Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rheoli Cefnennau Graeanog


Summary (optional)
Sut rydym ni’n gofalu am gynefin cefnennau graeanog
start content

Ffeithiau am gefnennau graeanog

Mae’r term cynefin graeanog â phlanhigion yn ei egluro ei hun i bob pwrpas – mae’n bentwr o gerrig mân ar hyd yr arfordir sydd wedi’i orchuddio â phlanhigion.

Mae tair rhan i’r cynefin:

  • Y traeth: y rhan agosaf at y môr lle mae’r tonnau’n gryf ac yn bwerus. Ychydig iawn o blanhigion sy’n gallu goroesi yma oherwydd y tonnau garw a llif rheolaidd y llanw.
  • Y grib fregus: er bod y lan yn cael ei tharo’n galed gan stormydd gwyllt a llanwau uchel, dydi’r llanw ddim yn gorchuddio’r rhan hon yn rheolaidd. Mae’r planhigion a geir yma’n cynnwys planhigion sy’n gallu gwrthsefyll halen a sychder, fel yr ysgedd arfor, y pabi corniog melyn a’r rhuddygl arfor.
  • Y cefnlethr: wedi’i amddiffyn rhag y môr gan y gefnen, mae yma fwy o lystyfiant datblygedig a llai arbenigol.  Mae yma broblemau cadwraeth pan fo mathau penodol o wair yn cymryd lle blaenllaw ac yn ffurfio cynefin glaswelltir ar wahân. Er bod hyn yn beth da i famaliaid ac adar ysglyfaethus, mae'n lleihau cyfoethogrwydd cyffredinol y rhywogaethau. 


Mae gan bob un o'r rhannau hyn gynefinoedd o gymeriad unigryw a’u bywyd gwyllt eu hunain.

Mae’r morlin yn gartref i amrywiaeth o adar arfordirol pwysig, gan gynnwys y cwtiad torchog. Yn dychwelyd bob blwyddyn i’r un ardal, mae’r cwtiad torchog yn dodwy llond llaw o wyau yng nghanol y cerrig a’r planhigion. Heb nythod go iawn, mae'r adar a'r wyau yn agored iawn i gael eu tarfu neu eu haflonyddu gan adar ysglyfaethus drwy gydol y tymor bridio, hyd nes bod y cywion wedi magu plu ym mis Awst neu fis Medi.

Mae’r gwaith amddiffyn rhag llifogydd a’r grwynau cerrig ymhellach i lawr y morlin wedi effeithio’n rhannol ar y gefnen raeanog naturiol. Mae wedi effeithio ar y cyflenwad o gerrig mân newydd ar y pen gorllewinol, sy’n golygu nad ydi’r cerrig mân sy’n cael eu golchi ymaith yn ystod stormydd yn cael eu disodli’n naturiol.

Ail-lenwi traeth

Dyma fath o beiriannu meddal sy’n golygu cyflenwi gwaddod yn artiffisial drwy ei fewnforio o rywle arall. Rydym wedi defnyddio’r dull rheoli hwn i leddfu’r erydiad ar ochr orllewinol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Pensarn. Rydym wedi mewnforio cerrig crwn tebyg iawn i’r deunydd naturiol o chwarel leol. Ers hynny mae’r pabi corniog melyn wedi ffynnu yn yr ardal a oedd wedi’i tharfu.

Cyfyngiadau

Mae rhan o SoDdGA Pen-sarn yn barth gwahardd cŵn, rhwng y pyst pren ger y caffi a’r pyst concrid ar ochr orllewinol y promenâd.   Mae’r cyfyngiadau ar waith rhwng 1 Mai a 30 Medi, pan fydd y cwtiaid torchog yn ceisio nythu.  Mae’r adar yn dodwy llond llaw o wyau yng nghanol y cerrig ac felly yn agored iawn i gael eu tarfu. 

Mae yna is-ddeddfau’n gwarchod y rhan fwyaf o’r ardaloedd bywyd gwyllt sydd dan reolaeth.  

Chewch chi ddim gwersylla, cynnau tân, taflu sbwriel na difrodi na thynnu planhigion yn y mannau hyn.


Cynnal a chadw cyffredinol

Rydym yn gofalu am 20 o ardaloedd bywyd gwyllt, ac yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau ymweld â nhw. Rydym yn rheoli effaith pobl ar yr amgylchedd drwy gynnal a chadw llwybrau, grisiau, meinciau, ffensys ac arwyddion yn rheolaidd, yn ogystal â chasglu sbwriel.

end content