Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffordd Abergele - Teithio Llesol


Summary (optional)
start content

Yr A547 Ffordd Abergele yw’r brif ffordd i ac o Fae Colwyn yn y dwyrain a chanol tref Bae Colwyn yn y gorllewin.  Mae’n uno â Ffordd Conwy heibio’r groesffordd â Ffordd yr Orsaf.  Mae hefyd yn uno nifer o ardaloedd preswyl â Theatr Colwyn, Stadiwm CSM (Stadiwm Eirias), Canolfan Hamdden Colwyn, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ac ysgolion.

Materion allweddol

  • Nid oes unrhyw gyfleusterau beicio ar neu oddi ar y ffordd ar hyd y rhan hon.
  • Nid oes digon o gyrbau isel mewn rhai lleoliadau i helpu cerddwyr â phroblemau symudedd neu nam golwg.  Mae angen gwneud gwelliannau i groesfannau rhai ffyrdd ymyl.
  • Mae rhai palmentydd ar hyd y llwybr yn gul ac o bosib fod angen gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt.
  • Nid yw lled ffyrdd yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr ar hyn o bryd.
  • Mae adolygiad o’r croesfannau i gerddwyr yn dangos bod modd gwneud gwelliannau.
  • Mae’r cylchfannau presennol yn defnyddio rhan sylweddol o’r ffordd, gan olygu bod pobl sy’n croesi’r ffordd yn gorfod cerdded yn bellach.

Cynigion

  • Darparu llwybr a rennir lletach a di-dor i gerddwyr a beicwyr ar ochr ogleddol Ffordd Abergele o gylchfan y Marine ger Rotary Way at Ffordd yr Orsaf.
  • Gosod cyfleusterau croesi paralel ar gylchfan y Marine.
  • Culhau lled y ffordd i 6 metr, gan hyrwyddo diogelwch ar y ffordd trwy leihau cyflymder cerbydau.
  • Symud gofodau parcio ar y stryd i strydoedd ochr lle bo modd, er mwyn gwneud lle i’r gwelliannau.
  • Adleoli a lledu’r croesfannau twcan a’r rhai heb eu rheoli er hwylustod a chysur i gerddwyr.
  • Creu cyffyrdd wedi’u codi newydd ar y prif groesfannau er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud hi’n haws i gerddwyr groesi’r ffordd.
  • Gosod cyrbau isel newydd, palmant botymog, a chroesfannau ffyrdd ymyl uwch, er mwyn rhoi mwy o ddiogelwch a chysur i gerddwyr.
  • Cynyddu maint ardaloedd aros mewn safleoedd bws a gosod cysodfannau newydd.
  • Creu ardaloedd wedi’u tirlunio yn cynnwys coed a gerddi glaw ar hyd Ffordd Abergele.

Ffordd Abergele: cynllun ffordd gyfredol

Ffordd Abergele - cynllun ffordd gyfredol

Cynlluniau

Gweld y cynlluniau Ffordd Abergele. (PDF, 3.7MB)

Tudalen nesaf:  Parc Eirias

end content