Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymuno â'r llyfrgell


Summary (optional)
Gellir gwneud cais am aelodaeth llyfrgell yn rhad ac am ddim, ac mae’n broses syml iawn.
start content


Cewch fynediad i’n casgliad digidol yn syth

Ymuno yn eich llyfrgell leol - ewch i'ch llyfrgell leol gydag un math o brawf adnabod, sy'n cynnwys eich
cyfeiriad e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau.

*Gellir hefyd gwneud consesiwn ar gyfer pobl heb gartref sefydlog, ar ôl dangos prawf adnabod.

Os ydych o dan 16 oed, byddwch yn derbyn ffurflen ganiatâd ar gyfer defnyddio’r rhyngrwyd; bydd angen i riant neu warcheidwad ei llofnodi.

Unwaith y byddwch wedi dod yn aelod, gallwch:


Cyfrif Llyfrgell Ar-lein

Gallwch reoli eich cyfrif llyfrgell eich hun ar-lein drwy ‘Fy Nghyfrif’ ar y catalog llyfrgell.

  • Bydd angen eich rhif PIN i fewngofnodi i'ch cyfrif i, adnewyddu eich eitemau, neu i ofyn am eitem benodol.
  • Byddwch yn cael eich rhif PIN pan fyddwch yn ymuno â'r llyfrgell.


Anghofio eich PIN?

Os ydych eisoes yn aelod o'r llyfrgell, a’ch cyfeiriad ebost wedi ei gofrestru ar eich cyfrif, gallwch ddefnyddio adnodd ’Anghofio PIN’ ar y catalog llyfrgell.

Cysylltwch â’r llyfrgell neu cwblhewch y ffurflen ‘Rhif PIN ar-lein’. Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa am eich PIN y diwrnod gwaith canlynol.

end content