Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Morfa Conwy


Summary (optional)
Dewch i fynd am dro ar hyd y darn hyfryd yma o arfordir gyda thraethau, twyni tywod a golygfeydd draw tuag at Barc Gwledig Y Gogarth a Mynydd Conwy.
start content

 Pam ymweld?

  • Golygfeydd bendigedig
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Cyfle i weld bywyd gwyllt y môr

Mae Morfa Conwy yn safle arfordirol, tawel sydd â golygfeydd bendigedig a thir gwastad. Bydd modd i chi weld blodau deniadol yn blodeuo yn yr haf, a rhywfaint o fywyd gwyllt y môr os fyddwch chi’n ffodus hefyd.

Mae rhan o’r safle wedi’i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan ei fod yn gartref i wyfyn rhisglyn y morfa prin. Nid oes gan y benywod adenydd!

Daw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Conwy at waelod y twyni.

Un o’r pethau gwych am y safle yma yw ei fod yn symud o hyd. Mae systemau twyni tywod yn symud, gan ymateb i amodau’r amgylchedd, megis y tywydd. Mae’r broses hon, o’r enw olyniaeth twyni, yn golygu bod ymddangosiad y twyni yma’n newid yn gyson, gan olygu bod gennych le gwahanol i gerdded a chrwydro bob tro y byddwch chi’n ymweld.

Beth i'w ddisgwyl

Gallwch gyrraedd y safle o un o’r ddau faes parcio, Beacons ar yr ochr ddwyreiniol y safle a’r Oval ar yr ochr orllewinol.

Os byddwch chi’n cyrraedd o’r ochr ddwyreiniol, gallwch ddewis cerdded ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sydd yn anwastad mewn mannau gan ei fod yn dilyn ymyl y cwrs golff. Neu gallwch gerdded ar y tywod ar draws y traeth, sydd â cherrig mân mewn mannau.

O’r ochr orllewinol gallwch naill ai ddilyn y llwybr tarmac y tu ôl i’r twyni (Llwybr Beicio 05 Sustrans 05), neu gallwch dorri drwy’r twyni ar lwybrau tywodlyd anwastad sydd yn aml yn gul, i gyrraedd y traeth sydd yn fwy fflat. Nid oes yna giatiau na chamfeydd i gyrraedd y traeth.

Darganfod y bywyd gwyllt

Mae madfallod yn gorweddian ar gerrig yn yr haul ganol dydd.  Mae yna ddigonedd o gwningod ar hyd ymyl y cwrs golff a’r llwybr arfordirol.

Mae Morfa Conwy yn gynefin pwysig ar gyfer Colletes Cunicularius neu wenyn y gwanwyn, a gofnodwyd yma gyntaf yn 2007. Mae’r niferoedd yn cynyddu, gyda rhywfaint o safleoedd nythu yn nhyllau’r twyni. Mae’r anifeiliaid benyw yn porthi ar y coed helyg o amgylch y maes carafanau a’r maes parcio yn y Beacons.

Cyfleusterau

  • Dau faes parcio (parcio â thâl yn Beacons o fis Mai i fis Medi, Oval  am ddim) (cyfyngiad uchder o 1.9m) (dim toiledau)
  • Bwa achub ger maes parcio Beacons (ochr ddwyreiniol)
  • Safle lansio ar gyfer cychod ym maes parcio Beacons

Mae croeso i gŵn – defnyddiwch y biniau cŵn.

Darllenwch y Cod Cefn Gwlad cyn ymweld.

Ar ôl stormydd, byddwch yn ofalus o flaen y twyni – efallai y gwelwch chi hen boteli gwydr a gwydr wedi torri ar ôl iddynt gael eu dadorchuddio o’r cyfnod yr arferai’r safle gael ei ddefnyddio fel safle sbwriel.


Sut i gyrraedd yno

Cerdded a beicio

Mae Morfa Conwy yn daith fer ar droed o ganol tref Conwy. Y fynedfa agosaf i’r dref ydi maes parcio Beacons, a’r cod post ydi LL32 8GJ.

Mae modd cyrraedd y ddau faes parcio’n hawdd ar feic, serch hynny mae yna fwy o opsiynau i deithio ymhellach o faes parcio’r Oval (LL32 8GA) gan ei fod yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5.

Cludiant Cyhoeddus

Y safle bws agosaf ydi ‘Maes Carafanau Conwy’ sydd yn agos at faes parcio’r Oval. Mae bysiau sydd yn teithio ar hyd Llwybr Arriva 27 sy’n teithio trwy Hen Golwyn, Bae Colwyn, Mochdre, Cyffordd Llandudno a Chonwy yn aros yma.

Gyrru

Defnyddiwch cod post LL32 8GJ ar gyfer maes parcio Beacons neu LL32 8GA ar gyfer maes parcio’r Oval. Gadewch yr A55 yng nghyffordd 17 a dilynwch yr arwyddion tuag at y marina, cwrs golff a Beacons.

Mae yna gyfyngder uchder o 1.9m yn y ddau faes parcio.


Beth sydd gerllaw?

I fynd am daith gerdded hirach, neu i grwydro math gwahanol o gynefin, ewch am daith fer i safle Bodlondeb gerllaw.

Gallwch ymestyn y daith hon ymhellach i gynnwys Mynydd Conwy.


Sut ydym ni’n gofalu am y safle?

Rydym ni’n gwirio ac yn cynnal a chadw llwybrau, ffensys a physt fel rhan o archwiliadau diogelwch.    

Mae twyni tywod yn amddiffynfeydd môr naturiol gwych. Mae siâp y twyni yn amsugno egni o donnau storm. Mae’r moresg brodorol yn eithriadol wrth drapio gronynnau tywod ac adeiladu’r twyni eto ar ôl storm. Ond gan mai ychydig iawn o le sydd y tu ôl i’n twyni ni iddynt dyfu, maent angen ychydig o help llaw weithiau. Pan mae’r twyni yn erydu gan nad oes llawer o dywod yn cael ei adael, rydym ni’n cyflenwi tywod ychwanegol i’r safle. Rydym ni’n gosod ffens i ddal y tywod sydd yn gweithio fel y moresg er mwyn adeiladu’r twyni.

Rydym ni hefyd yn annog moresg i dyfu trwy gael gwared ar rywogaeth estron niweidiol sydd yn ennill yn y frwydr am wair. Mae’r rhywogaethau estron yma yn dalach ac yn rhwystro’r golau ar gyfer y gwair o danodd, ond maent yn llawer llai effeithiol yn dal y tywod.

Rydym ni’n edrych ar y cydbwysedd rhwng yr hyn mae bywyd gwyllt ei angen a mynediad i’r cyhoedd, ac yn ceisio plesio’r ddau.

Gall tywod ar y llwybr beicio fod yn broblem, ond mae’r twyni yn system gynefin symudol. Gall tywod chwythu ar y llwybr beicio, ond mae rhannau’n safleoedd nythu ar gyfer gwenyn y gwanwyn. Gall coed helyg sy’n tyfu ac yn tresmasu’r llwybr beicio fod yn broblem, ond maent yn hanfodol i wenyn gwanwyn benywaidd.

end content