Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffordd yr Orsaf


Summary (optional)
start content

Mae Ffordd yr Orsaf yn un o’r prif ardaloedd siopa yng nghanol y dref ac mae’n ardal i gerddwyr yn unig yn ystod y dydd.  Cynhelir marchnad yno bob mis.  Gall cerbydau gael mynediad oddi ar Ffordd Abergele gyda’r nos ar gyfer llwytho a pharcio i bobl anabl.  Mae bolardiau awtomatig wedi’u gosod i reoli mynediad cerbydau yn ystod amseroedd gwaharddedig (parth cerddwyr).

Pan nad yw’n barth i gerddwyr yn unig, mae Ffordd yr Orsaf yn ffordd ar gyfer cerbydau, gydag ardaloedd dynodedig i gerddwyr ar bob ochr.  Mae’r ffordd hon yn cysylltu Ffordd Abergele/ Ffordd Conwy â Rhodfa’r Tywysog, ac felly mae’n llwybr poblogaidd ar gyfer cyrraedd y promenâd a’r orsaf drenau.  Mae gwelliannau wedi’u gwneud i’r parth cyhoeddus ar Ffordd yr Orsaf, gan gynnwys goleuadau, seddi a rhywfaint o blanhigion.

Materion allweddol

  • Ceir rhai problemau parcio ar y ffordd, boed hynny o ran cael mynediad pan fo’r bolardiau wedi’u gostwng neu trwy ddod i mewn yn anghyfreithlon oddi ar ffordd Rhodfa'r Tywysog heibio’r arwyddion Dim Mynediad.  Gall hyn olygu bod gormod o geir wedi’u parcio yn yr ardal, sy’n ei gwneud hi’n anodd i gerddwyr fynd heibio.
  • Nid oes unrhyw ofodau parcio i bobl anabl na gofodau llwytho, sy’n anghyfleus y tu hwnt i’r oriau ar gyfer cerddwyr yn unig.
  • Er bod beics yn teithio i’r ddau gyfeiriad yn answyddogol, nid oes unrhyw gyfleusterau penodol i feicwyr ar gyfer teithio ar hyd y ffordd.
  • Diffyg mannau parcio i feics.

Cynigion

  • Cadw’r system bolardiau awtomatig bresennol.  Gosod bolard ychwanegol i atal gyrwyr rhag cael mynediad i Ffordd yr Orsaf trwy’r llwybr cyswllt i Ffordd Penrhyn.
  • Creu mannau llwytho ar ochr orllewinol Ffordd yr Orsaf.
  • Gosod cymysgedd o gelfi stryd a phlanhigion er mwyn atal pobl rhag parcio mewn ardaloedd i gerddwyr.
  • Plannu coed a phlanhigion er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy deniadol i siopwyr ac ymwelwyr.
  • Creu cyffyrdd newydd wedi’u codi bob ochr i Ffordd yr Orsaf er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud yn haws i gerddwyr groesi’r ffordd.
  • Ychwanegu lôn feicio gwrthlif newydd a lle parcio ar eu cyfer.
  • Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.

Argraff arlunydd

Delweddu Ffordd yr Orsaf

Cynlluniau

Gweld cynlluniau Ffordd yr Orsaf. (PDF, 1.5MB)

Tudalen nesaf:  Ffordd Penrhyn

end content