Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwiriad Cymhwysedd Bathodyn Glas


Summary (optional)
Gwiriwch a ydych chi’n gymwys am Fathodyn Glas
start content

Os cliciwch y botwm "Gwnewch cais Ar-lein am Fathodyn Glas" bydd yn eich arwain at wefan GOV.UK. Er mwyn cwblhau'r cais yn Gymraeg, cliciwch ar 'Start Now', ac ar waelod y dudalen, cliciwch Cymraeg.

Efallai byddwch yn gymwys ar gyfer Bathodyn Glas os yw unrhyw un o’r rhain yn berthnasol.

 

Rwy’n derbyn yr atodiad symudedd pensiynwyr rhyfel

Byddwch yn gymwys os ydych chi’n:

  • Derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel. Bydd hyn wedi’i gadarnhau ar y llythyr swyddogol gan Veterans UK.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

Nid ydych chi’n gymwys os ydych chi’n:

  • Derbyn Pensiwn Anabledd Rhyfel heb elfen symudedd.

 

Rwy’n derbyn y gyfradd uwch o’r elfen symudedd yn y Lwfans Byw Anabledd

Byddwch chi’n gymwys os ydych chi’n:

  • Derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd – bydd hyn wedi’i gadarnhau ar y llythyr gan yr Adran Waith a Phensiynau.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

Nid ydych chi’n gymwys os ydych chi’n derbyn:

  • Cyfradd Canol neu Is Elfen Symudedd
  • yr Elfen Ofal ar unrhyw radd (oni bai eu bod hefyd yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd)
  • Lwfans Gweini ar unrhyw radd
  • Credyd Pensiwn

 

Rwy’n derbyn 8 pwynt neu ragor o’r elfen symudedd yn y Taliad Annibyniaeth Bersonol

Byddwch yn gymwys os ydych chi’n:

  • Derbyn sgôr o 8 pwynt neu fwy yn y rhan ‘symud o gwmpas’ yn Elfen Symudedd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol.

Bydd hyn wedi’i gadarnhau yn y llythyr a fydd yn disgrifio i ba raddau y gallwch ‘symud o gwmpas’ – i fod yn gymwys bydd rhaid i chi dderbyn un o’r canlynol:

  • Yn gallu sefyll ac yna symud heb gymorth am fwy nag 20 metr, ond dim mwy na 50 metr (8 pwynt)
  • Yn gallu sefyll ac yna symud drwy ddefnyddio cymorth neu offer am fwy na 20 metr, ond dim mwy na 50 metr. (10 pwynt)
  • Yn gallu sefyll ac yna symud mwy nag un metr ond dim mwy nag 20 metr un ai gyda chymorth neu heb gymorth (12 pwynt)
  • Yn methu sefyll neu symud mwy nag un metr, gyda chymorth neu heb gymorth (12 pwynt)
  • Mae gennych gyflwr gwybyddol sy’n achosi problem wrth gynllunio a mynd ar daith (12 pwynt)

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

Ni fyddwch chi’n gymwys yn awtomatig os ydych chi’n:

  • Derbyn sgôr o 7 neu lai o dan y rhan ‘symud o gwmpas’ yn yr Elfen Symudedd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol.
  • Sgorio llai na 12 ar y weithgaredd ‘cynllunio a dilyn teithiau’ o’r Elfen Symudedd (oni bai eu bod hefyd yn derbyn sgôr o 8 pwynt neu ragor ar gyfer yr Elfen Symudedd).
  • Yn derbyn yr Elfen Bywyd Beunyddiol o’r Taliad Annibyniaeth Bersonol (oni bai eu bod hefyd yn derbyn 8 pwynt neu ragor o’r Elfen Symudedd).

 

Rwyf wedi derbyn budd-dal untro ar dariff 1-8 o’r Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog

Byddwch yn gymwys os ydych chi’n:

  • Wedi derbyn budd-dal untro ar dariff 1 – 8 o’r Cynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a’r Adfyddinoedd ac ardystiad bod gennych anhawster parhaol a sylweddol sy’n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu’ch bod yn cael anhawster mawr i gerdded.
  • Dylai eich llythyr oddi wrth Veterans UK gadarnhau’r ddau maen prawf yma.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

Ni fyddwch yn gymwys os ydych:

  • Wedi derbyn budd-dal untro ar dariff 9 – 15 y Cynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a’r Adfyddinoedd.
  • Yn derbyn budd-dal untro ar dariff 1-8 o’r Cynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a’r Adfyddinoedd heb ardystiad bod gennych anhawster parhaol a sylweddol sy’n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu’ch bod yn cael anhawster mawr i gerdded.

 

Nid wyf yn gallu cerdded neu mae cerdded yn anodd iawn

Byddwch yn gymwys os oes gennych:

  • Anhawster parhaol ac anhawster sylweddol sy’n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu’n cael anhawster mawr i gerdded.
  • Mae methu â cherdded yn golygu nad ydych yn gallu cymryd un cam.

