Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dweud eich dweud – Amddiffynfa Arfordirol Hen Golwyn


Summary (optional)
Dweud eich dweud ar y gwelliannau i’r amddiffynfa arfordirol a’r promenâd, yn ogystal â’r mannau cyhoeddus ar Bromenâd Hen Golwyn.
start content

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 30 Tachwedd 2021.Darllenwch adborth yr ymgynghoriad

Rydym wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr holl waith amddiffyn yr arfordir a gwelliannau i’r promenâd a mannau cyhoeddus sy’n weddill ar Bromenâd Hen Golwyn.

Gallwch weld manylion y cais hwn ar y Porth Cynllunio.

Rydym yn paratoi cais cynllunio newydd ar gyfer yr holl waith amddiffyn yr arfordir a gwelliannau i’r promenâd a mannau cyhoeddus sy’n weddill ar Bromenâd Hen Golwyn.

Cawsom ganiatâd cynllunio yn y gorffennol ar gyfer y gwaith a gwblhawyd yn 2020 a’r gwaith cyfredol sy’n mynd rhagddo yn 2021 a 2022, y cawsom gyllid ar ei gyfer.

Mae’r ceisiadau presennol hyn (0/46896 a 0/48546) yn ein caniatáu ni i adeiladu rhan o gynllun amddiffynfa arfordirol Hen Golwyn. Er mwyn i ni gwblhau’r cynllun, mae arnom ni angen cyflwyno cais cynllunio ar gyfer gweddill y gwaith. Mae’r cynllun lleoliad yn amlygu’r ardaloedd sydd â chaniatâd cynllunio yn barod a’r ardaloedd sydd arnom ni angen caniatâd ar eu cyfer er mwyn gwneud y gwaith yn y cynlluniau newydd hyn rydym ni’n ymgynghori yn eu cylch.

Rhagor o wybodaeth am yr amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn

Beth yw’r cynigion?

Rydym yn bwriadu gwella'r amddiffynfeydd arfordirol drwy:

  • Ymestyn y gwrthglawdd cerrig o Rotary Way i Borth Eirias i amddiffyn y morglawdd Fictoraidd
  • Codi uchder y promenâd i amddiffyn yn erbyn lefelau uwch y môr yn sgil newid hinsawdd
  • Codi’r gwrthglawdd cerrig i gyd-fynd ag uchder newydd y promenâd


Rydym yn bwriadu gwella’r mynediad i’r traeth drwy:

  • Ddarparu ramp hygyrch a mynediad â grisiau i’r traeth trwy’r gwrthglawdd cerrig


Bydd y gwaith yn amddiffyn y morglawdd a'r isadeiledd hanfodol y tu ôl iddo rhag bygythiad parhaus y môr a lefelau newid hinsawdd derbyniol.

Wrth gynnal gwaith i’r amddiffynfeydd arfordirol, hoffem wneud gwelliannau i'r promenâd er mwyn sicrhau buddion ehangach y cynllun.

Fel rhan o'r cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt, rydym hefyd yn ystyried gwaith ychwanegol, megis:

  • gwell cyfleusterau i feicwyr a cherddwyr
  • rhoi wynebau newydd
  • seddi ac ystafelloedd dosbarth awyr agored
  • Gwella’r goleuadau stryd

 
Mae'r cynigion yn rhoi'r cydbwysedd gorau o ddarpariaeth parcio, beicio ac i gerddwyr, drwy sicrhau diogelwch y cyhoedd, gydag opsiynau ar gyfer chwarae a hamdden, yn ogystal â mannau picnic ac eistedd.

Fe gewch chi’r cyfle rŵan i weld y cynlluniau a rhoi sylwadau cyn i ni gyflwyno cais cynllunio.

Y camau nesaf

Byddwn yn adolygu’r holl sylwadau ac o bosib yn gwneud newidiadau i’r dyluniad yn seiliedig ar y rhain.

Yna disgwyliwn gyflwyno'r cais cynllunio ar ddechrau mis Rhagfyr.

Dim ond os yw’r Cyngor yn llwyddo i sicrhau cyllid y bydd y gwaith yn cychwyn ar y camau olaf hyn o amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn.

Mae derbyn caniatâd cynllunio perthnasol i gwblhau’r gwaith sydd ar ôl i’w wneud yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i sicrhau cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd gennym gynllun wedi’i lunio’n gyflawn gyda chaniatâd cynllunio, yn barod i’r gwaith ddechrau.  

Rydym yn dal i archwilio pa gyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau ariannu eraill. Yn dibynnu ar y mathau o gyllid y gall y Cyngor eu sicrhau, mae’n bosibl y bydd angen i ni adolygu'r dyluniad i sicrhau bod yr holl elfennau yn fforddiadwy.

 

end content