Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Maes parcio Ivy Street


Summary (optional)
start content

Mae gwelliannau wedi’u nodi ar gyfer y maes parcio presennol, er mwyn annog pobl i'w ddefnyddio.  Nid yw’r maes parcio presennol yn cael ei ddefnyddio ddigon.  Nid yw’n ddeniadol ac mae’n teimlo’n lle anghysbell a all hefyd ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r cynnig yn cynnwys cael gwared ar y toiledau cyhoeddus (sydd ar gau oherwydd fandaliaeth) a chreu maes parcio haws i’w ddefnyddio.  Byddai cynllun gwell yn darparu llwybr ychwanegol i gerddwyr/beicwyr rhwng Ffordd Abergele a Rhodfa’r Tywysog ac ymlaen i’r orsaf drenau a’r promenâd.

Byddai cynnig Ivy Street yn helpu i greu canol tref deniadol gyda rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio mwy diogel ac uniongyrchol o'r maes parcio, i'r maes parcio a drwy'r maes parcio. 

Materion allweddol

  • Nid oes unrhyw lwybrau trwy’r maes parcio presennol, felly mae’n rhaid i gerddwyr gerdded ar y ffordd neu trwy ardaloedd parcio.
  • Mae llawer o yrwyr yn gadael eu ceir ar y palmant ger y bloc toiledau, gan rwystro llwybrau cerddwyr.
  • Gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol amharu ar ba mor ddeniadol yw’r llwybr.
  • Nid oes lle ar gyfer parcio beics.
  • Mae rhai adeiladau ac ardaloedd cyhoeddus mewn cyflwr gwael. 

Cynigion

  • Creu llwybr i gerddwyr a beicwyr sy’n cysylltu â Ffordd Abergele a Rhodfa’r Tywysog ar hyd ochr orllewinol y maes parcio.
  • Gosod planhigion, coed a chelfi stryd eraill er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy deniadol.
  • Gwella cynllun y maes parcio er mwyn creu cymaint o ofodau parcio â phosibl a’i gwneud hi’n haws cael mynediad a gadael.
  • Lledu’r palmant ar y gyffordd â Sea View Road.
  • Dymchwel y toiledau er mwyn creu ardal wedi’i thirlunio sy’n fwy deniadol.
  • Ychwanegu mannau diogel i barcio beics.
  • Gosod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan.

Maes parcio Ivy Street: cynllun ffordd gyfredol

Maes parcio Ivy Street - cynllun ffordd gyfredol

Cynlluniau

Gweld cynlluniau maes parcio Ivy Street. (PDF, 4.3MB)

Tudalen nesaf:  Rhodfa'r Tywysog a'r llwybr cyswllt i'r promenâd

end content