start content

Gwasanaethau am ddim

Mae aelodaeth llyfrgell yn rhad ac am ddim, a bydd yn costio dim i:

  • fenthyg llyfrau, DVDs, llyfrau llafa, pecynnau iaith a dysgu agored
  • lawr lwytho, e-lyfrau, e-gylchgronau a llyfrau llafar
  • cael mynediad i'r rhyngrwyd trwy Wi-Fi, neu drwy gyfrifiaduron y llyfrgell
  • gallwch ddod i'n hamser stori i blant dan 5 oed, neu sesiwn galw heibio TG hefyd yn rhad ac am ddim

Argraffu a llungopïo

  • Du a gwyn: 30c y ddalen (A4), 60c y ddalen (A3)
  • Lliw: 70c y ddalen (A4), £1.40 y ddalen (A3) (Mae gwasanaethau argraffu a llungopïo A3 ar gael yn Llyfrgell Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno, Llanrwst).
  • Mae cyfleusterau argraffu microffilm ar gael yn Llyfrgelloedd Bae Colwyn a Llandudno, y ffioedd yw: 65c y ddalen (A4), a £1.30 y ddalen (A3).
  • Mae pob llungopi, argraffiad ac atgynyrchiadau ffotograffig yn destun rheoliadau hawlfraint.

Gwneud cais am eitemau

Mae ceisiadau am eitemau newydd ac eitemau sydd ar gael yng Nghymru yn rhad ac am ddim, os yw ceisiadau ar gyfer eitemau y tu allan i Gymru drwy Fenthyciadau Rhwng Lyfrgelloedd, y gost yw £18.50.

Eitemau wedi eu colli, eu dwyn neu eu difrodi

Os bydd eitem ar goll, yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi pan fydd yn cael ei fenthyg i chi, byddwn yn codi tâl yn seiliedig ar gost yr eitem ynghyd â ffi brosesu o £9.50. Os mai eiddo gwasanaeth llyfrgell arall yw’r eitem, byddwn yn codi tâl yn seiliedig ar bolisi benthyca’r llyfrgell honno, ynghyd â £11 ffi brosesu.

Cardiau llyfrgell newydd

Cerdyn llyfrgell i blentyn £1.60 ac i oedolion £2.75.

Eitemau ar werth mewn llyfrgelloedd

  • Allwedd RADAR: £5.00

Rydym hefyd yn darparu ‘Books for Keeps’, ac yn gwerthu Tocynnau Theatr, eitemau o Arddangosfeydd, llyfrau a mapiau lleol, a sachau gwastraff masnachol - gofynnwch i'r staff am fwy o fanylion.

Digwyddiadau a gweithgareddau yn y llyfrgell

Mae sesiynau amser stori a gweithgareddau yn rhad ac am ddim.

Aelodaeth flynyddol y Grŵp Darllen yw £15 ar gyfer grwpiau a arweinir gan staff y llyfrgell, £7.50 os nad ydynt o dan arweiniad staff y llyfrgell.

Mae sesiynau galw heibio TG am ddim, ond efallai bydd yna dâl am gyrsiau TG a gaiff eu cyflwyno mewn llyfrgelloedd gan diwtoriaid TG.

Llogi ystafelloedd yn y Llyfrgell

Y taliadau am logi ystafelloedd cyfarfod yn ystod oriau agor y llyfrgell yw:

  • Ystafell fechan (hyd at 4 o bobl) £13.50 fesul awr
  • Ystafell fawr £16 fesul awr
  • Mae’n bosibl bod gostyngiadau ar gael. Gofynnwch i aelod o staff.

Am fwy o wybodaeth ac i weld lleoliadau’r ystafelloedd cyfarfod ewch i dudalen llogi ystafelloedd yn y Llyfrgell.

end content