Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhodfa'r Tywysog a'r llwybr cyswllt i'r promenâd


Summary (optional)
start content

Mae’r cynnig hwn ar gyfer y rhan o ffordd Rhodfa’r Tywysog rhwng Ffordd Penrhyn a’r promenâd.  Mae Rhodfa’r Tywysog yn stryd allweddol gan ei bod yn cysylltu Ffordd yr Orsaf, Ffordd Penrhyn, Sea View Road, Canolfan Bay View a’r promenâd.  Gellid gwella’r cynllun presennol, fel bod modd i bobl gerdded neu feicio rhwng canol y dref, yr orsaf drenau a’r promenâd.

Bydd hen safle Neuadd y Farchnad yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio er mwyn gwneud iawn bod llai o ofodau parcio i geir mewn ardaloedd eraill yng nghanol y dref. 

Materion allweddol

  • Nid yw’r llwybr cerdded/beicio presennol ar hyd Rhodfa’r Tywysog ac o dan y bont rheilffordd yn edrych yn ddigon deniadol i annog ymwelwyr i symud rhwng canol y dref a’r promenâd.  Nid oes unrhyw wyliadwriaeth ar hyn o bryd ac mae golau gwael o dan y bont.
  • Mae celfi stryd rhwng y bont rheilffordd a’r promenâd yn rhwystro’r llwybr i gerddwyr a beicwyr.
  • Nid oes unrhyw gyfleusterau beicio dynodedig ar ffordd Rhodfa’r Tywysog.
  • Nid yw lleoliad y groesfan bresennol i gerddwyr ar ffordd Rhodfa’r Tywysog yn cyd-fynd â’r ‘llinell ddelfrydol’ o’r orsaf drenau i ganol y dref.
  • Mae angen gwella’r arwyddion presennol.
  • Gellid gwneud ardaloedd tirlunio yn fwy deniadol.

Cynigion

  • Creu cyffyrdd ar fyrddau arafu wedi’u codi newydd ar Ffordd yr Orsaf a Ffordd Penrhyn er mwyn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i bobl groesi’r ffordd.
  • Culhau lled y ffordd i 6 metr er mwyn lledu’r ardaloedd i gerddwyr a beicwyr ac i annog cyflymderau arafach gan draffig, gan wella diogelwch ar y ffordd.
  • Datblygu hen safle Neuadd y Farchnad yn faes parcio gyda phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a chysylltiadau â’r orsaf drenau.
  • Symud y groesfan twcan i leoliad mwy hwylus ar waelod Ffordd yr Orsaf, gan ddarparu llwybr uniongyrchol i ganol y dref o’r orsaf drenau.
  • Gwella’r ardal eistedd balmantog ar ochr ddeheuol Rhodfa’r Brenin, er mwyn ei wneud yn fan cyhoeddus mwy agored a deniadol, yn cynnwys planhigion a choed.
  • Gosod croesfan baralel newydd rhwng y llwybr cyswllt o’r promenâd a’r ardal eistedd ar ochr ddeheuol Rhodfa’r Tywysog.
  • Gwella’r goleuadau o dan y bont rheilffordd.
  • Gosod croesfan baralel newydd a llwybr a rennir ar ochr ogleddol y promenâd, a fyddai’n cysylltu â’r llwybr beics ar hyd y traeth.
  • Ailwampio’r celfi stryd rhwng y bont rheilffordd a’r promenâd, creu ardaloedd planhigion a gwneud gwelliannau gweledol i’r bont rheilffordd.
  • Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.

Argraff arlunydd

Delweddu Rhodfa'r Tywysog i'r promenâd

Cynlluniau

Gweld y cynlluniau Rhodfa'r Tywysog (PDF, 4.3MB)

Tudalen nesaf:  Ffordd Abergele - Teithio Llesol

end content