Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ynglŷn â chynigion cynllun Amddiffynfa Arfordirol Hen Golwyn


Summary (optional)
start content

Amddiffynfeydd Arfordirol a Mynediad i’r Traeth

Mae’r amddiffynfeydd arfordirol yn cynnwys amddiffyn y morglawdd Fictoraidd gyda gwrthglawdd cerrig. Bydd y gwrthglawdd cerrig yn ymestyn o Splash Point (ger bwâu Hen Golwyn) i’r dwyrain hyd at Borth Eirias yn y gorllewin. Mae rhan o’r gwrthglawdd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd, o Splash Point i Rotary Way. Ar ôl yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn cyflwyno cais cynllunio i gwblhau’r gwrthglawdd cerrig sy’n ofynnol.

Mae’r cynigion yn dangos bod lefel y promenâd 2m yn uwch na’r lefel bresennol a’r gwrthglawdd cerrig wedi’i ymestyn i’r un uchder. Bydd hyn yn diogelu’r promenâd a’r isadeiledd hanfodol wrth ei ymyl.

Bydd grisiau mynediad newydd yn cael eu creu drwy’r gwrthglawdd cerrig i ddarparu mynediad i’r traeth. Bydd mynedfa newydd hygyrch i’r traeth hefyd, gyda ramp mynediad 2m o led a grisiau 4m o led gyda glaniad, ardaloedd wedi’u tirlunio a seddi.

Gwelliannau i’r Promenâd

Yn ogystal â gwella'r amddiffynfeydd arfordirol, rydym am wneud gwelliannau i'r promenâd er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r cynllun.

Gan ein bod yn cynllunio i godi lefel y promenâd o 2m, bydd hyn yn ein caniatáu i ledu’r promenâd i roi rhagor o le i bob defnyddiwr. Bydd hyn yn rhoi lle i Deithio Llesol, hwyl y teulu a gweithgareddau hamdden.

Bydd y promenâd ar ei newydd-wedd yn cynnwys:

  • Rhannu’r gofod rhwng beicwyr a cherddwyr i wella diogelwch
  • Parth gweithgareddau gyda meinciau, planwyr, coed a biniau
  • Ardal bicnic, seddi ac ystafell ddosbarth awyr agored/ardal addysgol
  • Nodweddion celf cyhoeddus
  • Marcwyr iechyd – yn dangos y pellter a deithiwyd o Borth Eirias

Goleuadau

Mae'r cynigion yn cynnwys cynllun goleuo effeithlon newydd ar gyfer yr ardal, yn unol â chamau blaenorol cynllun Glan Môr Bae Colwyn.

Plannu

Bydd planhigion newydd ar lan y môr yn cynnwys:

  • Plannwyr isel ac uchel gyda phlanhigion sy’n gorchuddio’r tir
  • Coed a llwyni ar gyfer yr ardal bicnic a'r ystafell ddosbarth awyr agored
  • Cymysgedd o blanhigion ecolegol ar gyfer yr ardal bicnic ac ymylon glaswellt

Celfi Stryd

Bydd y celfi stryd newydd yn siwtio gwahanol ddefnyddwyr, gweithgareddau a meintiau grwpiau, ac yn cynnwys:

  • Celfi picnic
  • Meinciau
  • Standiau Beics

Ciosgau Consesiwn

Er mwyn caniatáu mwy o uchder ar y promenâd, bydd y ciosg hen ffasiwn presennol ar Bromenâd Hen Golwyn yn cael ei dynnu. Rydym yn chwilio am arian i uwchraddio'r ciosg ger y fynedfa hygyrch newydd i’r traeth. Bydd y gwaith adeiladu hwn o dan gais caniatâd cynllunio ar wahân, ond rydym wedi cynnwys y lle a'r cyfleustodau angenrheidiol fel rhan o'r cynnig hwn.

Ffyrdd a Mynediad

Mae'r cynigion yn cynnwys newidiadau i roi lle i ledu’r promenâd er mwyn gwella diogelwch i gerddwyr a beicwyr.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • lledu’r promenâd er mwyn gwella llwybr i’w rannu rhwng cerddwyr a beicwyr
  • lledu’r ffordd ar y pen dwyreiniol i roi mwy o le i draffig dwy ffordd
  • tynnu’r llwybr troed ar waelod arglawdd y rheilffordd rhwng Rotary Way a bwâu rheilffordd Hen Golwyn. Bydd hyn yn ein caniatáu i symud y ffordd bresennol yn bellach i mewn i roi lle i ledu’r promenâd.
  • gwella pwyntiau croesfan i gerddwyr

Bydd y newidiadau hyn yn gwella mynediad i bawb ar hyd Promenâd Hen Golwyn, gan greu man cyhoeddus diogel a hygyrch, a llwybr Teithio Llesol.

Ecoleg

Mae'r cynigion yn cynnwys gwelliannau i ecoleg arfordirol a’r promenâd.

Mae gwelliannau i ecoleg yr arfordir yn cynnwys:

  • pyllau llanw artiffisial
  • rhoi wyneb newydd cymhlyg i annog cytrefu
  • gosod “gwestai pryfed y môr” (unedau cynefin ecolegol) yn y gwrthglawdd cerrig

Mae gwelliannau i ecoleg y promenâd yn cynnwys:

  • cyflwyno coed, llwyni a chymysgedd o blanhigion i'r ardaloedd picnic ger y toiledau cyhoeddus
  • plannu bylbiau, planhigion addurnol, derwen fythwyrdd a choed pîn yr Alban
  • plannu cymysgedd o berthi, blodau gwyllt, coed a llwyni isdyfiant, cymysgedd o goed canopi, llwyni ymyl a choed brodorol
  • coblau llac ar ongl, a gwesty pryfed yn yr ardaloedd picnic ac ystafelloedd dosbarth awyr agored
  • cymysgedd o flodau gwyllt ar hyd arglawdd y rheilffordd.

Addysgol:

  • Ardal ystafell ddosbarth awyr agored newydd
  • Gwell mynediad Teithio Llesol ar hyd y promenâd ar gyfer ymweliadau ysgolion ar droed, heb yr angen am drafnidiaeth
  • Paneli dehongli gyda gwybodaeth am hanes morol ac amddiffynfeydd arfordirol
  • Posibilrwydd ar gyfer ymweliadau ysgolion a mynediad cyhoeddus i weld gwelliannau i ecoleg forol
  • Golygfannau ar gyfer ymweliadau ysgolion a’r cyhoedd

Mae’r cynlluniau i’w gweld ar gopi caled ym Mhorth Eirias.

Mae copïau llawn o’r dogfennau hyn a dogfennau ategol eraill megis y Datganiad Dylunio a Mynediad a’r Datganiad Amgylcheddol ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Bae Colwyn. Gallwch ddarllen y dogfennau ar-lein hefyd.

Adborth

Os hoffech wneud sylw am y cynigion hyn cyn i ni gyflwyno cais cynllunio, gallwch wneud hyn:

Ar-lein: Adborth Glan y Môr Hen Golwyn
E-bost: llifogydd@conwy.gov.uk

Post:

Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn,
Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 30 Tachwedd 2021

end content