Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffordd Penrhyn


Summary (optional)
start content

Mae Ffordd Penrhyn yn cysylltu Rhodfa'r Tywysog â Ffordd Abergele/ Ffordd Conwy.  Ar ddwy ochr y stryd, mae siopau, seddi yn yr awyr agored a llefydd bwyta ac yfed.  Mae’r stryd unffordd, dwy lôn (tua’r de) yn tua 6.5 metr o led.  Mae gofodau parcio ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser bob ochr i’r stryd.

Er bod y palmentydd presennol yn llydan, mae canopïau adeiladau a chelfi stryd eraill gan gynnwys ardaloedd planhigion yn cymryd lle. Ar y cyfan, mae’r man cyhoeddus yn lle deniadol, o ansawdd da.

Materion allweddol

  • Er bod y rhan fwyaf o balmentydd yn lletach na 2 fetr, mae’r celfi stryd a’r mannau eistedd ychwanegol yn ei gwneud hi’n anodd weithiau i breswylwyr symud o gwmpas.
  • Gellir gwella croesfannau cerddwyr.
  • Gall parcio parhaus bob ochr i’r ffordd ei gwneud hi’n anodd i gerddwyr weld traffig sy’n dod i’w cyfeiriad, yn enwedig pan fydd pobl yn croesi’r ffordd rhwng ceir sydd wedi’u parcio.
  • Mae’r lled 6.5 metr ar gyfer ffordd unffordd yn lletach na’r arfer, ac felly’n annog cyflymderau uwch.
  • Nid oes unrhyw gyfleusterau penodol ar gyfer beics ar hyn o bryd (megis lôn feicio gwrthlif) sy’n caniatáu i feicwyr deithio i lawr y ffordd (i gyfeiriad y gogledd). 

Cynigion

  • Culhau’r ffordd i greu ardal fwy ar gyfer cerddwyr a darparu mwy o ardaloedd cerdded a seddi ar hyd Ffordd Penrhyn.
  • Gosod cynwysyddion uchel ar gyfer coed a phlanhigion gyda seddi integredig, er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy deniadol. Byddai’r coed a’r planhigion yn cael eu gosod ar ochr orllewinol y ffordd, lle mae cerbydau’n parcio ar hyn o bryd. Mae gofodau parcio ychwanegol wedi’u cynnwys yn natblygiad y maes parcio arfaethedig ar hen safle Neuadd y Farchnad.
  • Creu cyffyrdd newydd wedi’u codi bob pen i Ffordd Penrhyn er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud yn haws i gerddwyr groesi’r ffordd.
  • Ychwanegu lôn feicio gwrthlif newydd a lle parcio ar gyfer beics.
  • Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.

Argraff arlunydd

Deleddu Ffordd Penrhyn

Cynlluniau

Gweld cynlluniau Ffordd Penrhyn. (PDF, 4.3MB)

Tudalen nesaf:  Maes parcio Ivy Street

end content