Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwneud Cais am Fathodyn Glas


Summary (optional)
Sut i wneud cais am Fathodyn Glas newydd neu adnewyddu eich Bathodyn Glas
start content

Mae’r Bathodyn Glas yn galluogi i unigolion sydd â nam symudedd difrifol barcio yn agos at y man y maent yn ei gyrchu. Nid oed yn rhaid i unigolyn fod yn yrrwr i wneud cais am Fathodyn Glas. Mae’r bathodyn ar gyfer unigolyn a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gar pan fo’r unigolyn hwnnw yn deithiwr.

Gwirio i weld os ydych chi'n gymwys

I wneud cais yng Nghonwy bydd angen y canlynol arnoch:

• tystiolaeth o’ch hunaniaeth (fel arfer bydd angen ID â llun arno fel pasbort neu drwydded yrru neu Gerdyn Bws Trafnidiaeth Cymru. Mae eich tystysgrif geni neu dystysgrif priodas hefyd yn dderbyniol ond bydd angen i ni wirio eich llun fel rhan o’r broses ymgeisio)

• tystiolaeth o’ch cyfeiriad (fel bil Treth y Cyngor neu fil gwasanaeth)
• tystiolaeth o fudd-daliadau (os ydych chi’n derbyn rhai)

Bydd angen i chi wybod:

• eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych chi un)
• manylion eich Bathodyn Glas presennol (os ydych chi'n gwneud cais am un newydd)

 

Pryd i ail-ymgeisio

Nid ydym yn adnewyddu bathodynnau. Os bydd eich bathodyn yn dod i ben, bydd angen i chi ail-ymgeisio. Gallwch ymgeisio hyd at 12 wythnos cyn y bydd eich bathodyn presennol yn dod i ben. Nid ydym yn anfon llythyron atgoffa, oherwydd mae’r dyddiad y bydd y bathodyn yn dod i ben i’w gweld yn glir ar y bathodyn.

Dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben

Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich bathodyn sydd wedi dod i ben.  Os byddwch yn methu gwneud hyn gall eich bathodyn gael ei dynnu oddi wrthych.

Gallwch ddychwelyd bathodynnau yn y cnawd i’n swyddfeydd yng:

Nghoed Pella,
Conwy Road,
Bae Colwyn,
LL29 7AZ

neu drwy’r post i:

Blue Badge,
PO Box 1,
Conwy,
LL30 9GN

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Riportiwch unrhyw newid mewn amgylchiadau i bluebadge@conwy.gov.uk.

end content