Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ar ôl i chi wneud cais


Summary (optional)
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod ar ôl i chi wneud cais am Fathodyn Glas
start content

Os ydych chi wedi gwneud cais am Fathodyn Glas ar-lein a’ch bod wedi darparu eich cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. Cofiwch wirio eich e-byst spam neu sbwriel.


Mae’n bosibl y gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu eich cais.

Ni fyddwn yn ad-dalu cost tocynnau parcio tra byddwch chi’n aros am eich Bathodyn Glas i gyrraedd.

Os byddwn ni angen rhagor o wybodaeth

Os byddwn ni angen rhagor o wybodaeth am eich cais, byddwn yn cysylltu â chi naill ai trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost rydych chi wedi’i roi i ni.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi fynychu asesiad i drafod eich anabledd neu gyflwr. Bydd hyn o gymorth i ni benderfynu a ydych chi’n gymwys i gael bathodyn.

Os mai dyma’r achos, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad asesiad.

Pan fydd cais yn cael ei wrthod

Mae ein penderfyniad ar gymhwyster yn derfynol. Nid oes proses apeliadau. Fodd bynnag, os oes tystiolaeth ychwanegol ar gael yna gall ymgeisydd wneud cais ein bod ailystyried eich cais.

Ein nod yw cwblhau’r adolygiad a rhoi gwybod i chi beth yw’r penderfyniad o fewn 28 diwrnod gwaith.

Nodwch: Mae’r rheolau am gymhwyster ar gyfer Bathodyn Glas wedi newid yn sylweddol. Hyd yn oed os ydych wedi derbyn Bathodyn Glas yn y gorffennol, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn derbyn un eto.

Os na fydd ein penderfyniad wedi newid ar ôl yr adolygiad, gallwch gyflwyno cais newydd mewn 6 mis neu os bydd dirywiad sylweddol yn eich cyflwr.

Os oes newid yn eich amgylchiadau

Gallwch wneud cais eto am fathodyn os oes newid yn eich amgylchiadau a’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyso.

end content