Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Blaengwrt gorsaf drenau Bae Colwyn


Summary (optional)
start content

Mae blaengwrt yr orsaf drenau yn lleoliad allweddol a allai elwa o welliannau hygyrchedd.  Ceir sy’n ennill lle blaenllaw yn y cynllun presennol.  Gall fod yn rhwystr corfforol i bobl, yn enwedig pobl â phroblemau symudedd, gael mynediad at orsaf drenau neu deithio o’r orsaf i ganol y dref.

Mae’r ardal yn borth allweddol i Fae Colwyn, y mae ymwelwyr yn ei ddefnyddio wrth gyrraedd neu adael ar y trên.  Mae’r cynllun presennol yn golygu y gall pobl ystyried teithio rhwng yr orsaf drenau, y promenâd, canol y dref a rhannau eraill o’r dref yn brofiad annymunol.  Mae cyfle i ddisodli maes parcio’r blaengwrt gyda sgwâr cyhoeddus deniadol, a fyddai’n creu argraff dda o ganol y dref.

Mae cyfle hefyd i annog pobl i deithio’n gynaliadwy, gyda chyfleusterau ar gyfer beicwyr (megis storfeydd beiciau) a cherddwyr (megis llwybrau lletach) a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan

Materion allweddol

  • Mynediad is na’r safon i gerddwyr, llwybrau cul a chysylltiadau gwael â chanol y dref.
  • Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar ardaloedd i gerddwyr o ran rhoi wyneb newydd ac mae palmant botymog ar goll.
  • Nid yw’r llwybrau cerdded yn rhai uniongyrchol rhwng yr orsaf drenau ac ardaloedd allweddol eraill.
  • Diffyg cyfleusterau ar gyfer beics gan gynnwys llwybrau a mannau parcio.

Cynigion

  • Creu porth gwell ynghyd â sgwâr newydd, yn cynnwys palmentydd, planhigion ac ardaloedd i bobl gwrdd ac ymlacio, o ansawdd gwell.
  • Darparu cysylltiadau gwell rhwng canol y dref, yr orsaf drenau a’r promenâd, trwy osod llwybrau newydd, lletach ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
  • Cadw’r ardaloedd gollwng ar gyfer tacsis a cherbydau yn yr orsaf drenau.
  • Symud y gofodau parcio presennol ar y blaengwrt i hen safle Neuadd y Farchnad, ychwanegu mwy o lefydd parcio i bobl anabl a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.
  • Creu llefydd diogel i barcio beics.
  • Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.

Argraff arlunydd

Delweddu blaengwrt gorsaf drenau

Cynlluniau

Gweld y cynlluniau blaengwrt gorsaf drenau Bae Colwyn. (PDF, 4.3MB)

Tudalen nesaf:  Ffordd yr Orsaf

end content