Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Morfa Madryn


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod Grid:  SH 664740

Gellir cyrraedd gwarchodfa Morfa Madryn o Lan y Môr Elias, ac mae wedi cael ei greu fel lle gall adar fwydo, gorffwys a magu heb i unrhyw beth darfu arnynt.  Mae'r warchodfa yn lle pwysig i'r cornchwiglen nythu, ac yn denu amrywiaeth da o adar bob adeg o'r flwyddyn, yn enwedig hwyaid, gwyddau a rhydwyr. Mae hynny'n wir hefyd am draethell lleidiog Traeth Lafan, sy'n ardal  o bwysigrwydd Ewropeaidd. Yn ychwanegol, mae Traeth Lafan, Glan y Môr Elias a Morfa Madryn, ar y cyd, yn ffurfio Gwarchodfa Natur Leol. Wrth y fynedfa mae llecyn picnic bychan a choetir sydd wedi cael ei blannu yn ddiweddar. Mae yna dair cuddfan adar ar y warchodfa, un hefo golygfa  ardderchog  o biod y môr yn clwydo ar adeg pen llanw ar y tafod o gerrig sy'n estyn allan yng Nglan y Môr Elias a'r ddwy eraill hefo golygfeydd agos o'r adar ar byllau'r warchodfa.

Mae Partneriaeth Cadwraeth Arfordir Gogledd Cymru wedi cyhoeddi taflen sy'n disgrifio gwarchodfeydd arfordir Gogledd Cymru rhwng Caernarfon a Chonwy, gan gynnwys Morfa Madryn.

Cyhoeddiadau Cefn Gwlad

Y Cod Cefn Gwlad

end content