Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel


Summary (optional)
Dewch i archwilio system twyni tywod naturiol anhygoel gyda chyfleusterau ar y safle, taith gerdded gylchol fer a thraeth tywodlyd hardd!
start content

Pam Ymweld?

  • Addas ar gyfer Cadeiriau Olwyn
  • Cyfleusterau ar y safle
  • Bywyd gwyllt unigryw

Mae Twyni Cinmel yn un o’n Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNL).  Roedd unwaith yn rhan o system dwyni tywod arfordirol llawer mwy, ond bellach mae’n ffurfio rhimyn cul rhwng Towyn a’r Rhyl. Mae’r twyni’n gynefin gwerthfawr i nifer fawr iawn o blanhigion ac anifeiliaid.

Yr amser gorau i weld blodau a bywyd gwyllt yma yw rhwng mis Mai a mis Awst.

Mae’r twyni hefyd yn cysgodi traeth tywodlyd helaeth o fewn Bae Cinmel – sy’n golygu y gallwch chwilio am gregyn neu adeiladu castell tywod ar ôl bod ar eich taith natur drwy’r twyni.

Mae Llwybr y Twyni yn daith gylchol 1 milltir o hyd sy’n eich galluogi i archwilio’r holl safle’n ddiogel a heb ymyrryd â’r bywyd gwyllt. Mae Llwybr y Twyni hefyd yn cynnwys rhan fach o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru.


Pa fywyd gwyllt fyddwch chi’n ei ddarganfod?

Boed yn isel ymysg y tywod neu ymhellach yn ôl ymysg y gwair hir, dyma ychydig o flodau sy’n ychwanegu ychydig o liw at y twyni, i chi edrych amdanynt:

  • Crafanc brân y gweunydd
  • Moronen y Meysydd
  • Melynydd
  • Meillion cedenog
  • Maglys

Yn hedfan ymysg y blodau rhwng Ebrill a Mai, gallwch weld y gloÿnnod byw hyn a mwy:

  • Iâr Wen Fach
  • Iâr wen wythiennog
  • Gwyn blaen oren
  • Gwerloyn y ddôl

Os eisteddwch yn dawel ar dywod noeth sy’n wynebu’r de o amgylch hanner dydd, mae’n bosib y gwelwch chi fadfall.

Mae’r cudyll coch preswyl i’w weld yn aml ar ben dwyreiniol y twyni, yn hela am lygoden y gwair neu chwistlen.  

Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i glywed cân yr ehedydd.  Mae’n ddiamddiffyn rhwng Mai ac Awst gan ei fod yn nythu ar y ddaear, ac mae’n hawdd iawn i gŵn a phobl ddinistrio’r nyth yn anfwriadol. Mae niferoedd yr ehedydd yn gostwng yn ddramatig oherwydd eu bod yn colli eu cynefinoedd – mae  bod yn Warchodfa Natur Leol ddynodedig yn diogelu’r twyni rhag datblygiad.

Os cânt eu chwythu trwodd yn ystod tywydd gwael gallech weld ymwelwyr prin fel Bras y Gogledd neu fras yr eira wrth iddynt fudo.

O eistedd ar un o’r meinciau sydd ar yr olygfan, yn uchel yn y twyni, byddwch mewn safle da i weld llamhyddion allan yn y môr.

Mae mwy o wybodaeth ar y rhestr rhywogaethau ar wefan Aderyn neu wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru


Sut i gyrraedd yno

Cerdded a Beicio

Mae’n cymryd 20 – 30 munudi gerdded o Dowyn neu’r Rhyl ac mae arwyddion i’ch arwain o’r briffordd.  Gellir cyrraedd y safle hefyd drwy ddilyn Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Cludiant Cyhoeddus

Gorsaf fysiau Bae Cinmel yw’rsafle bws agosaf, 5 munud yn unig o gerdded oddi wrth y safle, gyda digon o fysiau lleol yn rhedeg yn rheolaidd.Yr orsaf drenau agosaf yw Abergele a Phensarn.

Gyrru

O’r gorllewin cymrwch yr A55 at gyffordd 23A. O’r dwyrain gadewch i gyfeiriad yr A525.

Cyfleusterau

  • Paneli Dehongli gyda mapiau o’r safle a gwybodaeth am fywyd gwyllt lleol.
  • Ciosg lluniaeth gyda thoiledau (ar agor yn ystod misoedd yr haf)
  • Llefydd eistedd ar hyd y promenâd ac yn yr olygfan
  • Taith gerdded 5 munud i siop ASDA Y  Rhyl gyda chaffi a thoiledau sydd ar agor drwy’r flwyddyn
  • Parcio talu ac arddangos ar ben draw St Asaph Avenue
  • Taith gerdded sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar hyd y promenâd

Croesawir cŵn ar dennyn ar y safle. I’r gorllewin o’r Warchodfa mae Ardal Dim Cŵn.  Defnyddiwch y biniau a ddarperir ar gyfer baw cŵn.

Darganfod mwy am gynefin a bywyd gwyllt y twyni


Beth sydd gerllaw?

Os ydych yn dilyn Llwybr Arfodir Cymru, gallwch hefyd ymweld â Phensarn SSSI, 3 milltir yn unig i’r gorllewin o dwyni Cinmel.

Mae gwefan Dewch i Gonwy yn rhoi gwybodaeth am lety a chyfleusterau lleol. 

end content