Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Addysg Gartref - Cwestiynau Cyffredin

Addysg Ddewisol yn y Cartref - Cwestiynau Cyffredin


Summary (optional)
start content

Ydy Addysg Ddewisol yn y Cartref yr un peth â hyfforddiant yn y cartref?

Nac ydy, mae Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) yn wahanol i hyfforddiant yn y cartref. Mae hyfforddiant yn y cartref yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol pan fo plentyn â chyflwr meddygol arwyddocaol sy’n debygol o bara am nifer o wythnosau, a bod y dystiolaeth a ddarparwyd wedi ei chymeradwyo gan banel cymedroli fel ei bod yn bodloni’r meini prawf.

Pa gwestiynau ddylwn i eu gofyn i mi fy hun a fy mhlentyn wrth ystyried addysg ddewisol yn y cartref?

Nid oes angen i chi fod yn athro i addysgu yn y cartref, ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch. Dyma ychydig o gwestiynau i’w hystyried:

  • A yw eich plentyn yn teimlo'n gadarnhaol am yr awgrym o gael eu haddysgu yn y cartref?
  • Ydych chi'n siŵr mai dyma’r peth cywir ar gyfer eich plentyn?
  • Oes gennych chi amser i'w ymrwymo i addysgu eich plentyn?
  • Oes gennych chi'r gallu i addysgu eich plentyn yn effeithiol?
  • A fyddech yn gallu addysgu eich plentyn i’r lefel gofynnol os ydynt eisiau sefyll eu TGAU?
  • Ydych chi'n barod i brynu, ac a oes gennych ddigon o arian ar gyfer yr adnoddau angenrheidiol?
  • Oes gennych chi unrhyw gefnogaeth arall ar gael?
  • Oes gennych chi le i greu ardal weithio dawel?
  • A oes cyfleoedd i wneud ymarfer corff?
  • A fydd cyfleoedd i gael profiadau cymdeithasol gyda phlant eraill?
  • Ydych chi’n siŵr nad ydych yn dewis addysgu yn y cartref oherwydd dadleuon gyda’r ysgol, neu fel rheswm dros beidio ag anfon eich plentyn ar amser yn rheolaidd?

Beth os ydw i’n cadw fy mhlentyn o’r ysgol heb anfon unrhyw wybodaeth?

Os nad ydych chi’n dad-gofrestru’ch plentyn yn iawn byddai’r awdurdod yn dod i’r casgliad eu bod yn colli addysg.

O dan Ddeddf Addysg 1996 mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol fodloni ei hun bod y rhieni’n cyflawni eu dyletswydd os ymddengys nad ydynt yn gwneud hynny. Gallai hynny fod ar sail pryderon a godwyd am safon yr addysg, neu oherwydd bod y rhieni heb ymateb i’n llythyron. Os nad ydych yn ymateb i’n llythyron os codwyd pryderon ynglŷn â’r addysg, neu’n methu â darparu unrhyw dystiolaeth arall i ddangos bod eich plentyn yn derbyn addysg briodol, yna mae’n anorfod na fedr yr Awdurdod Lleol gadarnhau a yw’r addysg a ddarperir yn addas yn ôl oedran y plentyn, eu gallu a’u doniau.

Mewn achos fel hyn ni fyddai dewis gan yr Awdurdod ond gweithredu’n unol ag Adran 437 o Ddeddf Addysg 1996, sef cyflwyno Rhybudd yn mynnu eich bod yn argyhoeddi’r Awdurdod Lleol eich bod yn darparu addysg addas, ac os na fedrwch wneud hynny gellir cyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol yn mynnu bod eich plentyn yn mynychu ysgol benodol.

Beth os yw fy mhlentyn wedi cofrestru fel disgybl mewn Ysgol Arbennig?

Mae’r sefyllfa’n dra gwahanol yn yr achos hwn. Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd angen ichi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn y gallwch ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol a gofyn i’r awdurdod lleol adolygu CDU neu ddiwygio datganiad eich plentyn.

Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol am gyfnod y CDU neu’r datganiad, a fydd yn cynnwys asesu a yw geiriad y cynllun yn dal I fod yn briodol ac a oes angen iddo aros ar waith. Mae'r hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru neu Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn dal yn gymwys.

Oes raid i mi ddilyn Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru?

Nac oes, ond mae'n ddefnyddiol i gyfeirio ato. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ddilyn cwricwlwm na'r un dulliau â'r ysgol, ond mae'n bosibl y byddai hyn yn ddefnyddiol i chi fel fframwaith er mwyn penderfynu pa feysydd dysgu a phrofiad i’w cynnwys a sut i asesu cyflawniad eich plentyn. Eich penderfyniad chi yw sut yr ydych yn addysgu eich plentyn, ond efallai y bydd yn anoddach pasio arholiad os nad yw’r cwricwlwm wedi cael ei ddilyn.

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru

Beth am ddysgu Cymraeg?

Gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad cyfoethog, i'ch plentyn ac i'ch teulu cyfan. Mae gennym ystod o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pob oed i ddysgu Cymraeg. Cliciwch yma am fanylion. Hefyd mae amrywiaeth eang o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar gael.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn sefydliad sy'n rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cylchgronau yn ogystal â miloedd o weithgareddau'r Urdd ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg drwy gydol y flwyddyn.

Beth am bynciau gorfodol, amserlen, neu ystafell dosbarth?

