Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc TRAC, ar gyfer pobl 11-16 oed

TRAC, ar gyfer pobl 11-16 oed


Summary (optional)
start content

Mae TRAC yn cefnogi pobl ifanc 11–16 oed ar draws Conwy sydd mewn perygl o ddatgysylltu oddi wrth addysg ac o beidio â bod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Mae’r rhaglen yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau megis presenoldeb gwael, heriau ymddygiad, hyder isel, gorbryder, neu bryderon lles ehangach.

Darperir y prosiect gan dîm sydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghonwy ac maent yn cynnig:

  • Cefnogaeth lles un i un
  • Cefnogaeth i wella ymddygiad a phresenoldeb
  • Mynediad at gyrsiau achrededig a chyrsiau heb eu hachredu gan ddarparwyr TRAC
  • Cymorth gyda phrofiad gwaith
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol a pharatoi am fywyd ar ôl yr ysgol

Mae TRAC yn helpu pobl ifanc i ddatblygu gwytnwch, goresgyn rhwystrau a chyflawni canlyniadau cadarnhaol mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Cysylltwch â thîm trac:

Ffôn 01492 577117
E-bost TRAC@conwy.gov.uk 

TRAC Logo Main

 

end content