pryd (dyddiad/amser)
  • pa gamau gweithredu y cytunwyd arnynt a phwy sy’n gyfrifol amdanynt

Sylwch: Peidiwch â mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i gwyno am yr ysgol neu i sarhau, tramgwyddo neu fygwth staff yr ysgol. Gall hynny achosi mwy o ddrwg na lles ac ni fydd yn datrys unrhyw beth. Cofiwch, mae gan ysgolion ddyletswydd gofal i’w staff yn ogystal â’ch plentyn. Mewn achosion difrifol, gall yr ysgol gymryd camau cyfreithiol neu eraill yn eich erbyn os ydych chi’n peryglu staff.

Ni ddylech chi chwaith geisio datrys y mater eich hun ac wynebu’r plant neu’r bobl ifanc sy’n ymwneud â digwyddiad, neu eu teuluoedd, eich hun, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar y cyfryngau cymdeithasol neu blatfformau ar-lein eraill.

Os ydych chi'n credu bod eich plentyn yn bwlio eraill

Efallai eu bod yn fwli heb hyd yn oed wybod amdano a gallant ddod yn fwli damweiniol trwy gopïo ymddygiad pobl eraill yn y teulu, y gymdogaeth neu ffrindiau. Efallai bod eich plentyn yn mynd trwy gyfnod anodd ac o ganlyniad yn ymddwyn yn ymosodol tuag at eraill.

I atal eich plentyn rhag bwlio:

  • anogwch eich plentyn i gyfaddef yr hyn maen nhw'n ei wneud
  • eglurwch i'ch plentyn nad yw'r ffordd maen nhw'n ymddwyn yn dderbyniol a’i fod yn gwneud pobl eraill yn anhapus
  • anogwch eich plentyn i ymddiheuro i'r person maen nhw wedi'i frifo
  • dangoswch i'ch plentyn sut i ymuno ag eraill heb fwlio
  • siaradwch ag ysgol eich plentyn am sut allwch chi weithio gyda'ch gilydd i atal y bwlio
  • gwiriwch yn rheolaidd gyda'ch plentyn ynglŷn â sut mae pethau yn yr ysgol
  • canmolwch eich plentyn pan maen nhw'n gydweithredol ac yn garedig ag eraill
  • anogwch eich plentyn i helpu eraill os ydyn nhw'n eu gweld nhw'n cael eu bwlio a'u hannog i ddweud wrth athro neu oedolyn maen nhw'n ymddiried ynddo

Cael mwy o gyngor a chefnogaeth

Gall y gwefannau canlynol helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n dioddef bwlio:

end content