Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Parc Eirias - Teithio Llesol


Summary (optional)
start content

Ym Mharc Eirias, mae yna nifer o lwybrau sy’n cysylltu â’r stadiwm, y ganolfan hamdden, ysgolion a phencadlys Heddlu Gogledd Cymru.  Trwy ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r llwybrau hyn, mae cyfle i greu llwybr o Hen Golwyn sydd ar wahân i’r traffig yn bennaf.  Fel hyn, gall pobl osgoi llwybr prysur yr A547.

Materion allweddol

  • Mae rhai o’r llwybrau presennol yn rhy gul mewn mannau i gerddwyr a beicwyr.
  • Gellid gwella llwybrau cerddwyr a beicwyr rhwng Ffordd Abergele a’r ganolfan hamdden.
  • Nid yw’n hwylus cerdded neu feicio trwy faes parcio’r ganolfan hamdden a byddai’n fanteisiol cael llwybr penodol yno.

Cynigion

  • Adnewyddu’r llwybrau a rennir yn y parc trwy eu lledu a rhoi wyneb newydd arnynt yn ôl yr angen.
  • Cyflwyno llwybr a rennir newydd ar hyd cae pêl-droed Parc Eirias.
  • Lledu a rhoi wyneb newydd ar y palmentydd ar hyd Ffordd Eirias ar gyfer gwella cysylltedd rhwng Ffordd Abergele ac Ysgol Uwchradd Eirias.
  • Gwella goleuadau stryd ar hyd y llwybrau lle bo angen.
  • Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.
  • Gwella maes parcio’r ganolfan hamdden a’r ardal gyfagos er mwyn caniatáu gwell mynediad i'r ganolfan hamdden ac oddi yno.

Parc Eirias: cynllun ffordd gyfredol

Parc Eirias - cynllun ffordd gyfredol

Cynlluniau

Gweld cynlluniau Parc Eirias. (PDF, 1.5MB)

Tudalen nesaf:  Hoffem gael eich barn

end content