Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Addysg Ddwyieithog


Summary (optional)
Gwybodaeth am Addysg Gymraeg yn Sir Conwy
start content

Yn Sir Conwy, rydym am i’n holl ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg fel eu bod yn gallu defnyddio’r ddwy iaith o fewn y teulu, yn y cymunedau ac yn y gweithle.

Y Siwrne



Gallwch ddarganfod mwy gan ddefnyddio’r dolenni isod.

 

Cyn oed ysgol

Ceir nifer o wahanol grwpiau, sefydliadau a gweithgareddau ble gall dy blentyn chwarae a dysgu yn y Gymraeg. Mae’r sefydliadau i gyd yn croesawu rhieni sy’n ddi-Gymraeg ond sy’n dymuno Addysg cyfrwng Cymraeg i’w plentyn. Am fwy o wybodaeth i roi cyfle i’ch plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg defnyddiwch y dolenni isod:

Ysgolion Cynradd

Mae yna ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg o fewn cyrraedd pob plentyn ym mhob ardal o fewn Sir Conwy.

Bydd ysgol eich plentyn mewn un o dri chategoriDarllenwch mwy yma am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae Siarter Iaith a Siarter Iaith (Cymraeg Campus) yn cael ei weithredu yn ysgolion cynradd Sir Conwy. Bwriad y Siarter Iaith yw cynnig mwy o gyfleoedd i blant ddefnyddio Cymraeg yn gymdeithasol. I berson fod yn wirioneddol ddwyieithog mae arbenigwyr yn cydnabod bod angen i iaith leiafrifol fel Cymraeg gael ei defnyddio ym mhob agwedd o fywyd. Darllenwch mwy yma am y Siarter Iaith.

Ysgolion Uwchradd

Mae yna ddarpariaeth Addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter rhesymol i bob plentyn ym mhob ardal o fewn Sir Conwy.

Bydd ysgol eich plentyn mewn un o dri chategori. Darllenwch mwy yma am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Addysg Drochi

Gall unrhyw blentyn sydd yn rhugl ddwyieithog yn yr ysgol gynradd ddilyn llwybr llyfn i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Dengys ymchwil a phrofiad athrawon mewn nifer o wledydd fod trochiad ieithyddol yn yr ail iaith yn ddull effeithiol iawn o ddysgu iaith. Mae Sir Conwy yn darparu rhaglenni trochi dwys a hwyr sy’n helpu ein disgyblion i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

  • Canolfan Iaith Conwy - Canolfan i blant rhwng 7-11 oed sy’n hwyrddyfodiaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg yr awdurdod. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
  • Cynllun Trochi Creuddyn - cynllun i ddisgyblion sydd yn dilyn Cymraeg mewn ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg ac eisiau trosglwyddo i Addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
  • Cefnogaeth trochi Ysgol Dyffryn Conwy - cefnogaeth i ddisgyblion sy’n hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg neu sydd yn dilyn Cymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg ac eisiau trosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgolion uwchradd.

Canolfan Iaith Conwy

Addysg Bellach ac Uwch

Mae cyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyrsiau addysg bellach, addysg uwch a’r prentisiaethau a fydd o gymorth wrth iddynt fynd i fyd gwai.

end content