Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bywyd Gwyllt Traeth Pen-sarn


Summary (optional)
Dysgwch am gefnennau graeanog a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd i’w weld ym Mhen-sarn.
start content

Beth yw cefnennau graeanog a sut maen nhw’n ffurfio?

Pentwr o gerrig mân ar hyd yr arfordir sy’n llawn planhigion yw cynefin graeanog â phlanhigion.

Mae’n ffurfio ar hyd morlin llawn egni lle mae’r tonnau’n ddigon cryf i lenwi’r traeth â cherrig mân. Yn ystod stormydd, mae’r cerrig mân hyn yn cael eu cludo heibio i farc y penllanw, gan ffurfio cefnen. Gan mai dim ond yn ystod stormydd y mae’r gefnen hon yn cael ei tharfu, mae’n aros yn llonydd am gyfnodau maith, gan roi cyfle i lystyfiant dyfu a chytrefu yno.

Mae’r gefnen raeanog yn gynefin â blaenoriaeth adran 7, sy’n golygu ei bod yn bwysig iawn ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth. Mae’n gynefin diamddiffyn y mae angen ei warchod er mwyn ei ddiogelu a diogelu’r bioamrywiaeth y mae’n ei gynnal.

Mae cefnennau graeanog yn bwysig am eu bod yn ddigysgod ar y cyfan, gydag ychydig iawn o bridd a dŵr croyw, felly mae’n rhaid i’r planhigion sy’n byw yma addasu er mwyn goroesi. Mae’r cynefin hwn hefyd yn gartref i amrywiaeth o adar arfordirol pwysig megis y cwtiad torchog.

Bywyd gwyllt glan y môr

Ar y lan fe welwch chi gregyn llong, llygaid meheryn a gwichiaid y cŵn. Mae’r anifeiliaid hyn yn folysgiaid gwydn gyda chregyn calsiwm carbonad caled sy’n eu cadw’n ddiogel rhag tonnau cryf. Mae ganddyn nhw hefyd droed gyhyrog, sef rhan wastad o’r corff sy’n gryf ac yn ludiog, sy’n eu helpu i’w cadw’n sownd yn y graig. Ydych chi erioed wedi ceisio tynnu llygad maharen oddi ar graig gyda’ch dwylo yn unig? Mae’n anodd, dydi! Maen nhw mor gryf fel bod 1cm2 o gyhyr yn fwy pwerus nag un o'n dwylo ni. Mae rhai molysgiaid sy’n byw ar greigiau, fel y pidog, yn ddigon cryf i dyllu i mewn i graig solet.

Efallai y gall ein taflen archwilio eich helpu i ddarganfod ambell i rywogaeth o fywyd gwyllt glan y môr.

Llystyfiant yr ymyl graeanog

Ar hyd y marc penllanw, fe welwch chi'r ymyl graeanog sy’n gartref i rai o’n planhigion prin a gwarchodedig. Mae’r rhain yn cynnwys yr ysgedd arfor, y pabi corniog melyn, y betysen arfor, yr ytbysen arfor, llaethlys y môr a’r rhuddygl arfor.Yr unig reswm y mae’r rhywogaethau hyn yn gallu goroesi yma yw am eu bod wedi addasu.  Er enghraifft, mae gan yr ysgedd arfor wreiddiau arbennig o hir sy’n tyfu hyd at 2 fetr o ddyfnder. Mae gan y gludlys arfor ddail cwyraidd sy’n dynn wrth ei gilydd er mwyn lleihau eu harwynebedd a’i amddiffyn rhag y gwyntoedd cryfion.

Taflen archwilio cefnennau graeanog (PDF - 7,710KB)

Adar

Er rhyfeddod, mae traethau graeanog hefyd yn cael eu defnyddio fel meithrinfa gan rai adar, megis y cwtiad torchog, sydd weithiau’n llwyddo i nythu ym Mhen-sarn. Y rheswm am hyn yw y gallan nhw ddodwy eu hwyau ymysg y cerrig mân. Ar ôl deor, mae eu cywion wedi’u cuddliwio’n dda ac fe allan nhw fwydo yn y tywod mân ger y dŵr. Mae’r cwtiaid torchog mewn perygl – mae eu poblogaethau’n dirywio, maen nhw’n agored i golli eu cynefin ac fe all eu nythod chwalu’n hawdd o ganlyniad i gael eu tarfu gan gerddwyr, cŵn neu wylanod rheibus.  

Mae rhagor o wybodaeth am y cwtiad torchog i’w gweld ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae ambell i gornchwiglen hefyd i’w gweld ym Mhen-sarn o bryd i’w gilydd. Mae’r gornchwiglen yn aderyn du a gwyn sydd i’w weld ar wlyptiroedd ac mewn mannau arfordirol. Mae’n hawdd ei adnabod yn ôl ei gri sy’n swnio fel ‘pîwit’. Mae poblogaeth y gornchwiglen wedi dirywio’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae bellach ar y rhestr goch o adar. Mae rhagor o wybodaeth am y gornchwiglen i’w gweld ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Draw dros y don

Allan yn y môr fe allech chi weld mamaliaid morol o bryd i'w gilydd, fel y llamhidydd, y morlo llwyd a’r dolffin trwyn potel / cyffredin.

Dysgwch fwy am y mamaliaid morol sy’n byw o amgylch arfordir gogledd Cymru drwy fynd i wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

end content