Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Cynllun Cyffredinol


Summary (optional)
amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn
start content

Mae’r cynllun cyfan yn rhedeg 1.2 cilomedr o Borth Eirias yn y gorllewin i Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn) yn y dwyrain ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn costio oddeutu £35 miliwn. Gan nad ydym eto wedi sicrhau ffynhonnell ar gyfer yr holl gyllid yma, rydym yn cwblhau’r cynllun mewn camau.

Pam fod y gwaith hwn yn bwysig

Yn ystod stormydd, mae’r promenâd yn Hen Golwyn yn dioddef yn aml o ddŵr yn dod dros ben wal y môr, gan ddifrodi’r promenâd ac arglawdd y rheilffordd. Mae’n rhaid cau rhannau o’r promenâd i’r cyhoedd nifer o weithiau bob blwyddyn. Mae wal y môr hefyd yn cael ei difrodi yn aml ac mae angen gwneud gwaith trwsio arni yn rheolaidd.

Mae cyflwr wal y môr wedi dirywio dros y degawdau, ac mae lefelau’r traeth ar hyd y rhan hon wedi gostwng yn raddol. Mae mwy o risg bellach y gallai’r amddiffynfeydd arfordirol hanfodol hyn gwympo yn ystod stormydd mawr.

Mae gwella’r amddiffynfeydd hyn yn hyd yn oed mwy pwysig gan fod y promenâd yn gwarchod isadeiledd allweddol, gan gynnwys Gwibffordd yr A55 a’r brif reilffordd rhwng Llundain a Chaergybi.

Buddion cymunedol

Rydym am ddarparu cymaint o fuddion ychwanegol â phosib wrth i ni gwblhau’r gwaith hanfodol hwn ar yr amddiffynfeydd arfordirol, i gyd-fynd â beth sydd eisoes wedi ei wneud mewn rhannau eraill o’r bae.

Cynlluniau

Mae’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cynnwys:

  • Gwarchod y wal fôr Fictoraidd gyda gwrthglawdd creigiau
  • Codi uchder y promenâd
  • Platfform pysgota newydd
  • Mynediad hygyrch i’r traeth
  • Llefydd eistedd ac ardaloedd i ddosbarthiadau awyr agored
  • Goleuadau
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Mae’r cynlluniau hyn yn dangos ein cynigion ar gyfer yr holl welliannau yr hoffem eu gwneud ar bromenâd Hen Golwyn. Nid yw’r gwelliannau hyn i gyd wedi eu rhaglennu eto, ac maent yn ddibynnol ar gynllunio pellach ac argaeledd cyllid.

Cynllun gorllewin y promenâd (PDF)

Cynllun y promenâd canolog (PDF)

Cynllun dwyrain y promenâd (PDF)

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynigion hyn, cysylltwch ag affch@conwy.gov.uk neu cwblhewch ein ffurflen ar-lein.

end content