Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Traeth Pen-sarn - Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig


Summary (optional)
Mwynhewch ddarganfod beth y mae’r llanw’n ei gario i'r lan ar y traeth graeanog hyfryd hwn.
start content

Pam dod yma?

  • Golygfeydd o’r môr
  • Planhigion arfordirol
  • Adar di-rif
  • Traeth tywod a graean syfrdanol
  • Cysylltiadau teithio llesol
  • Gwobr Glan Môr 

Mae Pensarn yn ardal warchodedig, wedi’i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae’n gorwedd i’r gogledd-orllewin o Abergele ac yn draeth creigiog bendigedig gydag arglawdd graeanog mawr llawn planhigion. Mae planhigion morol gwydn yn dal ati i ymgartrefu yno.

Mae traethau graeanog yn leoedd bywiog a gwyllt, sy’n boblogaidd ymysg bordhwylwyr a cherddwyr cŵn, ond sydd hefyd yn gynefinoedd pwysig. Mae’n rhaid i’r creaduriaid sy’n byw yma fod yn hynod wydn gan fod eu cynefin yn newid drwy’r amser.  

Mae Pensarn yn draeth graeanog unigryw. Mae’r lan yn ddigon cysgodol fel na all tonnau stormydd ei chyrraedd, gan adael digon o sefydlogrwydd i blanhigion morol dyfu. Mae’n lle bendigedig i fynd i chwilota am gregyn neu i wylio adar. Rhowch gynnig ar ein taflen archwilio cefnennau graenog.

Ewch i ddysgu mwy am sut mae’r cynefin yn gweithio a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal.

Sut ydym ni'n gofalu am ein cefnen raeanog?

Cyfleusterau

  • Toiledau cyhoeddus ar y promenâd
  • Caffi ar y promenâd LL22 7PP
  • Parcio am ddim ar hyd y promenâd
  • Paneli dehongli gyda gwybodaeth am fywyd gwyllt
  • Meinciau ar hyd y promenâd
  • Ciosgau a diddanwch tymhorol

Cofiwch ddarllen y Cod Cefn Gwlad cyn ymweld.

Mae croeso i gŵn ar dennyn, ond cofiwch ddarllen yr arwyddion lleol ar y promenâd, y llithrfeydd a’r pyst ar y traeth. Mae yna barthau gwahardd cŵn tymhorol ym Mhensarn rhwng y pyst pren ger y caffi a’r pyst concrid i’r gorllewin, lle mae ceir yn cael parcio ar y traeth.

Sut i fynd yno

Cerdded a Beicio

Mae Pensarn yn daith gerdded 20 munud o hyd o Abergele ar hyd yr A548 tua’r gogledd.

Mae Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd heibio i draeth Pensarn.

Cludiant Cyhoeddus

Mae yna wasanaeth bysiau rheolaidd rhwng Llandudno a'r Rhyl. Mae’r safle bysiau agosaf yng ngorsaf reilffordd Abergele a Phensarn. Mae’n cymryd 3 munud i gerdded yno o’r traeth.

Mae'n rhaid gwneud cais i'r trên stopio yn yr orsaf reilffordd hon ar y rhan fwyaf o wasanaethau ar hyd llinell arfordir gogledd Cymru.

Gyrru

O’r gorllewin, cymerwch yr A55 at gyffordd 23A am Abergele. Trowch i’r chwith dros y bont reilffordd tuag at y promenâd.

O’r dwyrain, ewch oddi ar yr A55 yng nghyffordd 24 am Abergele a throwch i’r dde ar hyd Water Street, yna Dundonald Avenue, gan ddilyn yr arwyddion am y traeth.

Beth sydd i’w weld gerllaw?

Os hoffech chi fynd am dro hirach, beth am fynd i un o’r safleoedd sydd gerllaw? Mae yna flodau a gweiriau amrywiol prydferth i’w gweld yn Nhwyni Cinmel, a dim ond 15 munud mae'n ei gymryd i fynd yno ar feic, gan deithio tua'r gogledd-orllewin yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru.

end content