Nid oes unrhyw bynciau gorfodol, ond dylid rhoi blaenoriaeth i sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhifedd. Cofiwch y dylech chi ddarparu addysg ‘addas’ i'ch plentyn, hynny yw, dylai’r addysg baratoi’r plentyn ar gyfer bywyd mewn cymdeithas fodern waraidd a galluogi’r plentyn i wireddu ei lawn botensial.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gael ystafelloedd neu safleoedd yn cynnwys cyfarpar o safon benodol ac nid oes angen cyfateb â diwrnodau neu dymhorau ysgolion prif ffrwd, ond rhaid i’r addysg a ddarperir fod yn ‘llawn-amser’.

Pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr a theuluoedd EHE?

Nid oes unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ariannu rhieni a gofalwyr sy'n dewis addysgu yn y cartref. Rhaid i rieni a gofalwyr sy’n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol llawn ar gyfer addysg eu plentyn, gan gynnwys llyfrau a phob adnodd arall, ynghyd â thalu costau unrhyw arholiadau cyhoeddus a ffioedd cyrsiau.

Yn y gorffennol, rydym wedi darparu cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer myfyrwyr EHE i ariannu costau CA4 ac aelodaeth mewn cyfleusterau diwylliannol a chwaraeon lleol. Bydd gwybodaeth am gyllid pellach yn cael ei rhannu os a phan fydd ar gael.

Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwch yn penderfynu addysgu yn y cartref i gynnig cyngor ymarferol a defnyddiol. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau ychwanegol a allai fod yn addas i'ch amgylchiadau. Wedi hynny, byddwn yn cysylltu â chi o leiaf unwaith y flwyddyn i drefnu ymweliad (os yn briodol) i drafod addysg eich plant, unrhyw gynlluniau sydd gennych a chynnig cefnogaeth ac arweiniad. Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda phryderon neu ymholiadau.

Pa gefnogaeth sydd ar gael os oes gan fy mhlentyn bryderon datblygiad neu lles?

Mae teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn gallu gofyn i awdurdodau lleol benderfynu a oes gan eu plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Gallan nhw atgyfeirio eu plentyn i gael gwasanaeth cwnsela yn ogystal â chynghorwyr gyrfaoedd. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol, cliciwch yma.

A oes unrhyw grwpiau lleol neu genedlaethol a all ein cefnogi?

Mae plentyn EHE yn dal i allu cael mynediad at wasanaethau cyffredinol fel Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, cwnsela ac Imiwneiddio a Sgrinio Iechyd. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion am y gwasanaethau hyn.

Nid ydym yn cymeradwyo unrhyw grŵp neu ddarparwr penodol, ond dyma rai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

A fydd fy mhlentyn yn gallu sefyll arholiadau?

Bydd. Gallwch gofrestru eich plentyn ar gyfer arholiadau. Bydd yn rhaid i rieni a gofalwyr plant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref gofrestru eu plentyn ar gyfer arholiadau a thalu costau'r arholiadau eu hunain. Os gallwch, dylech gynllunio cyrsiau arholi ymhell ymlaen llaw. Gall yr Awdurdod Lleol ddweud wrthych lle mae'r ganolfan arholiadau agosaf atoch chi.

Mae’n bosib' i chi gysylltu gydag ysgolion uwchradd lleol i drafod a oes modd talu i’w defnyddio fel canolfan TGAU i’ch plentyn. Cynghorir y dylid gwneud hyn ddigon ymlaen llaw.

Gwybodaeth CBAC ynghylch gweithdrefnau ar gyfer ymgeiswyr preifat
https://www.cbac.co.uk/home/cefnogaeth-i-fyfyrwyr/ymgeiswyr-preifat/

A allwn ni logi tiwtor preifat?

Eich penderfyniad chi fydd sut i addysgu eich plentyn, gan gynnwys cyflogi tiwtor preifat. Wrth gyflogi tiwtor preifat, dylai rhieni a gofalwyr ofyn am gael gweld ei wiriad 'manwl' gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n bwysig iawn eich bod bob amser yn cyfweld ag unrhyw diwtor posibl, a gofyn am gael gweld crynodeb o’i yrfa. Dylech bob amser ofyn am eirdaon proffesiynol gan rywun sy'n adnabod y tiwtor ar hyn o bryd, a'u cadarnhau.

A all fy mhlentyn ddychwelyd i’r ysgol?

Gallent, gall eich plentyn ddychwelyd i’r ysgol ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn wrth ddychwelyd i’r ysgol os nad yw wedi bod yn dilyn y cwricwlwm perthnasol yn ystod cyfnod ei addysg gartref.

Rhaid i chi gysylltu â'r awdurdod lleol i wneud cais am le trwy Dderbyniadau. Gallwch wneud hyn unrhyw bryd gan ddefnyddio ein porth Derbyniadau ar-lein.

Beth fydd yn digwydd os ymddengys nad wyf yn darparu addysg addas?

O dan adran 437(1)  Deddf Addysg 1996, mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i weithredu os yw’n ymddangos nad yw rhieni yn darparu addysg addas. Bydd yr awdurdod lleol yn trafod unrhyw bryderon gyda chi.

Os nad oes modd i chi ddangos i’r awdurdod lleol eich bod yn darparu addysg addas, a’u bod yn teimlo ei fod yn angenrheidiol bod eich plentyn yn mynd i’r ysgol, bydd rhaid iddyn nhw gyflwyno Gorchymyn Mynychu'r Ysgol (GMY) i chi, sy’n orchymyn i orfodi addysg mewn ysgol. Os yw rhiant yn methu â chydymffurfio â GMY, efallai byddant yn cael eu herlyn yn y Llys Ynadon.

*Mae'r term ‘rhiant’ mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc, yn cynnwys unrhyw berson nad yw'n un o rieni'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhieni drosto, neu'n gofalu am y plentyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn arall neu’n ystyried Addysg Ddewisol yn y Cartref, cysylltwch â EHE@conwy.gov.uk
end content