Mae anhawster sylweddol i gerdded yn cael ei benderfynu trwy ystyried y canlynol:

  • poen difrifol wrth gerdded neu o ganlyniad i gerdded
  • bod yn fyr o wynt wrth gerdded neu o ganlyniad i gerdded
  • y cyflymder rydych chi’n gallu cerdded
  • am faint o amser y gall person gerdded
  • sut mae’r person yn cerdded
  • os defnyddir cymhorthion cerdded
  • eich gallu i gerdded yn yr awyr agored

Sylwer nad yw un ffactor unigol yn penderfynu eich cymhwysedd ond mae’r ffactorau hyn yn cael eu hystyried gyda’i gilydd.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

Nid ydych yn gymwys:

  • Os oes gennych anabledd dros dro sy’n para llai na 12 mis neu broblemau symudedd sy’n codi o bryd i’w gilydd.
  • Os oes gennych anhwylder ymddygiad neu seicolegol oni bai bod eich nam yn achosi anhawster sylweddol i chi gerdded oherwydd cyflwr corfforol.
  • Os oes gennych gyflwr meddygol fel asthma, awtistiaeth, problemau seicolegol/ymddygiadol, clefyd Crohn/cyflyrau anymataliaeth ac enseffalomyelitis myalgig (M.E.). Os ydych yn dioddef o’r cyflyrau hyn byddwch yn gymwys dim ond os ydych yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd o’r Lwfans Byw Anabledd, neu os nad ydych yn gallu cerdded, neu os ydych yn cael anhawster difrifol i gerdded yn ychwanegol i’ch cyflwr.
  • Rydych yn fregus oherwydd henaint oni bai bod gennych anabledd corfforol parhaol a sylweddol.
  • Rydych o dan 2 oed.
  • Rydych angen cilfan parcio llydan i agor y drws oni bai nad ydych yn gallu cerdded, neu os oes gennych anhawster difrifol i gerdded yn ychwanegol at eich cyflwr.
  • Rydych yn cael anhawster i fynd mewn ac allan o gerbyd oni bai nad ydych yn gallu cerdded, neu os oes gennych anhawster difrifol i gerdded yn ychwanegol ato eich  cyflwr.
  • Rydych angen mynediad at gyfleusterau i reoli anymataliaeth y coluddyn neu bledren oni bai eich bod hefyd yn methu cerdded, neu’n cael anawsterau difrifol iawn yn ychwanegol at eich cyflwr.
  • Rydych yn cael gofid i gario eich siopa oni bai eich bod hefyd yn methu cerdded, neu’n cael anawsterau difrifol iawn yn ychwanegol at eich cyflwr.

 

Gwybodaeth bwysig ar gyfer unrhyw un sy’n aros neu’n gwella o lawdriniaeth neu driniaeth.

Os ydych wedi cael llawdriniaeth o fewn y 3 mis diwethaf ni fyddwn yn ystyried eich cais oni bai y disgwylir na fydd llawdriniaeth yn gwella eich gallu i gerdded.

Os ydych yn disgwyl llawdriniaeth neu driniaeth, a’r disgwyl yw y bydd hyn yn gwella eich gallu i gerdded dylech rhoi y dyddiad rydych chi’n disgwyl cael y llawdriniaeth ar eich ffurflen gais.

 

Rwy’n gyrru cerbyd ac mae gennyf anableddau difrifol ar y ddwy fraich

Byddwch chi’n gymwys os ydych chi’n:

  • Gyrru cerbyd yn rheolaidd a bod gennych anabledd parhaol a difrifol ar y ddwy fraich ac nid ydych yn gallu defnyddio unrhyw fath neu rai mathau o fesurydd parcio.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

Nid ydych yn gymwys os oes gennych:

  • Anabledd parhaol a difrifol ar y ddwy fraich ond nid ydych yn gyrru cerbyd yn rheolaidd
  • Anabledd parhaol a difrifol ar un fraich yn unig
  • Anabledd difrifol ar y ddwy fraich nad yw’n un parhaol

 

Mae gennyf blentyn o dan 3 oed sydd angen cyfarpar meddygol swmpus

Byddwch chi’n gymwys:

  • Os oes cyflwr meddygol penodol sy’n golygu bod rhaid cludo cyfarpar meddygol swmpus ar gyfer eich plentyn bob amser, sy’n anodd iawn ei gario o gwmpas.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

 

Mae gennyf blentyn o dan 3 oed sydd angen ei gadw’n agos at gerbyd

Byddwch chi’n gymwys:

  • Os oes cyflwr meddygol penodol sy’n golygu bod angen i’ch plentyn fod yn agos i gerbyd drwy’r amser, naill ai i gael triniaeth, neu er mwyn eu cludo i gael triniaeth yn rhywle arall.

Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas

 

Rwy’n dioddef o salwch marwol

  • Os ydych wedi cael prognosis meddygol sy’n datgan bod gennych lai na blwyddyn i fyw nid oes rhaid i chi lenwi cais amdanoch chi’ch hun.

 

Cysylltwch ag un o’r canlynol a fydd yn gwneud cais ar eich rhan:

  • Y Tîm Bathodyn Glas ar 01492 577800
  • Eich nyrs MacMillan, eich gweithiwr hosbis, eich nyrs arbenigol neu’ch Gweithiwr Proffesiynol Iechyd
end content